William Ellis Jones (Cawrdaf)
| William Ellis Jones | |
|---|---|
| Ffugenw | Cawrdaf |
| Ganwyd | 9 Hydref 1795 Aber-erch |
| Bu farw | 27 Mawrth 1848 |
| Dinasyddiaeth | |
| Galwedigaeth | bardd, celfyddydwr, argraffydd |
| Cyflogwr |
|
| Perthnasau | Richard Jones |
- Am bobl eraill o'r enw William Jones, gweler William Jones.
Bardd ac awdur o Gymro oedd William Ellis Jones (9 Hydref 1795 – 27 Mawrth 1848), sy'n fwy adnabyddus wrth ei enw barddol Cawrdaf /Gwilym Cawrdaf.[1]
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Ganed Cawrdaf ym mhlwyf Abererch yn yr hen Sir Gaernarfon (Gwynedd) yn 1795. Enwau ei rieni oedd Ellis a Catherine Jones, a symudodd i Abererch o'r Bont Ddu, hanner ffordd rhwng y Bermo a Dolgellau. Yn 13 mlwydd oed rhwymwyd ef yn brentis argraffydd gyda Richard Jones, cefnder iddo, yn Nolgellau. Ar derfyn ei brentisiaeth symudodd i Gaernarfon, a bu am gyfnod yn swyddfa L. E. Jones, cefnder arall iddo iddo.[2] Ym 1817, symudodd i Lundain, lle ymaelododd â chymdeithas y Gwyneddigion. Tra yn Llundain daeth boneddwr i wybod am ei alluodd fel arlunydd, a chymerodd ef yn gydymaith i'r Cyfandir, lle y bu yn teithio, fel artist tirluniau. Teithiodd trwy Ffrainc a'r Eidal fel arlunydd. Dychwelodd i Lundain a bu'n teithio fel arlunydd trwy ynysoedd Prydain. Rhoddodd afiechyd diwedd ar ei allu i parhau i deithio a dychwelodd i weithio i'r hen swyddfa lle bu yn brentis, yn Nolgellau, gan ei etifeddu gan ei gefnder. Daeth yn gyfarwydd â rhai o lenorion mawr ei fro, fel Dafydd Ddu Eryri a Dafydd Ionawr. Yn ei ddyddiau olaf bu'n gweithio yn swyddfa Seren Gomer yng Nghaerfyrddin. Bu farw ym 1848.
Gwaith llenyddol
[golygu | golygu cod]Cyfansoddodd nifer o gerddi yn cynnwys yr awdl fuddugol yn eisteddfod Aberhonddu 1824 a cherddi eraill, mwy gwerinol, megis 'Hiraeth Cymro am ei Wlad'.[3]
Fel awdur rhyddiaith fe'i cofir am y rhamant arloesol Y Bardd neu'r Meudwy Cymreig (1830). Ar un adeg roedd hon yn cael ei hystyried y nofel Gymraeg gyntaf, ond prin y gellir ei galw yn nofel go iawn, mewn gwirionedd. Mae'n cynnwys disgrifiadau cofiadwy o olygon o fyd natur, megis storm ar y môr, ond pwrpas hyfforddiadol yn null y pregethwyr sydd i'r llyfr, ac nid yw'r cynllun yn foddhaol.
| Mae gan Wicidestun destun sy'n berthnasol i'r erthygl hon: |
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Y Bardd neu'r Meudwy Cymreig (1830; ail argraffiad, H. Humphreys, Caernarfon, d.d., tua 1860)
- Gweithoedd Cawrdaf (1851). Detholiad o gerddi a rhyddiaith a gyhoeddwyd ar ôl ei farwolaeth.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "JONES, WILLIAM ELLIS ('Cawrdaf '; 1795 - 1848), bardd a llenor | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2025-06-19.
- ↑ Rowland (Anthropos), Robert David (1897). . Gwroniaid y Ffydd. Caernarfon: Cwmni'r Wasg Genedlaethol Gymreig. Cyf. tt. 92–94.
- ↑ Dyddanwch yr Aelwyd/Hiraeth y Cymro am ei Wlad