Penalun

Oddi ar Wicipedia
Penalun
Pentref Penalun
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Benfro Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.6597°N 4.7228°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000461 Edit this on Wikidata
Cod OSSS117992 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auSamuel Kurtz (Ceidwadwyr)
AS/auSimon Hart (Ceidwadwr)
Map

Pentref, cymuned a phlwyf eglwysig yn Sir Benfro, Cymru, yw Penalun[1] (Saesneg: Penally).[2] Saif ger yr arfordir, fymryn i'r de-orllewin o dref Dinbych y Pysgod. Ceir yma orsaf ar gangen Doc Penfro o Reilffordd Gorllewin Cymru. Mae gan y fyddin faes tanio rhwng y pentref a'r môr. Mae Llwybr Arfordir Sir Benfro yn nadreddu drwy'r gymuned.

Yn ôl traddodiad, yma y ganwyd Sant Teilo, ac roedd clas cynnar yma. Yn yr eglwys, a gysegrwyd i Sant Nicolas a Sant Teilo ac sy'n dyddio o tua'r 13g, ceir dwy groes Geltaidd; ystyrir un o'r rhain gan lawer fel y gorau yng Nghymru.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Samuel Kurtz (Ceidwadwyr)[3] ac yn Senedd y DU gan Simon Hart (Ceidwadwr).[4]

Rhan o groes Geltaidd ym mynwent yr eglwys


Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7][8]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Penalun (pob oed) (848)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Penalun) (114)
  
13.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Penalun) (503)
  
59.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Penalun) (168)
  
43.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Enwogion[golygu | golygu cod]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 12 Tachwedd 2021
  3. "Gwefan Senedd Cymru". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-11-10. Cyrchwyd 2021-11-10.
  4. Gwefan Senedd y DU
  5. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  7. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  8. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]
  9. "GIBBON, BENJAMIN PHELPS (1802 - 1851), llin-ysgythrwr | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-03-16.