Gylfinir

Oddi ar Wicipedia
Gylfinir
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Charadriiformes
Teulu: Scolopacidae
Genws: Numenius
Rhywogaeth: N. arquata
Enw deuenwol
Numenius arquata
(Linnaeus, 1758)

Mae'r Gylfinir Numenius arquata, yn un o'r rhydyddion yn perthyn i deulu'r Scolopacidae. Mae'n un o'r mwyaf cyffredin o deulu'r Gylfinir, yn nythu ar hyd rhannau helaeth o Ewrop ac Asia.

Fel rheol mae'r Gylfinir yn aderyn mudol, yn treulio'r gaeaf yn Affrica, de Ewrop a de Asia. Yn Iwerddon a Phrydain ac arfodir cyfagos y cyfandir mae'n aros trwy'r flwyddyn. Tu allan i'r tymor nythu maent yn hel at ei gilydd yn heidiau.

Y Gylfinir yw'r mwyaf o'r rhydyddion yn Ewrop ac Asia, 50–57 cm o hyd ac 1m ar draws yr adenydd. Mae'n frownllwyd gyda gwyn ar du ôl y cefn. Daw'r enw o'r pig hir a thro ynddo; mae'r pig yn hirach yn yr iâr na'r ceiliog. Yr unig aderyn tebyg yn Ewrop yw'r Coegylfinir, sy'n llai. Mae'n bwydo trwy chwilio yn y mwd am anifeiliaid bychain. Mae'n nythu ar lawr, gan ddodwy 3-6 ŵy.

Yng Nghymru, mae'r Gylfinir yn nythu ar yr ucheldiroedd yn bennaf. Mae'r nifer sy'n nythu yma wedi gostwng yn sylweddol iawn yn y 30 mlynedd diwethaf, efallai oherwydd newidiadau yn nulliau amaethyddiaeth. Tu allan i'r tymor nythu mae'n aderyn niferus iawn ar y glannau, gan fod adar sy'n nythu yn Yr Alban a gwledydd Llychlyn yn dod yma i aeafu.

Wyau'r Gylfinir yn y nyth

Llenyddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Cŵn Ebrill

Dyma bennill cyntaf Y Gylfinir gan R. Williams Parry:

Dy alwad glywir hanner dydd
Fel ffliwt hyfrydlais uwch y rhos;
Fel chwiban bugail a fo gudd
Dy alwad glywir hanner nos:
Nes clywir, pan ddwysâ dy swn
Cyfarth dy anweledig gwn.

“Cŵn Ebrill, yw’r enw mewn rhai ardaloedd ar ylfinirod yn enwedig pan glywir eu galwadau liw nos yn y gwanwyn cynnar. Nid yw’r alwad yn anymunol ond gwn am rai sy’n arswydo wrth ei chlywed, er iddynt wadu unrhyw wybodaeth am Gwn Annwn, a aethai ar un adeg ar herw am eneidiau’r meirw yn yr awyr.”[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (cyfieithiad: T. Gwynn Jones Welsh Folklore And Folk Custom yn y bennod sy’n cyfeirio at “Ghosts and other apparitions