Bryn Calfaria (emyn-dôn)
Emyn-dôn Cymreig yw Bryn Calfaria a ysgrifennwyd ar y mesur 8,7,8,7,4,4,4,7,7. Awdur y dôn oedd William Owen (Prysgol).[1] Bryn Calfaria sy'n cael ei ddefnyddio fel y dôn arferol ar gyfer emyn Pantycelyn Gwaed dy Groes sy'n codi i fyny (Caneuon Ffydd tôn 416; emyn 494).[2]
Gwaed dy Groes sy'n codi i fyny,
- 'R eiddil yn goncwerwr mawr:
Gwaed dy Groes sydd yn darostwng,
- Cewri cedyrn fyrdd i lawr.
- Gad im deimlo (x3)
- Awel o Galfaria fryn (x2).
Mae hefyd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer yr emyn Saesneg Lord, Enthroned in Heavenly Splendor gan George Hugh Bourne. Honnir i'r dôn gael ei hysgrifennu'n wreiddiol gan Prysgol ar ddarn o lechen wrth iddo gerdded i'w gwaith yn y chwarel ym Methesda.[3]
Weithiau bydd y dôn yn cael ei alw'n Laudamus, sef enw trefniant Dr Daniel Protheroe o Fryn Calfaria.[4] Mae trefniant o'r dôn ar gael gan y cyfansoddwr o Sais Ralph Vaughan Williams fel rhan o'i waith Three Preludes founded on Welsh Hymn Tunes.[5]
Mae nodau agoriadol Bryn Calfaria wedi eu naddu ar gofgolofn Prysgol ym mynwent Capel Caeathro.[6]
-
William Owen, Prysgol
-
Capel Caeathro a chofeb Prysgol
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]YouTube Bryn Calfaria (Gwaed Dy Groes Sy'n Codi i Fyny) - Cor Meibion Cwmbach
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "CYFANSODDWR PEN CALFARIA - Papur Pawb". Daniel Rees. 1893-08-05. Cyrchwyd 2019-10-29.
- ↑ Caneuon ffydd. Caernarfon: Pwyllgor y Llyfr Emynau Cydenwadol. 2001. ISBN 1903754011. OCLC 57019600.
- ↑ Côr Meibion Rhydychen Laudamus (Bryn Calfaria) Archifwyd 2022-07-04 yn y Peiriant Wayback adalwyd 29 Hydref 2019
- ↑ Tŷ Cerdd (Daniel Protheroe 1866-1934) Archifwyd 2019-11-04 yn y Peiriant Wayback adalwyd 29 Hydref 2019
- ↑ Music Room Three Preludes founded on Welsh Hymn Tunes adalwyd 29 Hydref 2019
- ↑ Y Traethodydd Cyf. CXV (XXVIII) (494-497), 1960 tud 13