Ellis Roberts (Elis Wyn o Wyrfai)

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Elis Wyn o Wyrfai)
Ellis Roberts
FfugenwElis Wyn o Wyrfai Edit this on Wikidata
Ganwyd13 Chwefror 1827 Edit this on Wikidata
Llandwrog Edit this on Wikidata
Bu farw23 Ebrill 1895 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata

Offeiriad a bardd Cymraeg oedd Ellis Roberts, enw barddol Elis Wyn o Wyrfai (13 Chwefror 1827 - 23 Ebrill 1895),

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Ganed ef yn Llwyn Gwalch, Llandwrog yn yr hen Sir Gaernarfon, yn fab i feilynydd, Morris Roberts ("Eos Llyfnwy"). Bu'n gweithio ym melin ei dad hyd nes oedd yn 23 oed, pan aeth i ysgol Eben Fardd yng Nghlynnog Fawr, ac yna i goleg hyfforddi Caernarfon i hyfforddi fel athro. Bu'n cadw ysgolion yn Waunfawr a Llwynygell, Ffestiniog. Oredeiniwud ef yn ddiacon 1862, a daeth yn gurad Rhosymedre, yna daeth yn offeiriad yn 1863. Bu'n rheithor Llanfihangel Glyn Myfyr o 1866 hyd 1872, ac yn ficer Llangwm o 1872 hyd ei farwolaeth.

Gwaith llenyddol[golygu | golygu cod]

Fel bardd, roedd yn un o ddisgyblion Dafydd Ddu Eryri, a adwaenid fel "Cywion Dafydd Ddu". Daeth yn un o feirdd a beirniaid eisteddfodol amlycaf ei genhedlaeth, gan ennill nifer o'r prif wobrau, gan gynnwys y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caernarfon 1880.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Hanes y Cymry (1853)
  • Awdl y Sabboth (c. 1856)
  • Awdl Maes Bosworth (1858)
  • Awdl Farwnad Ab Ithel (c. 1878)
  • Buddugoliaeth y Groes (1880)
  • Wreck of the London (1865)
  • Massacre of the Monks of Bangor Iscoed (1876)
  • Ordination Sermon (1893)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]