Griffith Williams (Gutyn Peris)

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Griffith Williams
Gutyn Peris.JPG
Ffugenw Gutyn Peris Edit this on Wikidata
Ganwyd 2 Chwefror 1769 Edit this on Wikidata
Waunfawr Edit this on Wikidata
Bu farw 21 Mehefin 1838 Edit this on Wikidata (69 oed)
Llandygái Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth Bardd Edit this on Wikidata

Bardd ar y mesurau caeth oedd Griffith Williams neu Gutyn Peris (2 Chwefror 176918 Medi 1838). Roedd yn ffigwr dylanwadol ym mywyd llenyddol a diwyllianol ardal Arfon, Gwynedd, yn enwedig yn yr adfywiad llenyddol yno ar ddiwedd y 18g a dechrau'r 19g.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganed ef yn Waunfawr yn Arfon, gogledd Cymru. Symudodd i fyw yn Llandygái, ger Bangor, ac yno y bu am weddill ei oes yn chwarelwr yn Chwarel y Penrhyn. Daeth yn oruchwylwr yn y chwarel yn ddiweddarach.[1]

Cafodd Gutyn Peris ei addysg farddol gan Abraham Williams a Dafydd Ddu Eryri. Roedd yn un o'r disgleiriaf o'r cylch o ddisgyblion a alwyd yn "Gywion Dafydd Ddu", a oedd yn cynnwys yn ogystal Robert Morris 'Robin Ddu Eifionydd' (c. 1767-1816), Elis Wyn o Wyrfai (1827-1895), William Williams (Gwilym Peris) (1769-1847), Richard Jones (Gwyndaf Eryri) (1785-1848), William Edwards (Gwilym Padarn) a'i fab Griffith Edwards (Gutyn Padarn), Owen Williams (Owain Gwyrfai) o Waunfawr a William Ellis Jones (Cawrdaf).[1]

Daeth yn un o feirdd mwyaf adnabyddus ei ddydd a chwareodd ran bwysig yn yr adfywiad llenyddol yn ardal Arfon ar ddiwedd y 18g a dechrau'r 19g. Bu'n cystadlu droeon yn yr Eisteddfod yng nghwmni beirdd fel Gwallter Mechain, Eben Fardd, Caledfryn a Robert Ddu ei hun. Cyhoeddodd ei unig gyfrol o farddoniaeth, Ffrwyth yr Awen, yn 1816.[1]

Roedd yn gynganeddwr da a amddiffynai'r mesurau caeth yn erbyn dylanwad cynyddol y mesurau rhydd, a chafwyd cyfres o erthyglau ganddo yn Y Gwyliedydd yn dadlau o blaid y mesurau traddodiadol yn erbyn Ieuan Glan Geirionydd. Yn 1799 cymerodd ran, gyda Dafydd Ddu Eryri, mewn eisteddfod yn Ninorwig a drefnwyd gan Iolo Morganwg.[1]

Ceir cywydd ganddo sy'n disgrifio ei blentyndod yn ardal Waunfawr a Llanberis a'i athrawon barddol Dafydd Ddu ac Abraham Williams.

Pan fu farw yn 1838, cyfansoddodd Robert Parry (Robin Ddu Eryri) (1804-1892), un o'i ddisgyblion barddol, farwnad iddo ar y Pedwar Mesur ar Hugain.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 D. Ambrose Jones, Llenyddiaeth a Llenorion Cymreig y bedwaredd ganrif ar bymtheg (Lerpwl, 1922).
  2. Robert Parry, Teithiau a Barddoniaeth Robyn Ddu Eryri (Caernarfon, 1857).