Llandygái

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Llandygái
Sant Tegai, Llyndygai, St Tegai Church, Llandygai, Gwynedd 03.jpg
Math Pentref, Cymuned Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Gwynedd Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 53.2167°N 4.1°W Edit this on Wikidata
Cod SYG W04000073 Edit this on Wikidata
Cod OS SH597708 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/au Sian Gwenllian (Plaid Cymru)
AS/au Hywel Williams (Plaid Cymru)

Pentref a chymuned ychydig i'r de-ddwyrain o ddinas Bangor yng Ngwynedd yw Llandygái ("Cymorth – Sain" ynganiad ) (weithiau Llandygai neu Llandegai). Saif ar lan orllewinol Afon Ogwen, gyda phentref Tal-y-bont ar y lan ddwyreiniol. Yn ôl traddodiad, sefydlwyd Llandygái gan Sant Tegai/Tygái yn y 6g.

Yr adeilad mwyaf yn Llandygái yw Castell Penrhyn, a adeiladwyd gan Arglwydd Penrhyn gyda'r arian a gafodd o dyfu siwgr yn Jamaica a'r elw o Chwarel y Penrhyn. Mae'n awr yn eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Heb fod ymhell o Landygái mae gwarchodfa adar Aberogwen, ar lan Traeth Lafan.

Treuliodd y bardd Griffith Williams (Gutyn Peris) (1769-1838), un o ddisgyblion Dafydd Ddu Eryri, y rhan helaeth o'i oes yn Llandygái. Gweithiai yn Chwarel y Penrhyn.

Olion hynafol[golygu | golygu cod y dudalen]

Ceir cylch cytiau caeëdig Cororion gerllaw, sy'n dyddio yn ôl i Oes yr Efydd.

Rhwng Llandygái a stad dai Maesgeirchen mae Stad Ddiwydiannol Llandygái. Wrth baratoi'r tir ar gyfer y stad ddiwydiannol yn 1967 darganfuwyd olion tŷ sylweddol o faint o'r cyfnod Neolithig, 6 medr o led wrth 13 medr o hyd, ynghyd ag olion o Oes yr Efydd, Oes yr Haearn, cyfnod y Rhufeiniaid a mynwent o'r Canol Oesoedd cynnar. Mae'r stad ddiwydiannol yn awr yn cael ei ehangu. Cloddiodd Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd Parc Bryn Cegin yn 2006[1] (cyn yr adeiladu), gan ddarganfod olion tŷ arall yn dyddio o oddeutu 4000CC ac olion neolithig eraill, yn ogystal ag olion dau dŷ crwn o gyfnod y Brythoniaid a'r Rhufeiniaid, amrywiaeth o leiniau gwydr ac arteffactau eraill, a thwmpathau llosg o'r oes efydd.[2]

Mewn llenyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Sonir am 'glochdy Llandygái' mewn cerdd i 'Glychau'r Gog' gan R. Williams-Parry:

Mwynach na hwyrol garol
O glochdy Llandygái
Yn rhwyfo yn yr awel
Yw mudion glychau Mai
Yn llenwi'r cof â'u canu;
Och na bai'n ddi-drai!

Yr 'hwyrol garol' yw'r sŵn sy'n dod o'r clychau wrth iddynt gael eu canu.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. http://www.heneb.co.uk/llandegaiweblog/llandygaiintro.html
  2. Cyfeillion 24 Friends, Cylchgrawn Ymddiriedolaeth Gwynedd, Gwanwyn 2006, tt. 11-24