Neidio i'r cynnwys

Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Teilo Sant

Oddi ar Wicipedia
Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Teilo Sant
St Teilo's Church in Wales High School
Arwyddair Education with Care
Ystyr yr arwyddair Addysg â Gofal
Sefydlwyd 1966
Math Cyfun, gwirfoddol cymorthedig
Cyfrwng iaith Saesneg
Crefydd Cristnogaeth
Pennaeth Ian Loynd
Lleoliad Circle Way East, Pen-twyn, Caerdydd, Cymru, CF23 9PD
Cyfesurynnau 51°30′16″N 3°09′20″W / 51.50454°N 3.15563°W / 51.50454; -3.15563
AALl Cyngor Caerdydd
Staff 80
Disgyblion 1,229 (2012)
Rhyw Cyd-addysgol
Oedrannau 11–18
Lliwiau Glas golau a thywyll
Gwefan http://stteilos.com


Ysgol uwchradd gyfun yn ardal Llanedern, Caerdydd yw Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Teilo Sant, a adnabyddir yn gyffredin fel Ysgol Uwchradd Teilo Sant. Enwyd yr ysgol ar ôl y Sant Teilo, un o seintiau cynnar Cymru sydd hefyd â pherthynas â Llydaw a ceir eglwys wedi ei gysegru iddo yn Amgueddfa Werin Cymru, Eglwys Sant Teilo.

Agorwyd yr ysgol ym mis Medi 1966 ar Heol Llanedern, Pen-y-lan, ar gyfer plant 11–16 oed. Mae'n darparu addysg gyfun eglwysig ar gyfer disgyblion uwchradd o ardal ddwyreiniol Caerdydd yn bennaf. Mae'n un o dair ysgol wirfoddol yn esgobaeth Llandaf sy'n derbyn cymorth ariannol gan y wladwriaeth, ond daw nifer o'i disgyblion o ardal ehangach gan gynnwys Esgobaeth Mynwy a Chaerffili. Fel ysgol wirfoddol gymorthedig, yr Awdurdod Addysg Lleol sy'n cynnal yr ysgol, ond mae'r egwyl yn gyfrifol, trwy gorff llywodraethu'r ysgol, am weinyddiaeth, cyllid ac ysbryd yr ysgol. Caiff y staff eu cyflogi gan y corff llywodraethu, a gofynnir iddynt gynnal yr ysgol a dysgu'r cwricwlwm cenedlaethal ar sail Cristnogol.

Lleolir yr ysgol mewn adeiladau newydd sydd y drws nesaf i Ysgol y Berllan Deg ar Circle Way East yn Llanedern, ar gost o £25m. Agorodd y safle ym mis Medi 2013 ar gyfer 1,440 o ddisgyblion. Dyluniwyd y safle newydd gan gwmni Austin-Smith:Lord ac fe'i hadeiladwyd gan Willmott Dixon.[1] Bydd hen adeiladau'n ysgol yn cael eu cymryd drosodd gan Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern.[2]

Adeilad newydd

[golygu | golygu cod]
Blaen yr adeilad newydd

Ym mis Medi 2013, symudodd Ysgol Uwchradd St Teilo yn swyddogol o’i lleoliad ar Ffordd Llanedeyrn i gaeau chwarae Ysgol Uwchradd Llanedeyrn, gyda’r hen safle’n dod yn gartref i Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern. Dyluniwyd yr ysgol newydd gan y penseiri Austin-Smith: Lord mewn dyluniad 'pum bys', i ddarparu ar gyfer dros 1400 o ddisgyblion.[3] Mae gan yr ysgol ddyluniad crwm sy'n gweithredu fel rhwystr cadarn yn erbyn y llygredd sŵn a achosir gan y nifer fawr o draffig ar ffordd yr A48 gerllaw.

Cyn-ddisgyblion adnabyddus

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1.  Our New School. Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Teilo Sant. Adalwyd ar 22 Mehefin 2012.
  2.  Gwybodaeth ychwanegol o ran trefniadau derbyn Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern. Cyngor Caerdydd (28 Hydref 2011). Adalwyd ar 22 Mehefin 2012.
  3. "ST TEILO'S CHURCH IN WALES HIGH SCHOOL CARDIFF – Austin-Smith:Lord" (yn Saesneg). Cyrchwyd 2019-06-19.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]