Amgueddfa Werin Cymru

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Amgueddfa Werin Cymru
St Fagans Museum Main Building 2018.jpg
Math amgueddfa awyr agored Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1948 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Sain Ffagan Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 51.4869°N 3.2725°W Edit this on Wikidata

Amgueddfa awyr-agored sy'n cofnodi hanes phensaerniaeth, diwylliant a ffordd o fyw y Cymry yw Amgueddfa Werin Cymru. Mae'n rhan o Amgueddfa Cymru. Lleolir yr amgueddfa yn nhiroedd castell Sain Ffagan, ar gyrion Caerdydd.

Mae'r amgueddfa yn nodedig am ei chasgliad o adeiladau traddodiadol a symudwyd yno o bob rhan o Gymru, carreg wrth garreg. Mae'n gofnod gwerthfawr o hanes y genedl ac er mwyn arddangos ac astudio agweddau ar ddiwylliant Cymru o'r 15g ymlaen, gan gynnwys pensaernïaeth draddodiadol, crefftau, offer amethyddol, llên gwerin, dillad, ac ati. Mae yno hefyd nifer o dai Celtaidd wedi'u codi ac arteffactau o'r cyfnod ynghyd ag elfen o ail-greu ac ail-actio cyfnod o'n hanes.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Syniad y bardd a'r arbenigwr llên gwerin Iorwerth C. Peate oedd sefydlu'r amgueddfa, ar sail Skansen, sef amgueddfa awyr-agored pensaerniaeth brodorol Sweden yn Stockholm. Ond roedd rhan fwyaf o adeiladau Skansen yn rai pren, a byddai amgueddfa tebyg yng Nghymru yn naturiol yn fwy uchelgeisiol ocherwydd fod adeiladau brodorol Cymru wedi eu adeiladu o gerrig yn bennaf. Dechreuwyd y gwaith o ddatblygu'r amgueddfa ym 1946 yn dilyn y rhodd o'r castell a'i thiroedd gan Iarll Plymouth, agorodd yn swyddogol ym 1948. Peate oedd y curadur cyntaf, ac fe'i olynwyd gan Trefor M. Owen.

Cynlluniwyd prif adeilad yr amgueddfa gan Dale Owen, yn gweithio ar gyfer Partneriaeth Percy Thomas, ac fe'i adeiladwyd rhwng 1968 a 1974.[1] Enillodd y Fedal Aur am Bensaernïaeth yn Eisteddfod Genedlaethol 1978.[2]

Adeiladau yn Amgueddfa Werin Cymru[golygu | golygu cod y dudalen]

Llun Enw Dyddiad Ail-godwyd Safle wreiddiol Sir
(traddodiadol)
Sir
(presennol)
Nodiadau pellach
Celtic Village St Fagans 01.JPG Pentre Celtaidd 1992 Sain Ffagan Caerdydd Replica ar sail adfeilion yng Ngwynedd, Sir y Fflint a Swydd Gaerwrangon.[3]
Hendre'r Ywydd Uchaf farmhouse, St Fagans.jpg Ffermdy Hendre'r Ywydd Uchaf 1508[4] 1962 Llangynhafal Sir Ddinbych Sir Ddinbych
IMG 1268.jpg Eglwys Sant Teilo 1100 - 1520 2007[4] Llandeilo Tal-y-bont, Pontarddulais Sir Forgannwg Abertawe Ymddengys fel yr oedd tua 1510-30[5]
Welsh Longhouse.jpg Ffermdy Cilewent Dechreuwyd 1470

(Ffurf bresennol: 1734)

1959 Llansanffraid Cwmdeuddwr, Rhaeadr Gwy Sir Drefaldwyn Powys
Amgueddfa Werin Cymru.jpg Y Garreg Fawr 1544[4] 1984 Waunfawr Sir Gaernarfon Gwynedd
Stryd Lydan Barn, St Fagans, from north-east.jpg Ysgubor Stryd Lydan tua 1550 1951 Llannerch Banna Sir y Fflint Wrecsam [6]
Garden Castle St Fagans 12.JPG Castell Sain Ffagan 1580 Sain Ffagan Sir Forgannwg Caerdydd
Barn, National History Museum of Wales.jpg Ysgubor Hendre Wen Tua 1600 1982 Llanrwst Sir Ddinbych Conwy
Cockpit St Fagans 3.JPG Talwrn Dinbych 17g 1970 Hawk and Buckle Inn, Dinbych Sir Ddinbych Sir Ddinbych
Farmhouse, St Fagans.jpg Ffermdy Kennixton 1610 1955 Llangynydd Sir Forgannwg Abertawe Ailgodwyd y ffermdy yn wreidddiol heb yr adeiladau fferm cyfagos, oherwydd bod y rhain dal yn cael eu defnyddio, ond yn 2007 fe'u cynigwyd i'r amgueddfa.[7]
Abernodwydd Farmhouse.jpg Ffermdy Abernodwydd 1678 1955 Llangadfan Sir Faldwyn Powys
Walesi kovács2.jpg Efail Llawr-y-Glyn 18g 1972 Llawr-y-Glyn Sir Drefaldwyn Powys
Tannery St Fagans 2.JPG Tanerdy Rhaeadr Gwy hwyr yn y 18g 1968 Rhaeadr Gwy Sir Drefaldwyn Powys
Melin wlân Esgair Moel, Sain Ffagan.jpg Melin Wlân Esgair Moel 1760 1952 Llanwrtyd Sir Frycheiniog Powys
Bwthyn Llainfadyn 1762 1962 Rhostryfan Sir Gaernarfon Gwynedd
Nant Wallter Cottage St Fagans.jpg Bwthyn Nant Wallter Tua 1770 1993 Taliaris Sir Gaerfyrddin Sir Gaerfyrddin
Toll St Fagans 1.JPG Tolldy Penparcau 1772 1968 Penparcau, Aberystwyth Sir Aberteifi Ceredigion
Chapel St Fagans 1.JPG Capel Pen Rhiw 1777 1956 Dre-fach Felindre Sir Gaerfyrddin Sir Gaerfyrddin
Meadow St Fagans.JPG Beudy Cae Adda 18fed–19eg ganrif 2003 Waunfawr Sir Gaernarfon Gwynedd
Pigsty St Fagans 1.JPG Twlc mochyn Hendre Ifan Prosser tua 1800 1977 Hendre Ifan Prosser Sir Forgannwg Rhondda Cynon Taf
Cottages from Rhyd-y-Car, now at St Fagans.jpg Bythynnod Rhyd-y-Car Tua 1800 1986 Rhyd-y-Car, Merthyr Tudful Sir Forgannwg Merthyr Tudful Chwech o dai teras wedi eu creu i gynrychioli chwe chyfnod cronolegol yn ystod y diwydiant haearn: 1805, 1855, 1895, 1925, 1955, 1985
Ffermdy Llwyn-yr-Eos.jpg Ffermdy Llwyn-yr-Eos Dechreuwyd 1820 Sain Ffagan Sir Forgannwg Caerdydd Fferm wreiddiol o ystâd Castell Sain Ffagan. Agorwyd fel rhan o'r amgueddfa ym 1989.
Melin Bompren, Sain Ffagan.jpg Melin ŷd Bompren 1852– 1977 Cross Inn Ceredigion
Sied wair Maentwrog, Sain Ffagan.jpg Sied wair 1870 1977 Maentwrog Gwynedd Dim ond y tirfeddianwyr cyfoethocaf oedd yn codi'r fath siediau gwair ar gyfer eu deiliaid.[8]
Tŷ haf, Sain Ffagan.jpg Tŷ haf tua 1880 1988 Parc Bute, Caerdydd Sir Forgannwg Caerdydd
Gwalia stores - Außen.jpg Siop Gwalia 1880 1991 Cwm Ogwr, ger Pen-y-bont ar Ogwr Sir Forgannwg Pen-y-bont ar Ogwr Ymddengys fel yr oedd yn y 1920au
School (Maestir,Lampeter) - Klassenzimmer.jpg Ysgol Maestir defnyddiwyd 1880–1916 1984 Llanbedr Pont Steffan Sir Aberteifi Ceredigion
St Fagans sawmill.jpg Melin lifo Llanddewi Brefi 1892 1994 Tŷ'n Rhos, Llanddewi Brefi Ceredigion
Tailor´s shop - Außen.jpg Siop teiliwr Cross Inn 1896 (ymhelaethwyd 1920au) 1992 Cross Inn Ceredigion
Pottery St Fagans 2.JPG Crochendy Ewenni tua 1900 1988 Ewenni Sir Forgannwg Bro Morgannwg
Derwen Bakehouse.jpg Popty'r Dderwen 1900 1987 Thespian Street, Aberystwyth Sir Aberteifi Ceredigion Caewyd 1924
Workers Institute St Fagans 1.JPG Institiwt y Gweithwyr, Oakdale 1916 1995 Oakdale, Y Coed Duon Sir Fynwy Caerffili
Gweithdy Cyfrwywr 1926 1986 Sanclêr Sir Gaerfyrddin Sir Gaerfyrddin
Tudor1.jpg Tŷ Masnachwr 1580 2012 Hwlffordd Sir Benfro Sir Benfro
Swyddfa bost Blaen-waun.jpg Swyddfa bost 1936 1992 Blaen-waun, ger Hendy-gwyn ar Daf Sir Gaerfyrddin Sir Gaerfyrddin Ymddengys fel yr oedd yn yr Ail Ryfel Byd[9]
Prefab at St Fagans.jpg Pre-fab 1948 1998 Gabalfa Sir Forgannwg Caerdydd Ymddengys fel yr oedd tua 1950[10]
House for the future, St Fagans.jpg Tŷ Gwyrdd
("Tŷ'r Dyfodol" yn wreiddiol)
2001[11] Sain Ffagan Caerdydd Ar y cyd gyda'r BBC. Ysbrydolwyd gan ddulliau adeiladau traddodiadol a thechnoleg werdd.[12]
Iron Age roundhouses at St Fagans.jpg Bryn Eryr 2016 Llansadwrn Sir Fôn Caerdydd
The Vulcan Hotel, Adam St, Cardiff.jpg Tafarn y Vulcan Caerdydd

Digwyddiadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r amgueddfa wedi cynnal yr "Everyman Open Air Theatre Festival" (a ddechreuodd ym 1983) ers 1996,[13] pan symudwyd yno o Erddi Dyffryn ger Casnewydd. Mae'r ŵyl yn cynnwys drama Shakespeare, cynhyrchiad gerddorol a sioe ar gyfer y teulu, ac mae wedi dod yn rhan elfennol o galendr theatr yng Nghymru dros y 25 mlynedd diwethaf.

Ffilmwyd y rhan fwyaf o benodau Doctor Who "Human Nature" a "The Family of Blood" yn Sain Ffagan.

Ffynonellau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Newman, John (1995). Glamorgan. The Buildings of Wales. Llundain: Penguin. p. 559. 
  2.  Medal Aur am Bensaerniaeth. Eisteddfod Genedlaethol Cymru. Adalwyd ar 3 Awst 2015.
  3.  Adeiladau Hanesyddol. Amgueddfa Werin Cymru.
  4. 4.0 4.1 4.2  Y Tuduriaid. Amgueddfa Werin Cymru.
  5.  Symud eglwys ganoloesol i Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru. Amgueddfa Cymru: Rhagor.
  6. Ysgubor Stryd Lydan, Amgueddfa Werin Cymru, 1 Mehefin 1951. Casglu y Tlysau. Cyrchwyd 3 Mehefin 2010
  7.  Beech, Gareth. Ffermydd Kennixton a Cilewent. Amgueddfa Cymru. Adalwyd ar 2 Rhagfyr 2013.
  8. Perthyn - St. Fagans Museum (Excerpt) | Scribd (Saesneg). Cyrchwyd 3 Mehefin 2010.
  9.  Swyddfa Bost lleiaf Cymru yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru. Amgueddfa Cymru: Rhagor.
  10.  Cartref parhaol ar gyfer tŷ dros dro: y pre-fab yn Sain Ffagan. Amgueddfa Cymru: Rhagor.
  11.  House for the Future. Carpenter Oak & Woodland.
  12.  Tŷ Gwyrdd. Amgueddfa Werin Cymru.
  13. Everyman Open Air Theatre Festival

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]