David Edward Hughes

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
David Edward Hughes
Ffotograff cynharach.

Gwyddonydd, telynor a dyfeiswr y teledeipiadur a'r meicroffon oedd David Edward Hughes (16 Mai 183122 Ionawr 1900) a anwyd yng Nghorwen neu o bosib Llundain.[1][2] Dyfeisiodd y teledeipiadur (neu'r telegraph) yn 1855 a'r meicroffon yn 1878.

Magwraeth ac addysg[golygu | golygu cod y dudalen]

Ei dad oedd David Hughes o'r Bala a symudodd i Lundain. Gan iddynt symud o le i le, ni wyddys i sicrwydd ai yng Nghorwen ai Llundain y'i ganed.[3]

Ymfudodd gyda'i deulu i dalaith Virginia, U.D.A., pan oedd yn saith oed, a chafodd ei addysg yn S. Joseph's College, Bardstown, Kentucky. Pan oedd yn 19 dyrchafwyd ef yn athro prifysgol mewn cerddoriaeth yn y coleg hwnnw a'r flwyddyn ddilynol cafodd gadair gwyddoniaeth naturiol yno hefyd.

"Telegraff Hughes" (1866-1914), y telegraff argraffu cyntaf a allai argraffu testun ar dâp papur. Gwnaethpwyd gan 'Siemens und Halske', yr Almaen. Pellter: 300-400 km. Arddangosfa Amgueddfa Dechnoleg Warsaw (Muzeum Techniki).

Gwaith y dyfeisydd[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn 21 oed dyfeisiodd 'delegraff printio' ag iddo nodweddion creadigol; gadawodd y coleg er mwyn canolbwyntio ar ddyfais a oedd yn cludo llais drwy weiren fetal, a gorffennodd y ddyfais yn 1855, cyn roi patent arni yn 1856. Ceisiodd ei marchnata (gan gynnwys taith i Loegr yn 1857 ac yna i Ffrainc) ond ni chafwyd fawr o ddiddordeb ynddi. Ond yn 1860 prynwyd y ddyfais gan Lywodraeth yr U.D. ac o fewn ychydig flynyddoedd roedd yn cael ei defnyddio drwy Ewrop; daeth y Hughes Telegraph System hefyd yn safon drwy Ewrop.[4]

Yn 1879 gwnaeth arbrawf ddiddorol a brofodd fod ymbelydredd electromagnetig yn bodoli, a hynny pan drosglwyddodd signalau radio o un pen i Great Portland Street, Llundain i'r llall. Roedd hyn wyth mlynedd cyn i Heinrich Hertz gael y clod am wneud yr un peth! Roedd hefyd, ugain mlynedd cyn darllediad radio Guglielmo Marconi. Ystyrir (ym myd gwyddoniaeth) fod y methiant o'i gydanabod yn gam mawr.

Anrhydeddau[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae Hughes yn un o'r gwyddonwyr gyda'r nifer mwyaf o anrhydeddau erioed. Yn eu plith y mae:

  • Medal Aur Rhwysgfawr (Y Grand Gold Medal) a gyflwynwyd iddo yn y Paris Exhibition, 1867
  • Medal Aur y Gymdeithas Frenhinol yn 1885
  • Medal Aur Albert gan Gymdeithas Celfyddydau Prydain yn 1897
  • Am ddyfeisio'r Teledeipiadur a'r meicroffon cyflwynodd Napoleon III anrhydedd Chevalier of the Legion of Honour gan ei wneud yn Commander of the Imperial Order of the Legion of Honour.
  • Urdd Sant Meurice a Sant Lazare (gan yr Eidal)
  • Urdd y Goron Haearn, a'r teitl 'Barwn' (gan Awstria)
  • Urdd Santes Ann (Rwsia)
  • Urdd Anrhydeddus Sant Michael (Bafaria)
  • Cadlywydd Urdd FrenhinolCroes Fawr Medjidie (Twrci)
  • Cadlywydd Urddau Carlos III (Sbaen)
  • Seren Prif Swyddog Urdd Brenhinol Takovo (Serbia)
  • Swyddog ac Urdd Brenhinol Leopold (Gwlad Belg).

Bu farw yn Llundain.


Patent[golygu | golygu cod y dudalen]

  • David E Hughes, Patent UDA Rhif 0014917; Telegraph (gyda'i allweddell yn nhrefn y wyddor a gydag argraffydd ei hun) 20 Mai 1856
  • David E Hughes, Patent UDA Rhif 0022531; Duplex Telegraph 4 Ionawr 1859
  • David E Hughes, Patent UDA Rhif 0022770; Printing Telegraph (with type-wheel) 25 Ionawr 1859

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Y Bywgraffiadur Arlein; Gwefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru; adalwyd 22 Ionawr 2017.
  2. Gwefan Cymru Fyw; adalwyd 4 Chwefror 2015
  3. Anon. "88. David Edward Hughes". 100 Welsh Heroes. Culturenet Cymru. http://www.100welshheroes.com/en/biography/davidedwardhughes. Adalwyd 30 Mehefin 2009.
  4. Sarkar, T. K.; Mailloux, Robert; Oliner, Arthur A. (2006). History of Wireless. USA: John Wiley and Sons. pp. 260–261. ISBN 0471783013. 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: