Ynys Bŷr

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Map o'r ynys (1952)

Ynys fechan yn y môr ar ymyl Bae Caerfyrddin i'r de o Ddinbych y Pysgod yn Sir Benfro yw Ynys Bŷr (Saesneg: Caldey Island o'r Hen Norseg Keld-Eye 'Ynys Oer'). Mae'n cael ei henwi ar ôl y mynach cynnar Pŷr (digwydd ei enw yn ail ran enw tref Maenorbŷr, ar y tir mawr cyferbyn â'r ynys, yn ogystal). Mae'r ynys tua tair milltir o hyd, ac o hinsawdd fwyn gyda'r awel gynnes yn dod i mewn o'r Iwerydd.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Priordy Ynys Bŷr

Mae'r ynys wedi bod yn lle i fyw ers canrifoedd. Mae archaeolegwyr wedi darganfod olion pobl oedd yn byw yn Hen Oes y Cerrig yn Ogof Nana ar yr ynys.

Mae'n debyg ei bod fwyaf adnabyddus am ei mynachlog. Adeiladwyd y gyntaf gan Sant Dyfrig yn y chweched ganrif. Clas Cymreig oedd y sefydliad hwnnw. Yn ôl un traddodiad, claddwyd Sant Cathen, sefydlydd Llangathen, yno. Yn amser y Normaniaid adeiladwyd priordy ar safle'r hen fynachlog ac mae rhan o'r hen adeilad yno o hyd. Yr oedd y Benedictiaid yno o 1136 tan i Harri VIII o Loegr ddiddymu'r mynachlogydd yn 1536. Sefydlodd grŵp Benedictiaid Anglicanaidd fynachlog ar yr ynys yn 1906, a derbyniwyd hwy i'r Eglwys Gatholig yn 1913. Oherwydd trafferthion ariannol, gwerthwyd yr ynys i’r Sistersiaid, a gyrhaeddodd yn 1929 ac sydd yno hyd heddiw.[1].

Mewn capel heb fod ymhell o'r priordy mae carreg gyda ysgrifen Ogam ac ysgrifen Ladin arni. Mae'r ogam yn darllen - 'Dyma (golofn) Moel Dolbrochion mab .......', a'r Lladin: 'Rwyf i wedi ei ddarpar â chroes. Gofynnaf i bawb a gerddo y ffordd hon weddïo dros enaid Cadwgan.'

Adeiladwyd goleudy ar yr ynys yn 1828.

Mynediad[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae llongau yn hwylio drosodd i'r ynys o Ddinbych y Pysgod yn rheolaidd yn nhymor yr haf.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. “Caldey Abbey”, adalwyd 11 Mawrth 2016

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: