Robert Parry (Robyn Ddu Eryri)

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Robert Parry
Portrait of Robert Parry neu Robyn Ddu Eryri (4673403).jpg
Ganwyd 7 Chwefror 1804 Edit this on Wikidata
Caernarfon Edit this on Wikidata
Bu farw 4 Tachwedd 1892 Edit this on Wikidata (88 oed)
Llwydlo Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth bardd, darlithydd, pregethwr Edit this on Wikidata

Roedd Robert Parry (Robyn Ddu Eryri) (7 Chwefror, 18044 Tachwedd, 1892) yn fardd a darlithydd Cymreig. [1]

Cefndir[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Robyn Ddu yng Nghwrt y Boot, Caernarfon yn blentyn i Robert Parry, cyn filwr, teiliwr, meddyg esgyrn (perthynas i feddyg esgyrn Môn), telynor a phrydydd a Mary ei wraig. Cafodd ei addysgu mewn ysgol y Parch. Evan Richardson yng Nghapel y Methodistiaid Calfinaidd yng Nghaernarfon ac ysgol yng Nghapel y Wesleaid o dan arolygaeth y Parchedigion Robert Humphreys ac Evan Parry. [2]

Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]

Pan oedd Robin Ddu tua 11 mlwydd oed bu farw ei dad ac fe'i tynnwyd allan o'r ysgol er mwyn dechrau gwaith. Cafodd ei brentisio yn gyntaf i'w ewythr yn y gobaith o ddysgu iddo'r grefft o deilwra, ond heb lwyddiant. Wedyn cafodd ei brentisio fel crydd ond methiant fu hynny hefyd.

Trwy ei gyfeillgarwch a'r Parch Peter Bailey Williams gafodd Robyn Ddu nawdd i'w baratoi at ddod yn glerigwr Eglwys Loegr. [3] Wedi iddo gael codwm mewn gwesty yn Llundain a achoswyd yn ôl rhai tystion gan ei fod yn feddw (Roedd Robyn yn gwadu'r cyhuddiad) daeth y nawdd hwn i ben. Bu Robyn ddu wedyn ar grwydr yn cael to uwch ei ben a bwyd trwy haelioni Cymry llengar eraill yng Nghymru a chymunedau Cymreig dinasoedd Lloegr. [2]

Gwariodd Robyn Ddu'r blynyddoedd wedi 1826 yn cadw ysgolion mewn rhannau gwahanol o Gymru. Byddai'n cadw ysgol am gyfnod byr, mynd ar grwydr agor ysgol arall, crwydro eto ac ati. Bu'n cadw ysgolion yn Nhregarth, Llanbedr Dyffryn Clwyd, Llanarmon; Paradwys, Ynys Môn a Bangor.

Ar daith i Gaerfyrddin llwyddodd Cawrdaf gael swydd iddo fel ysgrifennydd mewn swyddfa cyfreithiwr. Ar ôl gweithio fel ysgrifennydd am rai misoedd aeth ar daith i Rydychen a Llundain.

Cafodd Robyn Ddu ei berswadio i ymuno a'r achos dirwestol gan ei gyfaill Dr Arthur Jones, Bangor. Gwariodd y blynyddoedd nesaf yn crwydro o fan i fan i roi darlithoedd a phregethau dirwestol. [4] Bu hefyd, am gyfnod, yn pregethu achos Saint y Dyddiau Diwethaf. Aeth ei deithiau dirwest ag o i'r Iwerddon, Yr Alban, Lloegr a phob rhan o Gymru. Ym 1842 aeth ar daith darlithio i'r Unol Daleithiau, lle arhosodd am flwyddyn. [5]

Ym 1850 dechreuodd wasg David Tudor Evans yng Nghaerdydd cyhoeddi'r cyfnodolyn Y Wawr a phenodwyd Robyn Ddu yn olygydd arno. [6] Ar ôl 16 rhifyn daeth Y Wawr i ben, ond llwyddodd Tudor Evans cael swydd arall i Robyn Ddu fel asiant teithiol ar gyfer cymdeithas adeiladu oedd a'i phencadlys yn Abertawe.

Ym 1862 dechreuodd yr hanesydd Thomas Stephens cronfa i godi arian i brynu blwydd-dal i Robyn Ddu [7] a bu hynny a dau rodd o £100 gan y llywodraeth yn foddion iddo gael byw am weddill ei fywyd. [8]

Llenor a bardd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfieithodd Robyn Ddu rhannau o Esboniad ar y Testament Newydd gan William Burkitt, a hefyd yn cynorthwyo Arthur Jones i gyfieithu Hanes Bywyd Crist o waith John Lightfoot. Bu yn feirniad rheolaidd ar gystadlaethau ysgrifennu traethawd, barddoni ac adrodd mewn eisteddfodau mawr a man ym mhob rhan o Gymru. Fel bardd mae'n cael ei gofio orau. Roedd yn gallu canu ar y mesurau caeth. Yn ôl ei hunangofiant, [9] Daeth rhyw Lewis Davies o Lanrwst i fasnachdy yng Nghaernarfon, yr hwn a ddysgodd i'r bardd ieuanc reolau'r gynghanedd ac yfed cwrw, er bod ganddo grap go lew o'r ddau cyn hynny. Ei ganu rhydd oedd yn fwyaf poblogaidd gan y cyhoedd, yn arbennig ei ddefnydd o odlau dwbl: [2]

Mae cestyll gwroniaid heb wledd na llawenydd,
A gwlad y Brythoniaid heb gân nag awenydd
Ow! Rhyddid sy'n nychu, heb dant ar ei thelyn,
O herwydd bradychu'r Tywysog Llywelyn.

Er bod yr odlau dwbl yn cael eu parchu fel ffordd newydd o farddoni yn ei ddydd, does dim llawer o wahaniaeth rhwng llinell 12 sill efo odl ddwbl a'r llinell 6 sill efo odl bob yn ail, cyffredin:

Mae cestyll gwroniaid
heb wledd na llawenydd,
A gwlad y Brythoniaid
heb gân nag awenydd

Roedd rhai o'i emynau, hefyd, yn boblogaidd yn ei ddydd, er nad oes llawer o ganu ar ddim un ohonynt bellach. [10]

Cyhoeddwyd nifer o'i gerddi cynnar yn ei lyfr Teithiau a Barddoniaeth Robyn Ddu Eryri (Hugh Humphreys, Caernarfon, 1857) [9]

Teulu[golygu | golygu cod y dudalen]

Priododd Robyn ei ail wraig, Eleiza Pullen o Ledbury, Swydd Henffordd ym 1860 pan oedd ef yn 56 a hi yn 18 mlwydd oed cawsant nifer fawr o blant.

Marwolaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu farw yn ei gartref yn Llwydlo yn 88 mlwydd oed a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Eglwys Ludford.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "PARRY, ROBERT ('Robyn Ddu Eryri'; 1804 - 1892), bardd | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-04-06.
  2. 2.0 2.1 2.2 "Marwolaeth Robin Ddu Eryri - Y Cymro". Isaac Foulkes. 1892-11-10. Cyrchwyd 2020-04-06.
  3. "DEATH OF ROBIN DDU ERYRI - Weekly Mail". Henry Mackenzie Thomas. 1892-11-12. Cyrchwyd 2020-04-06.
  4. Adgofion am Robyn Ddu Eryri Y Geninen Mawrth 1893 adalwyd 7 Ebrill 2010
  5. "Y DIWEDDAR ROBIN DDU ERYRI - Y Drych". Mather Jones. 1892-12-01. Cyrchwyd 2020-04-06.
  6. "EVANS, DAVID TUDOR (1822 - 1896), newyddiadurwr | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-04-07.
  7. "HANESION CARTREFOL - Seren Cymru". William Morgan Evans. 1862-02-28. Cyrchwyd 2020-04-07.
  8. "DAY BY DAY - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1892-11-05. Cyrchwyd 2020-04-06.
  9. 9.0 9.1 Teithiau a barddoniaeth Robyn Ddu Eryri gan Robert PARRY (Robyn Ddu Eryri.) – copi rhad o'r llyfr ar Google Play
  10. "Robin Ddu Eryri - Y Cymro". Isaac Foulkes. 1892-11-17. Cyrchwyd 2020-04-06.