Waunfawr

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Waunfawr o gyfeiriad Bryn Mair.

Pentref a chymuned yng Ngwynedd yw Waunfawr (weithiau Waenfawr). Mynna rhai y ffurf gywirach Y Waunfawr (cf. Y Bala, Y Bontnewydd). Mae'n bentref sylweddol o faint ar y ffordd A4085 rhwng Caernarfon a Beddgelert, ar lan Afon Gwyrfai. Mae yno orsaf ar Reilffordd Ucheldir Cymru ym mhen deheuol y pentref.

Waunfawr yw cartref Antur Waunfawr, elusen sy'n darparu gwaith bar gyfer yr anabl trwy gynnal nifer o brosiectau, yn cynnwys safle Bryn Pistyll yn Waunfawr ei hun, sy'n cynnwys gerddi, caffi a siop grefftau.

Yn 1914 adeiladodd cwmni Marconi orsaf ddarlledu ger y pentref, oedd yn gyrru negeseuon i orsaf dderbyn ger Tywyn. Bu'r adeilad wedyn tan heddiw yn ateb sawl diben ar dro, o glwb nos i ganolfan fynydda.

Yr Hen Waun[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyn cau'r tiroedd comin[1] roedd comin Cefn Du (arwynebedd o rugdir llwm uwch ben y pentref a man sefydlu Chwarel Cefn Du a fu ar waith tan y 1920au) yn ymestyn llawer pellach nag y mae heddiw ac yn amgylchynu mân bentrefi'r Waun. Soniai Mary Vaughan Jones bod comin Cefn Du cyn y Deddfau Cau, yn ymestyn ddwy filltir ymhellach i lawr am Gaernarfon nag y mae heddiw, mor bell yn wir, meddai, a fferm Hafod y Rhug Isaf (bron yng Nghaeathro). Er i'r tir yma ers tro byd gael ei droi yn gaeau gwair, sulwair neu borfa, gellir canfod pob math o lwyni yn y cloddiau, llwyni a berthynai ar un adeg i gomin mawr Cefn Du. Gwaddol o hen weddillion yr hen gomin yw'r coed llus sy'n tyfu ymhell o'r gweundir grugiog heddiw, neu eithin mân lle disgwylid eithin Ffrengig. Yn wir mewn un neu ddau o lecynnau mae'r gorhelygen, mwy cyfarwydd heddiw yn y morfeydd cyfagos, yn tystio i amrywiaeth llystyfiant y waun hon ar un adeg.

Mae erthyglau Gwilym Morris Jones yn Eco'r Wyddfa yn crisialu llawer i agwedd ar fywyd a gwaith yn yr hen 'Weun', yn yr ugenfed ganrif. Dyma rai pigion ohonynt. Mae GMJ yn frodor y Weun a mab y ddiweddar Mary Awstin Jones, gwraig ddiwylliedig o Fetws Garmon cyfagos a gyfrannodd gyfoeth o wybodaeth i draethawd doethuriaeth y Dr. John Owen Huws (hefyd yn frodor o'r Waun ac yn aelod o staff ymchwil yr Amgueddfa Werin cyn ei farwolaeth ddisymwth yn [blwyddyn]) ar lên gwerin y cylch.

Y Ffatri Wlân a'r mân bentrefi

Yn amlwg roedd ffatri wlân Waun Dreflan yn ganolbwynt i fywyd ac economi'r pentref.

"Tybed faint o drigolion y Waunfawr heddiw sydd yn gwybod, neu efallai wedi clywed am yr hen Ffatri Wlan oedd yn bodoli yn y pentref yn yr hen amser. Roedd Waunfawr yn y dyddiau cynnar wedi ei rannu yn fan bentrefi ar ymylon y corsdir, gyda enwau arnynt fel, Treflan, Ty Ucha r Ffordd, Ty'n Gerddi, Bryn Eithin, Bryn Pistyll, Tai Isa, Pentra Waun a Hafod Olau. Tai bychain unllawr oedd y rhan fwyaf o'r cartrefi gyda, dau le tân a siambr fechan i gysgu ynddi. Yn ardal Treflan, neu Waun Dreflan fel yr adwaenid yn y ddeunawfed ganrif, roedd yr hen Ffatri Wlan yn ffynnu ac yn ei hanterth gyda nifer o wehyddion yr ardal yn cael eu cyflogi i nyddu gwahanol frethynnau o ddilladau, gwlanenni, gwrthbannau, a charthenni."
Gwilym Morris Jones[2].
Y Pot Golch

Roedd y gwaith o gyflenwi amghenion y ffatri yn cael ei rannu gan y pentref cyfan - fel hyn:

......rhaid oedd i'r trigolion ar pob galwad, ddefnyddio'r ty-bach yng ngefn y ty neu waelod yr ardd, ar waethaf y tywydd. Gan fod hyn yn creu anhwylustod yn y nos, cedwid potyn pwrpasol, 'pot golch' fel y'i gelwid o dan y gwely ar gyfer galwad natur. Ymhen ychydig ddyddiau, deuai dyn o'r Ffatri Wlan o gwmpas yr ardal gyda throl a cheffyl i gasglu cynnwys y potiau a'i dywallt i gasgenni pwrpasol yng nghefn y drol a'i gludo yn ôl i'r ffatri. Unwaith yn y ffatri, tipiwyd y gwlan yn y casgeni a'i adael am ychydig amser i socian. Wedi iddo socian, ei osod fel blanced neu gynfasen ar y llawr yn barod i'w hollti'n fan sdribedi o edafedd. Byddai'r Ileithder a'r amonia yn y golch wedyn fel olew yn hwyluso'r broses nyddu. Wedi eu nyddu, golchwyd y gwlanneni yn wyn ac yn Ian yn y nant fechan oedd yn llifo ychydig latheni oddiwrth yr adeilad i wared a'r budredd ac effaith y golch oddi arnynt. Yna, gosodwyd y gwlanneni o flaen y tân neu allan yng ngwres yr haul i sychu. Anodd credu heddiw y fath arogl fyddai'r gwehyddion druan yn gorfod ei ddiodde yn y ffatri yr adeg honno."
Gwilym Morris Jones[2].
Allt Gorffwys

Aeth enwau llawer o nodweddion y plwyf yn anghof gyda'r newid byd diweddarach:

Ychydig iawn o bobl y dyddiau yma sy'n ymwybodol o'r hen enw Allt Gorffwys.... Yn yr hen amser, ymhell cyn dyfodiad trafnidiaeth modern a phrysur fel y mae heddiw, roedd yn arferiad i lawer o bobl pentrefi fel y Waunfawr a Betws Garmon gerdded y ffordd adref o Gaernarfon. Golygai hyn ddringo gelltydd hir a serth hynod flinedig. Un o'r gelltydd yma oedd Allt Gorffwys,' sy'n ymestyn oddeutu dri chwarter milltir bentref Caeathro hyd at Ben-y-Cefn, hanner ffordd i Waunfawr. Wedi cyrraedd pen yr allt, byddai llawer wedi llwyr flino ac allan wynt, ac er mwyn cael seibiant a'i gwynt atynt, byddant yn eistedd neu orwedd am ychydig amser wrth y clawdd i gael gorffwys, cyn ail gychwyn ar y ffordd am adref."
Gwilym Morris Jones[2].

Ymhen amser, daeth tro ar fyd i fywyd yr hen Ffatri Wlan meddai Gwilym. Gyda'r oes a'r ffasiwn yn brysur newid, roedd ei dyfodol dan fygythiad ac yn y fantol. Aeth y dynion i wisgo dilladau diweddaraf y dydd, a'r merched sidanau a ffriliau, ac o ganlyniad Ileihau oedd nifer yr archebion am ei chynnyrch. Roedd y chwareli hefyd erbyn hyn yn dechrau dod i'r amlwg, ac yn denu a chyflogi nifer o ddynion yr ardaloedd o gwmpas.

Tro ar fyd
Erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd yr hen ffatri wedi hen ddadfeilio a throi yn furddun ac mae olion yr hen le i'w weld ar y safle hyd heddiw. Mynnai y diweddar annwyl Robat Griffith, Tyr' Ronnen, Waunfawr yn ystod ail hanner y ganrif ddiwethaf, fod ganddo yn ei feddiant garthen oedd wedi ei gwneud yn yr hen Ffatri Wlan. Ar y garthen roedd patrwm o gastell Caernarfon mewn lliwiau coch a glas tywyll, a chadwai'r garthen ar ei wely i'w gadw'n gynnes yn y nos. Tybed os oes rhywun heddiw a charthen o'r hen Ffatri Wlan Treflan yn eu meddiant.
Gwilym Morris Jones[2].

Llecynnau llafar[golygu | golygu cod y dudalen]

Llyn Llam Dda

Cofnododd y diweddar Mary Vaughan Jones (Naturiaethwraig), Plas Glanrafon ar y pryd yr enw hwn yn un o'i "llyfrau cownt" adaryddol a gadwodd yn 1949. Mae'r nodwedd hon yn yr Afon Gwyrfai yn syth o dan y Plas, ac yn ôl pob golwg yn anhysbys i bobl Y Waun erbyn hyn (ond efallai'n fwy hysbys erioed i bobl y Bontnewydd). Dywedodd Arthur Davies, perchennog presennol Y Plas, mai fel Llyn Llam Fawr mae o yn adnabod y llecyn, neu yn amlach, yn ôl plant Y Bontnewydd gerllaw sydd yn mynd yno i ymdrochi yn yr haf, fel Llyn Tchaen.

Daeth Dafydd Whiteside Thomas o hyd i gofnod cynharach o Llyn Llam Dda yn 1884. Fe’i cofnodir yn y Caernarfon and Denbigh Herald (5/7/1884) yn son am fachgen 15eg oed; William Roberts o Ebenezer oedd yn milk-boy at Glanrafon Fawr farm, who bathed in the pool Llyn Llam Dda and rashly plunged into the water to a spot considerably out of his depth, and was drowned.


Llyn Tchaen

Galwyd yr uchod yn Llyn Tchaen mae'n debyg ar ôl gosod rhyw fath o weiran gyda chadwyn tchaen wrthi fel canllaw. Mae'r gadwyn braff mor sownd ag erioed heddiw ar un ochr "y llam". (2016).


Carreg Blwm

Carreg plymio gyda phwll dwfn odditani yw hon. Yma aeth plant Croesywaun i nofio yr haf cyn oes y pwll nofio go iawn (mi oedd pwll nofio 'llanw' dros yr aber yng Nghaernarfon ar y pryd). Nid yw'n bell i fyny'r afon Gwyrfai o Bompren Wredog. Mae'r graig yn perthyn i'r oesoedd ond mae'n debyg y bu i'r enw arni fynd ar goll erbyn diwedd y 1950au. Mae'r enw wedi ei gofnodi ym mhapurau Mary Vaughan [3] ac fe soniodd amdano unwaith ar un o raglenni cynnar S4C. Pwll Glas oedd enw'r pysgotwr Trefor Beech ar y pwll gerllaw (cys. pers. DB)

Yr Eilands

Ynysoedd yw rhain yn yr afon Gwyrfai o dan Fron Goediog lle roedd plant y pentre yn gosod rhaffau ac yn bowndian o un ynys a'r llall. Mae Pwll Eilands yn bwll pysgota (TB).

Mynydd Mawr

Gellir tybio bod y ffurf eliffant sydd ar y Mynydd Mawr wedi ei serio am byth ar gof pob brodor Y Waun. Dyna'r ffurf a welir o'r pentref, ond nid wrth gwrs o'i ochr arall, Dyffryn Nantlle lle nas gelwir ef hyd yn oed yn Mynydd Mawr ond yn hytrach yn Mynydd y Grug. Ni wyddys pryd yr adnabuwyd y mynydd hwn gyntaf fel Yr Eliffant - benthyciad diweddar gan Saeson cyndyn i fentro dweud yr enw 'iawn' yw 'Reliffant' a llygriadau tebyg ar dafod lleferydd pentrefwyr brodorol.
Mae yna ddelwedd yn Antur Waunfawr yn dyddio o ddiwedd yr 18g yn dangos Y Mynydd Mawr yn ei ogoniant ond â digon o wyriad o'r hyn a welir go iawn i ddangos na welodd yr ysgythrwr unrhyw eliffant yn ffurf y Mynydd Mawr, os yn wir y gwybu am fodolaeth eliffant o gwbl. 'Nyddfor' oedd un ffurf ar Mynydd Mawr ar lafar hyd hanner cyntaf yr 20g (dywedodd Prys Morgan Jones, Pant Cae Haidd, mai Nyddfor a ddywedai ei dad William pob amser; dywedai Bompren Wredog am y bont bren ger y fferm Gwredog Isa yn yr un modd). Mynyddfawr oedd y ffurf ysgrifenedig a ddefnyddiodd Owain Gwyrfai (gweler Waun Bant isod).

Bont Cob

Pont a thorlan ar y Wyrfai yw hwn, y dorlan wedi ei wneud o lechi lle'r arferai plant Weun (i'w gyferbynnu a phlant Croesweun) fynd i ymdrochi yr haf. Boddwyd bachgen o'r enw David Munro yno yn y 1950au.

Waun Bant
  • Y Planedau liw dydd
Yr ydwyf yn cofio yr adeg pan oedd Owen Williams Owain Gwyrfai 1790-1874] yn lladd mawn yn y Waenpant [Waun Bant heddiw], tua'i chanol, ond ychydig yn nes i ochr Moel Eilio [sylwer Eilio nid Eilian fel mae pobl Waunfawr yn arfer dweud]; ac ar ôl cael tamaid i fwyta, hanner dydd, ar ddiwrnod braf a chlir yn yr hâf, dywedodd wrthyf yn sydyn, ‘Tyred gyda mi i ganol Waenpant yma, gael i ti weled sêr y ffurfafen gefn ganol dydd: nid wyf yn gwybod eu bod hwy i'w gweled mewn un man yng Nghymru ond yn y fan yma’. Felly ni a aethom yno. ‘Dyma nhw......planedau mawrion ydyw y rhai hyn’ a syllai arnynt yn ddifrifol am beth amser... Mi feddyliais ar ôl hyn, mai uchelder y mynyddoedd oedd yr achos - sef Mynyddfawr, Moel Eilio, a'r Wyddfa, gan roddi iddynt gysgodrwydd yn y ffurfafen, fel y gallai llygaid dynol eu gweled!!
Owain Gwyrfai[4]

.

  • Y Bureau mawn:
Ar ôl cael mawn i lawr hefo y car sledge i'r ty, yr oedd Owain Williams yn arfer rhoddi gwahoddiadau i rai o'i gyfeillion yng Nghaernarfon a'r Waenfawr i ddyfod i weled y Bureau oedd ganddo yn y ty. Ac er eu syndod, beth oedd hwnnw ond tas o fawn o'r Waenpant, wedi ei phacio yn ofalus ar ochr y pared oddi fewn i'r tŷ, o'r hyn y cawd cryn hwyl a chwerthin"
Owain Gwyrfai[4]

[4]

  • Waun bant ynteu Waunpant?

Fel Waun bant yr ynganwyd enw'r hafn a redai o Fwlch y Groes wrth odre Moel Eilian (Eilio) yn negawdau canol y ganrif ddiwethaf yn ddiffael. Sylwer fodd bynnag mai fel Waunpant, - ynganiad llafar cwbl ddieithr i bobl Waunfawr heddiw - y dyfynnodd Thomas Williams (1904) eiriau Owen Gwyrfai[4] mewn oes ganrif ynghynt. Sut mae esbonio hynny? Y gyntaf y mae'r glust Cymraeg fodern yn ei ffafrio mae'n siwr. Ai difaterwch am dreiglo sydd yn esbonio sillafiad Owain Williams, ynteu cywirdeb clasurol? Mae perthynas genidol neu perthynnol, nid ansoddeiriol, rhwng (w)aun a pant (yn wahanol i (g)waun a fawr, treiglad meddal ar ôl enw benywaidd. Yr hen ddull gan amlaf oedd peidio treiglo gair mewn perthyn golleddol yn y berthynas perthynol (ee. Bangor, Dinas Dysg [Bangor, City of Learning] nid Ddysg fel fyddai cenedl benywaidd dinas yn ei orchymyn fel arall. A ydym yn gweld newid arferion ieithyddol llafar yn iaith Arfon rhwng y 19-20g. yn fan hyn ynteu mympwy. Mae yna gymhlethdod fodd bynnag: ymddengys i Owain Gwyrfai asio waun a pant yn un gair Waunpant, ac wrth wneud hynny, fe ddylid achosi treiglad (cf. Llan Pedr > Llanbedr).

Moel Eilian

Mae’r Waunfawr wedi ei fritho gan dai yn dwyn enwau fel Trem Eilian, Bron Eilian ac yn y blaen. Ni chlywir brodor o’r pentref byth yn galw’r mynydd ond wrth yr enw Moel Eilian. Ond Moel Eilio ydyw ar pob map ac i bawb nad ydynt yn hannu o'r pentref.

Yn Ysgrifau Wynnstay ymddangosodd y mynydd hwn yn 1538 fel Myleilio[5]. Yn 1783, i’r Cymro di-Gymraeg Thomas Pennant Moel Elian ydoedd. Onid ffurf leol fwy diweddar ar Eilio felly yw Eilian? The traveller...will go under Moel Elian, a noble mountain of a stupendous bulk, cloathed with a smooth green turf,and most regularly rounded[6].

Gallasai disgrifiad Pennant yn hawdd fod yn ddisgrifiad o’r mynydd yn ein canrif ni, ond ar ryw adeg yn y gorffennol mae’n rhaid bod y Foel hon, fel pob “Moel” arall, wedi ei gorchuddio â choed. Ai ar ôl iddynt golli eu coed y cawsant eu galw yn “foel”, ynteu a oedd ystyr gwahanol i’r gair ar un adeg? A beth wnewch chi o’r Foel Goediog ym Meirionnydd?

Yn yr hen gyfreithiau, rhywbeth a saif yn uwch nag ymyl y llestr sy’n ei ddal yw moel (megis a heaped teaspoonful):

13g. llestyr emenyn heb uoyl ydaw [llestr ymenyn heb y foel].

Efallai mai’r cwbl ydi moel felly yw bryncyn sydd yn sefyll uwchlaw’r tir cyfagos? Tybed ai "Moel" oedd enwau'r mynyddoedd hyn felly, yn yr oesoedd pan oedd coed yn cyrraedd eu huchder naturiol ar ein mynyddoedd?

Cwt hers

Cwt yw hwn lle cedwid yr hers geffyl ers llawer dydd. Roedd yr hers yn y cwt tan y 1960'au ond yn ol y son[7] mae hi yn awr mewn storfa gan yr Amgueddfa Genedlaethol ym Margam yn aros ei chyfle i ddod adref!

Tai nodedig[golygu | golygu cod y dudalen]

Bodlondeb

Ty anedd ynghanol y pentref, hanner canllath o Eglwys y Waun (Capel Croesywaun gynt), yw Bodlondeb. Yn y 1950au a'r '60au dywedwyd mai rhyw fath o isolation hospital ydoedd, ac roedd pob arwydd arno o nifer o bobl Oes Fictoria - cleifion? - yn pasio trwodd (ee. darnau di-bendraw o getynau clai ym mhridd yr ardd, geudy dwbl yng ngwaelod yr ardd, graffiti wedi eu cerfio ar silffoedd y ffenestri, a stabl geffylau ym mhen arall yr ardd). Fe dâl Bodlondeb ymchwil pellach (DB).

Y Tai Hynaf
  • Plas Glanrafon

Y tri ty hynaf yn y pentref. Plas Glanrafon yn gartref i deulu Mary Vaughan Jones yn nechrau'r 20g a chynt(?).

  • Y Garreg Fawr

Mae'r Garreg Fawr presennol wedi cymryd enw ty canoloesol sydd bellach yn rhan o arddangosga tai yr Amgueddfa Werin yn Sain Ffagan.

  • Prysgol

Ar gyrion y pentref ehangach.

  • Llwyn Bedw

Betws Garmon

Glanfa, Llwyn Bedw

Sefydliadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Y capeli, yr Eglwys, Ysgolion, Band of Hope, Merched y Wawr, Sefydliad y Merched, Cwmni Bysiau Whiteway

Ysgolion[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn Archifdy Gwynedd, Caernarfon, mae llyfrau log ysgolion cynradd y sir, Ysgol Gynradd Waunfawr yn eu plith. Dyma rai pigion o'r llyfrau hyn:

Gall y rhesymau (a'r esgusodion!) i ddisgyblion beidio ag ymbresenoli yn yr ysgol fod yr un mor ddiddorol (os nad yn fwy!) na gwaith yr ysgol ei hun.

  • Rheswm cyffredin i golli ysgol yn y Waunfawr oedd cneifio (cofnodwyd fel sheep shearing) ac o'r 9 o gofnodion godwyd rhwng 1864 ac 1869 roedd y dyddiadau a gofnodwyd gan y prifathro yn Saesneg yn y Llyfr Log i gyd yn yr wyth niwrnod 16-24 Mehefin.
  • Codwyd 12 o gofnodion o hay harvest (ee. Less in school owng to the hay harvest) rhwng 1863-88, y dyddiadau hynny yn amrywio llawr mwy (oherwydd dylanwad cryfach y tywydd ar y gwaith hwnnw), sef dros fis cyfan o'r 10 Gorffennaf i'r 17 Awst (1888 oedd y diwrnod hwnnw, tymor gwlyb iawn: The reason for the small attendance was that many of the small farms about here had not had their hay in owing to wet weather. This week [dechrau 17 Awst] being fine they were very busy, and the children kept at home).
  • Prin iawn yw'r cof am gaeau ŷd yn y Waunfawr erbyn hyn ond cafwyd plant yn 1863-64 yn cario ŷd yn lle mynd i'r ysgol rhwng 15 a 26 Medi: September 26, 1864 Fine weather causing many to be absent, being with the corn. Mae'r nifer bychan o gofnodion o'r cynhaeag ŷd a ddaeth i'r fei yn y cyfnod a archwilwyd yn awgrymu nad oedd y cynhaeaf grawn yn bwysig iawn i economi'r pentref ar y pryd.
  • y tywydd oedd y prif ddylanwad ar bresenoldeb ac absenoldeb disgyblion o ysgolion Waunfawr yn y cyfnod yr archwiliwyd.

Enwau difyr[golygu | golygu cod y dudalen]

Pendas Eithin

Tyddyn uchaf y plwyf mae'n debyg, ar rostir Cefn Du, yw hwn ac yn un o nifer yn dwyn yr un enw ar draws gogledd Cymru. Croniclodd Edward Llwyd lawer yn ei Parochialia, ynghyd â sawl Mwdwl Eithin o'r un ystyr. A'r ystyr hwnnw oedd man i gyhoeddi newyddion mawr trwy losgi coelcerth o eithin. Mae'r eithin mân yn ffynu o'i gwmpas o hyd (Dyma enghraifft o'r syniad hwn gan Foneddigesau Llangollen 16 Mawrth 1789: A Bonfire illuminated to Celebrate the happy restoration of His Majesty's health, our Benefactor (cf. beacon, pendas eithin, mwdwl eithin yn Parochialia Edward Llwyd) [Y brenin Sior III yn cael ffitia o wallgofrwydd])

Pendwroer

Enw tyddyn ar odre Cefn Du yw hwn ac mae ffynnon o ddwr clir gerllaw a ddefnyddwyd o fewn cof hen drigolion fel cyflenwad dŵr.

Nyth Dryw

Yn ôl un hen drigiannydd y rhan hon o'r pentref, sef y diweddar Doris Roberts, ty unnos oedd Nyth Dryw. Gweddillion adeilad bychan iawn ydyw, wedi hen fynd a'i ben iddo, i gweld o lôn Pant Defaid ynghanol cae dros y ffordd i'r tyddyn hwnnw. Serch ei ddiffyg rhodres mae natur caboledig ei gerrig yn awgrymu hanes mwy cymhleth. Ychwanegodd Doris iddi gofio lladd-du yn un o adeiladau Pant Defaid a allai fod yn berthynnol i Nyth Dryw.

Penffordd Bangor

Lon hynafol, cuddiedig erbyn hyn, a ddechreuai wrth yr hen fecws yn 'sgwar' y pentre.

Rala

Yr Ala Bowls oedd hwn yn wreiddiol, bowling alley, man difyrrwch i chwarelwyr yn gysylltiedig â'r Quarryman's Arms a safai lle mae Lôn Croeswaun yn cwrdd â'r Lôn Bost - Garej Non gynt, a Snowdonia Fire Protection[8] rwan.

Natur a Bywyd Gwyllt[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae dyled mawr i Mary Vaughan Jones (Naturiaethwraig) gan yr olyniaeth o naturiaethwyr ac amgylcheddwyr a fu'n byw neu'n gweithio, neu sydd yn byw, yn y Waunfawr [Tom Ellis Jones (athro), John Barnes (Fach Goch), HH Jones, Dr. Michael Hull, Rhys Jones (Tegannedd), Ann Jones 'Croesor', Graham Williams, Duncan Brown, Des Cartwright, Arthur Davies (Plas Glanrafon), David Greasley]. Gadawodd fyrdd o nodiadau heb eu trefnu i'w cadw gan Antur Waunfawr ac fe'i tynnir arnynt yn helaeth yma, rhai ohonynt wedi ei trin i'w cyhoeddi yma a thraw.

Mae tri prif ffactor amgylcheddol dros y cyfnod hwn sydd wedi effeithio ar ymddangosiad ac ecoleg y pentref a'i gyffiniau:

  • ymlediad coed collddail trwy ddiffyg pori (trai neu dranc gwiberod ac ymlusgiaid eraill ac ymlediadad y gnocell fraith a thrai y gnocell werdd);
  • aeddfedu (ymlediad y pila gwyrdd a'r gylfin groes) a chwympo planhigfeydd y Donen Las a Waun Bant uwchben y pentref (dinoethiad y tir);
  • twf yn niwylliant y ceffyl fel anifail hamdenna (newid natur llysieuol porfeydd), cau Chwarel cefn-du (llochesi nythu newydd i'r frân goesgoch a'r hebog tramor. Mae ecoleg y fro hefyd wedi ei effeithio gan ffactorau tymor hir gwlad neu hyd yn oed fyd-eang (turtur dorchog, jac y neidiwr). Mae'n eironig i lawer mwy o rywogaethau adar brinhau oherwydd prosesau anuniongyrchol diweddar na chan brosesau mwy uniongyrchol megis plant yn dwyn a chasglu wyau neu ffermwyr a helwyr yn saethu. Dyma rai rhywogaethau y mae tystiolaeth amdanynt ar lafar ac mewn ysgrifau sydd yn adwaith i'r prosesau hyn:

Gwiberod: "Roedd coedydd glannau'r Wyrfai yn gynefin gwiberod flynyddoedd yn ôl. Rwy'n cofio Mam a finnau'n yn edrych dros fferm Gwredog Isaf a hithau'n dweud 'mae nhw wedi cael tatws hadyd o Iwerddon - fydd yna ddim nadroedd yna rwan' ". Dyma mae'n debyg oedd "rhesymeg" mam Mary yn y cofnod - Sant Padrig a waredodd Iwerddon o'i nadroedd - Iwerddon yn ddiarhebol ddibynnol ar datws - felly - tatws Iwerddon yn cael gwared o nadroedd pa le bynnag y'u plennir."[9]

Cofia Arthur Davies (perchen cartref genedigol(?) MVJ ac yn naturiaethwr ei hun), ei fam ddi-Gymraeg yn sôn y dylai'r plant gadw draw o "Adder Hill".

Yn yr 1960au bu'n arfer gan Frank Nestfield, Bryn Argoed ger Bompren Wredog (cymydog i AD), ddal y gwiberod ar y tir rhedynog rhwng ei gartref a'r afon a'u dangos i ieuenctid argaffadwy y fro (fel DB) wedi eu gwasgu i mewn i bot-jam! Arferent, yn ôl ei ferch yng nghyfraith flynyddoedd wedyn, ddod i'r ty.

I ble yr aeth y gwiberod; mae'r cynefin o eithin a rhedyn yn llygad yr haul yno o hyd - rhywfaint? Ond mae llawer mwy o goed yno heddiw fel sydd wedi ymledu yn gyffredinol ers y cyfnod yna, a diau bod hynny wedi cyfrannu at eu tranc. <angen ffynhonnell>. Byddai Frank, a mam Mary, a llawer un arall hefyd, yn ddigon balch o weld eu cefnau mae'n siwr. (DB).

Mae tranc y rhywogaethau hyn yn y plwyf ar ôl y Rhyfel yn cyd-fynd a thranc cyffredinol a ddigwyddodd iddynt traws-gwlad yn y cyfnod hwnnw. Nythodd y 'rygarug' am y tro olaf yn ardal y Waunfawr (sgwâr 10Km yr Arolwg Ordnans SH56) yn y cyfnod 1968-72. Digwyddodd hyn oherwydd mecaneiddio'r cynhaeaf gwair a thorri gwair ynghynt yn y flwyddyn, a thwf mwy diweddar yn yr arwynebedd sulwair. Er nad oedd y durtur erioed yn gyffredin yn Arfon fe nythodd yno am y tro olaf yn yr un cyfnod.[10]. Cofnododd Mary Vaughan Jones yn ei nodiadau nodiadau am adar Plas Glanrafon NA welodd regen ŷd na thurtur y flwyddyn honno, ond mae'r sylw yn awgrymu ei bod hi'n gyfarwydd â nhw yno.

Prinhaodd y ddau yma yn ddiweddarach na'r uchod yng nghyffiniau'r pentref. Mewn recordiad o sgwrs rhwng Mary Vaughan Jones ac Annie Williams, Llwyn Bedw[11] mae awyrgylch arbennig y 1950 i'w clywed, gyda chân y gylfinir yn y cefndir tua diwedd y sgwrs yn tynnu sylw'r ddwy. Collodd y gornchwiglen ei thir yn y mân gorsydd oherwydd ffactorau eraill nad ydynt yn rhai arbennig o leol i'r Waunfawr ond ni fu'r ymgeledd a gafodd llwynogod ym mhlanhigfa'r Donen Las yn gymorth iddynt ar eu nythod yn y gwanwyn.

  • Moch daear

Mae moch daear yn llawer mwy niferus yn y pentref erbyn hyn nag y buont cynt. Mae yna nifer o resymau am hynny, yr un ohonynt yn gysylltiedig â digwyddiadau na phrosesau lleol iawn - cadwraeth cyfreithiol a chynnydd cyffredinol mewn pryfed geneair yn sgîl codiadau yn lefelau'r neitradau yn y pridd.

  • Gwiwerod

Gwiwerod cochion yn unig oedd yng Nghoed Cyrnant ac Alltgoed Mawr (yr unig drwch o goed hyd y '60au) ym mlynyddoedd y 1960au. Gwiwerod llwydion oedd wedi cymryd eu lle erbyn yr diwedd y '70au.

  • Cnocellod ac adar eraill y coed

Gweddillion gweundir anial a diwylliant tyddynna oedd dyffryn Gwyrfai yn nechrau'r cyfnod o fewn cof trigolion presennol Waunfawr (2017). Gyda daliadau ffermydd yn mynd yn llai niferus ac yn fwy eu maint gwelodd y naturiaethwr fu'n drigiannydd tymor hir yn y pentref lanw a thrai sylweddol ym mywyd y goedwig dros ei oes [12]. Yn chwedegau'r ganrif ddiwethaf roedd chwerthiniad ceiliog y gnocell werdd i'w glywed o gwmpas y pentref yn gyffredin, a chak-chak y gnocell fraith yn brin os y'i clywyd o gwbl. Ffafriwyd y gnocell werdd gan y tir llwm agored, pan oedd twmpethi morgrug yn helaeth a phan oedd coedlannau yn brinach ac yn gyfyngedig i'r dyffryn isaf. Ond gyda'r trai yn y diwydiant ffermio, asiodd y coedlannau ac ymledodd y coed ac a chyda hwynt y gnocell fraith. Ambell waith yn unig, yng nghyffiniau'r Alltgoed Mawr a Pharc Dydli y clywir y gnocell werdd heddiw ond mae'r gnocell fraith erbyn hyn i'w weld ar fyrddau adar y fro (arferiad arall sydd wedi cynyddu dros y cyfnod), a sgrechod coed i'w gweld a thylluannod brych i'w clywed llawer pellach ar hyd ochrau dyffryn Gwyrfai heddiw na chynt.

  • Anifeiliaid y cyrion

Manteisiodd bâr neu ddau o frain goesgoch ar unigrwydd Chwarel Fawr Cefn Du i nythu ynddo yn nechrau'r chwedegau ac maent i'w gweld yn fforio am bryfed yn y porfeydd ymylol gerllaw heddiw hefyd. Cawsant eu ffafrio yn y cyfamser gan yr ymdrechion cadwriaethol glewion i'w gwarchod. Felly hefyd yr hebog tramor ddaeth yn ol o ebargofiant, oherwydd gwenwyn ar gnydau, yn y chwedechau i'w fri presennol - nythant yn yr un math o le a'r brain coesgoch. Stori debyg i'r hebog sydd i'r dyfrgi ond fe gymerodd fwy o amser iddo yntau ymadfer.

Diflannodd y grugiar o rostir Cefn Du am gyfnod maith ar ol y chwedegau oherwydd llosgi di-reol a gor bori'r comin. Dangosasant arwyddion o ail ymsefydlu yn y dair blynedd diwethaf fodd bynnag gyda theulu yn cael ei weld yn 2017 am y tro cyntaf ers blynyddoedd.

Trigolion Nodedig[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod y dudalen]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[13][14][15]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Waunfawr (pob oed) (1,427)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Waunfawr) (1,095)
  
79.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Waunfawr) (1087)
  
76.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Waunfawr) (184)
  
30.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "Parliamentary Enclosures in Wales" on @Wikipedia: https://cy.wikipedia.org/wiki/Parliamentary_Enclosures_in_Wales?wprov=sfsi1
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 Morris Jones, G. (2017) Hanesion Waunfawr papur bro Eco'r Wyddfa
  3. Archifau Antur Waunfawr
  4. 4.0 4.1 4.2 4.3 Williams, T. (1904) Gemau Gwyrfai: sef gweithiau barddonol a rhyddoaethol y diweddar Owen Williams (Owain Gwyrfai). Cyh: H. Evans, Y Bala
  5. http://www.e-gymraeg.co.uk/enwaulleoedd/amr/
  6. Thomas Pennant (1783) A Tour in Wales
  7. http://www.llennatur.com/files/u1/Cylchgrawn101.pdf
  8. http://www.snowdonia-fire.co.uk/
  9. Bwletin Llên Natur 17, Gorffennaf 2009
  10. Brenchley, A. et al (2013) Adar Nythu Gogledd Cymru. LUP
  11. http://www.llennatur.com/gwyn/sain/AnnieW/AnnW2.mp3
  12. Atgofion DB heb eu cyhoeddi
  13. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html. Adalwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  14. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  15. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.

Cysylltiadau allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:


WalesGwynedd.png Eginyn erthygl sydd uchod am Wynedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato