Benjamin Phelps Gibbon
Benjamin Phelps Gibbon | |
---|---|
Ganwyd | 1802 Penalun |
Bu farw | 28 Gorffennaf 1851 Llundain |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | engrafwr |
Roedd Benjamin Phelps Gibbon (1802 - 28 Gorffennaf, 1851) yn ysgythrwr Cymreig.[1]
Cefndir
[golygu | golygu cod]Ganwyd Gibbon ym Mhenalun, Sir Benfro yn blentyn i Benjamin Gibbon ficer plwyf Penalun a Jane ei wraig. Bu farw'r tad pan oedd y plentyn yn 10 oed gan hynny cafodd lle fel disgybl yn Yr Ysgol I Blant Amddifad Clerigwyr yn Acton Swydd Middlesex. Roedd yr ysgol yn bodoli i roi addysg sylfaenol mewn darllen, ysgrifennu a rhifyddeg i blant clerigwyr Anglicanaidd di-dad, hyd eu bod yn ddigon hen i'w rhoi mewn prentisiaeth.[2] Prentisiwyd Gibbon i'r ysgythrwr dotwaith Edward Scriven.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Wedi cyflawni ei erthyglau o brentisiaeth aeth Gibbon i weithio i'r llin-ysgythrwr John Henry Robertson yn swydd Buckingham. Daeth yn ysgythrwr o gryn allu trwy arloesi mewn cymysgu dotwaith a gwaith llinell yn ei blatiau.
Creodd Gibbon platiau ar gyfer llyfrau a gyhoeddwyd gan rai o argraffwyr mawr Llundain megis Cwmni Moon. Roedd llawer o'i waith yn copïo rhai o ddarlunwyr enwocaf ei gyfnod, megis Syr Edwin Landseer.[3] Ymysg ei blatiau yn seiliedig ar waith Landseer mae:
- The Twa Dogs, 1827;
- The Travelled Monkey, 1828;
- The Fireside Party, 1831;
- Jack in Office, 1834;
- Suspense, 1837;
- The Shepherd's Grave, 1838;
- The Shepherd's Chief Mourner, 1838;
- Be it ever so humble, there's no place like Home, 1843;
- The Highland Shepherd's Home, 1846;
- Roebuck and Rough Hounds, 1849.
Cynhyrchodd portreadau o'r Frenhines Victoria a'i gyn meistr, Edward Scriven.
Teulu
[golygu | golygu cod]Ni fu Gibbon yn briod ond rhoddodd gartref yn ei dŷ i nifer o blant amddifad.
Marwolaeth
[golygu | golygu cod]Bu'n wan ei iechyd o'i blentyndod a bu farw yn ei gartref yn Regent's Park, Llundain yn 47 mlwydd oed. Claddwyd ei weddillion ym mynwent Kensal Green.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "GIBBON, BENJAMIN PHELPS (1802 - 1851), llin-ysgythrwr | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-03-16.
- ↑ "History". Clergy Support Trust. Cyrchwyd 2020-03-16.
- ↑ "Gibbon, Benjamin Phelps (1802–1851), engraver | Oxford Dictionary of National Biography". www.oxforddnb.com. doi:10.1093/ref:odnb/10586. Cyrchwyd 2020-03-16.