William Henry Preece

Oddi ar Wicipedia
William Henry Preece
William Henry Preece; llun allan o Oliver Heaviside: Sage in Solitude
Ganwyd15 Chwefror 1834 Edit this on Wikidata
Caernarfon Edit this on Wikidata
Bu farw6 Tachwedd 1913 Edit this on Wikidata
Penrhos, Gwynedd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon, Cymru Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethpeiriannydd sifil, dyfeisiwr, peiriannydd Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrawd y Gymdeithas Frenhinol, Marchog Cadlywydd Urdd y Baddon, Telford Medal Edit this on Wikidata

Peiriannydd o fri, arloeswr yn natblygiad telegraff a pheirianneg trydan a ddaeth yn Brif Beiriannydd Swyddfa Bost Prydain (1892) oedd y Cymro William Henry Preece KCB FRS (15 Chwefror 18346 Tachwedd 1913).[1][2][3] Trwy ei ddiddordeb a'i swydd yn y Swyddfa Bost, bu'n fentor ymarferol pwysig i Guglielmo Marconi.[4] O ganlyniad i hyn, o bosib, bu i Marconi berfformio sawl campwaith hanesyddol yng Nghymru.

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod]

Ganwyd Preece ym Mryn Helen, Bontnewydd, Sir Gaernarfon yn fab hynaf i Richard Matthias Preece a oedd wedi dod i'r Gogledd o'r Bontfaen ym Morgannwg a phriodi merch o Gaernarfon, Jane Hughes. Fe'i haddysgwyd yn Ysgol Coleg y Brenin (Y Strand, Llundain ar y pryd) cyn mynychu Coleg y Brenin, Llundain. Bu hefyd yn astudio wrth draed Michael Faraday yn y Sefydliad Brenhinol yn Llundain. Faraday a daniodd ynddo ddiddordeb oes mewn trydan. Yn 1870 ymunodd a'r Swyddfa Bost - a bu yno am 29 o flynyddoedd. Yn ystod y cyfnod hwn cyfrannodd i nifer o ddyfeisiadau a gwelliannau; gan gynnwys system signal a ychwanegodd yn sylweddol i ddiogelwch y Rheilffordd. Bu'n flaengar ym myd telegraff - a datblygodd ei gyfundrefn ddiwifr ei hun yn 1892. Dibynna hwn ar anwythiad electromagnetig. Er i Preece lwyddo i anfon negeseuon ar draws Môr Hafren, pellter hyd at ryw 3.1 milltir, roedd y drefn yn anhylaw - yn dibynnu ar drosglwyddydd a derbynnydd milltiroedd o hyd. Er hynny, daliodd ati i anfon negeseuon dros gulforoedd eraill megis Afon Menai a'r Solent, o'r tir i oleudy (e.e. Ynysoedd y Moelrhoniaid) a rhwng pyllau glo a'i gilydd. Yn ystod y cyfnod hwn bu Preece yn gyfrifol (gyda George Gabriel Stokes[5] ac eraill) am ddigalonni David Edward Hughes yn ei ymchwil (1879) a fyddai, mae'n debyg, wedi arwain at ddarganfod tonnau radio. Mynnai'r "arbenigwyr" mai anwythiad oedd yr hyn yr oedd Hughes wedi'i ganfod. Mae'n debyg nad oedd Preece yn arbennig o hyblyg a'i syniadau a bu dadlau (diddichell) rhyngddo a sawl cawr yn ei faes gan gynnwys Oliver Lodge[6] ac Oliver Heaviside[7] dros y blynyddoedd.

Yn 1880 dyfarnodd yr Uchel Lys mai telegram oedd y teleffon newydd. Gan mai'r Swyddfa Bost oedd a phob hawl rheoli technoleg y telegram yng ngwledydd Prydain, bu Preece yn rhan o'r broses o gyflwyno teleffon Alexander Graham Bell yma. Yn 1881 manteisiodd y Swyddfa Bost ar y sefyllfa drwy addasu rhai o'r cyfnewidfeydd i ddelio a teleffon. Yn Ne Cymru (Caerdydd, Abertawe a Chasnewydd) y bu'r cyntaf o'r rhain. Yn 1881 etholwyd Preece yn Gymrawd y Gymdeithas Frenhinol (FRS) ac yn 1892 fe'i hapwyntiwyd yn Brif Beiriannydd y Swyddfa Bost. Mae'n debyg y bu'n enwog am ei ddarlithoedd syml ac ymarferol i'r cyhoedd ar y datblygiadau newydd. Cyhoeddodd ddau lyfr a nifer o bapurau ar y teleffon.[8][9]

Marconi a Radio[golygu | golygu cod]

Guglielmo Marconi tua 1902. Darganfyddwr ymarferoldeb radio. Bu William Henry Preece yn allweddol yn ei yrfa.

Rhwng 1885 a 1889 roedd yr Almaenwr Heinrich Hertz[10] wedi gosod sylfaeni damcaniaethol tonfeddi radio - ac wedi gwneud sawl arbrawf i'w arddangos. Ond nid oedd wedi meddwl am ddefnydd ymarferol i'r ffenomen. Yn 1894, yn ddatblygiad o syniadau Herz, gwnaeth Eidalwr o'r enw Guglielmo Giovanni Maria Marconi[11] arsylliadau tyngedfennol. Erbyn 1895 roedd yn argyhoeddedig ei fod wedi darganfod modd newydd (radio yn hytrach nag anwythiad) o ganfod signal o bellter. Anfonodd ei syniad i'r Weinyddiaeth Bost a Thelegraff yn Rhufain. Anwybyddwyd ei lythyr yn llwyr (yn wir ysgrifennwyd nodyn yn cyfeirio at y gwallgofdy lleol ar ei thraws). Sicrhaodd Marconi lythyr cyflwyniad i lysgennad yr Eidal yn Llundain gan gyfaill o ddiplomydd uchel a theithiodd, gyda'i fam, i Loegr. Ym mhorthladd Dover bu gryn ddiddordeb yn cynnwys ei fagiau ac ar unwaith anfonwyd neges i Bencadlys y Llynges. Fe'i gwahoddwyd yno'n syth - lle'i cyflwynwyd i William Henry Preece. Dros y blynyddoedd i ddilyn bu Preece yn gefn ac yn gymorth iddo. Defnyddiodd Preece ei ddoniau cyfathrebu i gyflwyno syniadau Marconi i'r cyhoedd mewn dwy ddarlith dyngedfennol (Neuadd Toynbee, 11 Rhagfyr 1896 a'r Sefydliad Brenhinol, 4 Mehefin 1897). Ar ôl arbrofion ar dir y fyddin ger Gaersallog, ar 13 Mai 1897 danfonodd Marconi signal radio o Drwyn Larnog yn ne Cymru i Ynys Echni, 3.7 milltir i ffwrdd ym Môr Hafren. Yn 1892 roedd Preece wedi defnyddio'r un lleoliad ar gyfer ei arbrofion ef ei hun.[12] Profodd hyn y gallai radio weithio dros ddŵr yn ogystal â thir ac felly fod o ddefnydd i'r Llynges hollbwysig ac i longau eraill. Preece oedd prif gynorthwyydd Marconi, gan sicrhâi iddo gefnogaeth ariannol o'r Swyddfa Bost.

Ym 1901, anfonodd Marconi signalau radio o Poldhu, Cernyw i Newfoundland, Canada. Ychydig wedi hynny adeiladodd Marconi orsaf radio bwerus yn y Waunfawr ger Caernarfon; nepell o gartref William Preece. Tyfodd hwn i fod yn un o orsafoedd cyfathrebu (radio donfedd hir) pwysicaf Ymerodraeth Prydain am nifer o flynyddoedd (1912-1938).[13] Felly, er i ymdrechion Preece ei hun i ddatblygu system ddiwyfr dros bellter fethu, roedd ei gymorth i Marconi'n allweddol yn natblygiad cyfathrebu torfol.

Blynyddoedd olaf[golygu | golygu cod]

Bu Preece yn Llywydd Sefydliadau’r Peirianwyr Trydanol (1893) a'r Peirianwyr Sifil (1898-99). Yn 1899 ymddeolodd o'r Swyddfa Bost ac fe'i hurddwyd yn Farchog (KCB) yn Rhestr Pen-blwydd y Frenhines Fictoria (3 Mehefin) y flwyddyn honno. Cafodd ei urddo yn Swyddog y Légion d‘Honneur a derbyniodd radd D.Sc. Prifysgol Cymru yn 1911. Symudodd yn ôl i Gaernarfon ar ôl ymddeol, ac yno y bu farw ar 6 Tachwedd 1913.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Llên Natur; Archifwyd 2016-03-05 yn y Peiriant Wayback. Rhif 69 Tachwedd 2013
  2. "Sir William Henry Preece". Encyclopaedia Britannica. 11 Chwefror 2019. Cyrchwyd 22 Chwefror 2019.
  3. "William Henry Preece". Grace's Guide to British Industrial History. 20 Mehefin 2016. Cyrchwyd 22 Chwefror 2019.
  4. "Guglielmo Marconi". History.com. 31 Ionawr 2019. Cyrchwyd 21 Ionawr 2019.
  5. Petrunic, Josipa. "George Gabriel Stokes". The Gifford Lectures. Cyrchwyd 22 Chwefror 2019.
  6. "Sir Oliver Lodge". Electronics Notes. Cyrchwyd 22 Chwefror 2019.
  7. Hunt, Bruce (2012). "Oliver Heaviside: A first-rate oddity". Physics Today 65 (11): 48-. https://physicstoday.scitation.org/doi/10.1063/PT.3.1788.
  8. William Henry Preece a Julius Maier (1889). The Telephone. https://books.google.co.uk/books?id=Wdg3AAAAMAAJ: Whittaker & Company.CS1 maint: location (link)
  9. William Henry Preece a Arthur James Stubbs (1893). A Manual of Telephony. https://books.google.co.uk/books?id=g-4OAAAAYAAJ: Whittaker and Company.CS1 maint: location (link)
  10. J J O'Connor a E F Robertson (2007). "Heinrich Rudolf Hertz". MacTutor History of Mathematics. Cyrchwyd 22 Chwefror 2019.
  11. "Guglielmo Marconi". History.com. 31 Ionawr 2019. Cyrchwyd 22 Chwefror 2019.
  12. Arwyr Cymru Archifwyd 2010-06-18 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 8 Tachwedd 2013
  13. "Marconi long wave transmitting station, Waunfawr Transmitting Station, Plas y Celyn, Cefn Du". Coflein. 2009. Cyrchwyd 22 Chwefror 2019.