Castell Sain Ffagan

Oddi ar Wicipedia
Castell Sain Ffagan
Mathmaenordy, castell Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadSain Ffagan Edit this on Wikidata
SirCaerdydd
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr27.5 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.4864°N 3.26897°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd I Edit this on Wikidata
Manylion

Adeiladwyd Castell Sain Ffagan ddiwedd y 16g, er ei fod yn sefyll ar safle adfail Normanaidd. Mae'n un o'r adeiladau pwysicaf o oes Elisabeth I yng ngwledydd Prydain[1] ac mae ynddo rai o'r dodrefn gwreiddiol. Trosglwyddwyd y tŷ i Amgueddfa Werin Cymru yn 1946 gan yr Arglwydd Robert Windsor-Clive (a ddaeth yn ddiweddarach yn Iarll Plymouth).

Dechreuwyd y gwaith ar y tŷ yn 1580 gan naill ai John Gibbon, neu gan ei frawd Nicholas Herbert a'i wraig a chafodd ei ailwamio a'i foderneiddio yn y 19eg ganrif. Gwerthwyd y tŷ gan fab William Gibbon, mab John, i Edward Lewis o'r Fan, Caerffili. Edward wnaeth lawer o'r gwaith addurno a garddio ar y safle, gan gynnwys gosod y ddyfrgist blwm a'r pyllau dŵr.

Daeth y bennod nesaf ym mywyd y tŷ yn 1730 pan briododd Elizabeth Lewis ag Other, trydydd Iarll Plymouth a nawfed Barwn Windsor. Roedd y pâr yn byw yno nes i Other farw yn ddim ond 25 oed, flwyddyn cyn ei wraig ifanc. Other Lewis Windsor, plentyn bach 18 mis, oedd eu hunig etifedd a aeth i fyw gyda'i deulu. Yn y cyfnod hwnnw fe osodwyd y tŷ ar rent.

Etifeddwyd Castell Sain Ffagan gan y Foneddiges Harriet Clive, gwraig Robert, ail fab Iarll Plymouth. Rhoesant y tŷ i'w mab, Robert Windsor-Clive (27 Awst 1857 – 6 Mawrth 1923), yn 1852 fel cartref iddo ef a'i wraig newydd. Etifeddodd Robert y teitl "Isiarll Windsor o Sain Ffagan" yn 1905 ac roedd yn faer Caerdydd rhwng 1895 a 1896. Gwariodd y pâr newydd filoedd o bunnau ar wella'r tŷ ac aeth y gwaith yn ei flaen tan farwolaeth Robert ar ôl dwy flynedd o fywyd priodasol. Efeithiodd hyn yn syfrdanol ar ei wraig a oedd yn gorfod dygymod â magu teulu a rhedeg y tŷ. Gwnaeth y pensaer W. P. James y rhan fwyaf o'r gwaith ar y tŷ yr adeg honno.[2]

Ar ôl iddo briodi yn 1883 a chael ei fab cyntaf y flwyddyn wedyn, teulu Robert George, Arglwydd Windsor, oedd y rhai nesaf i fwynhau byw yn y tŷ wrth iddynt dreulio'u gwyliau haf yno. Nhw sy'n gyfrifol am ailaddurno'r tŷ ac a ymgymerodd ag ychydig o waith ailadeiladu hefyd. Gosodwyd system drydan yn y castell adeg Robert George, a oedd yn defnyddio dŵr o felin ŷd y pentref. Mae arddull ac addurniad presennol Castell Sain Ffagan yn dyddio'n ôl i'r cyfnod hwn ar droad yr 20g.

Cyflwynwyd yr adeilad i Amgueddfa Genedlaethol Cymru yn 1946 ac fe agorwyd y tiroedd fel Amgueddfa Werin Cymru yn 1948.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]