Dyfrig

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Ffenestr liw yn dangos llun dychmygol o Dyfrig.

Un o arweinwyr crefyddol Oes y Seintiau oedd Sant Dyfrig (Lladin Dubricius). Cysylltir ef â de Swydd Henffordd (Erging) ac ysgol Illtud Sant yn Llanilltud Fawr, Morgannwg. Yn ôl traddodiad roedd Dyfrig yn athro i Sant Deiniol, sefydlydd clas Bangor (Eglwys Gadeiriol Bangor) a Sant Teilo, sefydlydd Llandeilo Fawr. Ei ddydd gŵyl yw 14 Tachwedd.

Yn y Vita Samsonis, cyfansoddiad o 7g a'r ffynhonnell gynharaf am fywyd Dyfrig, roedd gryn dipyn yn hŷn na Sant Samson. Yma hefyd y cyslltir Dyfrig gydag Ynys Bŷr ond ni chredir fod cysylltiad rhyngddo â'r arysgrif ar garreg Ogham a geir ar yr ynys. Ceir tair buchedd, gan gynnwys gwaith Sieffre o Fynwy a Benedict o Gaerloyw, ond y bwysicaf ohonynt yw'r gynharaf, sef Llyfr Llandaf. Mae'r ddogfen yn nodi rhestr o diroedd a oedd i'w trosglwyddo o Esgobaeth Llandaf. Yma hefyd, dywedir fod Dyfrig yn fab i Ebrdil merch Pebiau brenin Ercych a bod elfennau gwyrthiol i'w enedigaeth ym Matle, 5 milltir a hanner i'r gorllewin o Henffordd pan iachaodd ei daid. Dywedir iddo sefydlu mynachlog 'Henlann' (sef Hentland-on-Wye) ac iddo breswylio yno am rai blynyddoedd.

Wedi dioddef afiechyd a henaint, aeth i Ynys Enlli i fyw fel meudwy ac yno y bu farw ac y claddwyd ef. Ond canrifoedd wedi hynny, ym Mai 1120, cludwyd ei gorff i Landaf. Credir, bellach, mai propoganda yw'r datganiad canoloesol iddo fod yn esgob Llandaf ac yn Archesgob De Prydain.

Mae'r 'Fuchedd' â'r 'Annales Cambriae' ill dau'n cofnodi dyddiad ei farw: 612, ond bellach credir iddo farw o leiaf canrif cyn hynny.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Cruz template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Gristnogaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.