Richard Jones (Gwyndaf Eryri)

Oddi ar Wicipedia
Richard Jones
FfugenwGwyndaf Eryri Edit this on Wikidata
Ganwyd1785 Edit this on Wikidata
Bu farw21 Mehefin 1848 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd, ffermwr Edit this on Wikidata

Bardd a ffermwr o Gymro oedd Richard Jones (Gwyndaf Eryri) (17851848).

Ganwyd yn Erw Ystyffylau, plwyf Llanwnda, yn fab i John a Margaret Jones. Fe'i gladdwyd ym mynwent Llanbeblig. Enillodd ei fara trwy amaethu ac fel saer maen, ond daeth i amlygrwydd fel eisteddfodwr llwyddiannus os hunan-addysgiedig. Enillodd y gadair yn Eisteddfod Caernarfon, 1821 am awdl ar y testun Cerddoriaeth, a thlws y gwyneddigion yn Eisteddfod Llanwrtyd, 1823, am awdl ar Lles Gwybodaeth, ymysg gwobrau eraill. Ym 1818 cyhoeddodd gyfrol o'i farddoniaeth, sef Peroriaeth Awen. Roedd hefyd yn gerddor mewn band y mintai o wirfoddolwyr a gynhelid gan y 3ydd Arglwydd Newborough.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Y Bywgraffiadur Cymreig, (Llundain, 1953), t.476