Neidio i'r cynnwys

Gerddi Dyffryn

Oddi ar Wicipedia
Gerddi Dyffryn
Matharboretwm, gardd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadTŷ Dyffryn Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr52.4 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.4435°N 3.30309°W Edit this on Wikidata
Rheolir ganyr Ymddiriedolaeth Genedlaethol Edit this on Wikidata
Map
Perchnogaethyr Ymddiriedolaeth Genedlaethol Edit this on Wikidata

Plasdy â dros 55 erw o erddi[1] yw Gerddi Dyffryn, a leolir ger pentref Sain Nicolas yng nghymuned Gwenfô, Bro Morgannwg.[2] Mae'n eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.[1] Adeiladwyd Tŷ Dyffryn mewn arddull tebyg i château Ffrengig ar gyfer y diwydiannwr John Cory, rhwng 1893 â 1894. Ceir nifer o fentyll simnai hanesyddol y tu fewn.[2] Cynlluniwyd y gerddi gan Thomas Mawson gyda chyfraniad hefyd gan Reginald Cory, mab John Cory, a etifeddodd yr ystâd ym 1906; roedd yntau'n arddwr brwd.[3] Yn ôl Cadw, a benodd statws rhestredig Gradd I i'r gerddi, dyma "gerddi Edwardaidd crandiaf a godidocaf Cymru. Mae'r gerddi i'w cymharu â rhai o erddi gorau'r cyfnod ym Mhrydain".[3] Gradd II* yw statws rhestredig Tŷ Dyffryn.[2] Mae Gerddi Dyffryn wedi ymddangos sawl gwaith ar raglen y BBC Doctor Who; ar un o'r achlysuron hyn chwaraeodd ran Palas Versailles.[4]

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1 2 (Saesneg) Dyffryn Gardens. Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Adalwyd ar 24 Ionawr 2015.
  2. 1 2 3 (Saesneg) Dyffryn House, Wenvoe. British Listed Buildings. Adalwyd ar 24 Ionawr 2015.
  3. 1 2 (Saesneg) Donovan, Gerry (Gaeaf 2005–6). Dyffryn Gardens and Arboretum: Restoration and the Centenary. The Bulletin. Ymddiriedolaeth Gerddi Hanesyddol Cymru. Adalwyd ar 24 Ionawr 2015.
  4. ↑ (Saesneg) Dyffryn Gardens. Doctor Who: The Locations Guide. Adalwyd ar 24 Ionawr 2015.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]