Llandywynnog

Oddi ar Wicipedia
Llandywynnog
Mathpentref, plwyf sifil Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolSwydd Henffordd
(Awdurdod Unedol)
Daearyddiaeth
SirSwydd Henffordd
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau51.85°N 2.65°W Edit this on Wikidata
Cod SYGE04000908 Edit this on Wikidata
Cod OSSO550174 Edit this on Wikidata
Map

Pentref a phlwyf sifil yn Swydd Henffordd, Gorllewin Canolbarth Lloegr, yw Llandywynnog (Saesneg: Whitchurch).[1]

Saif Llandywynnog ar yr A40 – rhwng tref Mynwy yn y gorllewin a Rhosan ar Wy (Ross-on-Wye) yn y dwyrain; y dref agosaf yw Symonds Yat. Mae'n gorwedd yn Nyffryn Deuarth Fach (The Doward valley) o fewn Dyffryn Afon Gwy. Mae eglwys y plwyf wedi ei chysegui i Ddyfrig Sant (Saint Dubricius).

Yng Nghyfrifiad 2021 roedd gan y plwyf sifil boblogaeth o 964.[2]

Hyd at y 9g arferai'r gymuned fod yn Nheyrnas Erging, Cymru, cyn i wŷr Mersia ei hawlio, ac yna'n ddiweddarach, yn y 16C daeth yn rhan o Swydd Henffordd, Lloegr.[3] Ar ôl 1066 newidiwyd enw'r ardal yma (yr hen Erging Saesnig) i 'Archenfield'.

Mae'r enw Llandywynnog yn cyfeirio at Sant Tywynnog.[4]

Mae hen gartref y teulu Gwillim yn dal i sefyll, sef yr Old Court Hotel, lle y bu John Graves Simcoe (Llywodraethwr Canada Uchaf a sefydlydd dinas Toronto) a'i wraig Elizabeth Posthuma Gwillim, hefyd yn trigo am ysbaid.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. British Place Names; adalwyd 28 Tachwedd 2022
  2. City Population; adalwyd 28 Tachwedd 2022
  3. Colin Lewis, Herefordshire: the Welsh Connection (Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch, 2006)
  4. Welsh place names in Herefordshire; adalwyd 17 Mehefin 2016.