Bontnewydd, Arfon

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Bontnewydd
Chapel at Bontnewydd in 2005.jpg
Math Pentref, Cymuned Edit this on Wikidata
Cylchfa amser UTC±00:00 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Gwynedd Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 53.117°N 4.2681°W, 53.12°N 4.28084°W Edit this on Wikidata
Cod SYG W04000051 Edit this on Wikidata
Cod OS SH483601 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/au Sian Gwenllian (Plaid Cymru)
AS/au Hywel Williams (Plaid Cymru)

Mae'r Bontnewydd yn bentref gweddol fawr a chymuned ar y briffordd A487 fymryn i'r de o Gaernarfon; Cyfeirnod OS: SH 48300 60061. Daw'r enw o'r bont dros Afon Gwyrfai a adeiladwyd yn y 18g, er bod pont arall wedi cymryd ei lle erbyn hyn.

Cynrychiolir yr ardal hon yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Sian Gwenllian (Plaid Cymru) a'r Aelod Seneddol yw Hywel Williams (Plaid Cymru).[1][2]

Ar un adeg yr oedd Bontnewydd yn cael ei rannu rhwng plwyfi Llanbeblig a Llanwnda, gydag Afon Gwyrfai fel ffin rhyngddynt. Y tŷ hynaf yma yw Plas Dinas, a adeiladwyd yn y 17g, sydd a gweddillion caer Dinas Dinoethwy o Oes yr Haearn o'i gwmpas.

Yn y Bontnewydd y magwyd y gwleidydd adnabyddus Dafydd Wigley.

Y Bontnewydd yw'r ffurf cywir o ysgrifennu'r enw yn gywir, treigliad o Pontnewydd. Mae yna son mai Bodellog oedd yr hen enw, ond efallai bod hwnnw'n enwar ardal rhwng Afon Gwyrfai a Dinas ym mhlwyf Llanwnda.

Cymeriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Un gwr andabyddus o'r Bontnewydd oedd Huw Lewis 1562 o Blas y Bont. Ei hen daid oedd William Bodellog. Aeth i goleg Rhydychen Awst 10 1562, ac yno bu "ddiflannu" am tua 8 mlynedd, a'r canlyniad oedd y llyfr 'Perl Mewn Adfyd', llyfr a ysgrifennwyd yn wreiddiol gan Otto Werdmüller o Zurich, ac a gyfieitheyd i'r saesneg gan Miles Coverdale, Archesgob Caerwysg 'A Spyrytuall and moost Precious Pearle teaching all Men to Loue and Imbrace ye Crosse' Perl Mewn Adfyd oedd y cyfirithiad Cymraeg, llyfr a ail gyhoeddwyd yn 1929 gan W.J. Gruffydd.

Un o'r Bontnewydd yw Dafydd Wigley

Gwleidyddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae ward Y Bontnewydd o etholaeth Arfon yn cynnwys pentref Y Bontnewydd, Rhos Bach a Llanfaglan. Mae'r cyngor cymuned wedi ei rannu'n ddwy ward, Castellmai sef Y Bontnewydd a Rhos Bach, 9 sedd, a phlwyf hynafol Llanfaglan gyda 2 sedd.

Enwau Lleoedd[golygu | golygu cod y dudalen]

Bodellog[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn ol Archif Melville Richards, mae'r enw Bodellog wedi ei gofnodi fel Botelauc yn 1237-67, Bodellok yn 1306 

Bodelloke yn 1550 gan y Comsiwn Henebion ac Dinas Bodellog yn 1659 (AMR)

Y Bontnewydd[golygu | golygu cod y dudalen]

Y cofnod cynharaf o'r Bontnewydd yw un John Leland 1536 ble mae'n dweud hyn "Bontnewith 1536"

“There cummith a water caullid Avon Guirvay thorough a bridge calluid Bontnewith” anc yna ar fap John Ogilby 1600-1676 o Trallwng i Gaernarfon gwelwn "Pont Newyed" "Gwyrvay Flu" "Newbridge"

Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod y dudalen]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5][6]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Bontnewydd, Arfon (pob oed) (1,162)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Bontnewydd, Arfon) (929)
  
82.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Bontnewydd, Arfon) (941)
  
81%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Bontnewydd, Arfon) (166)
  
35.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Gwefan y Cynulliad; adalwyd 24 Chwefror 2014
  2. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
  3. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html. Adalwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  5. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013

Cymeriadau, Enwau Lleoedd a Gwleidyddiaeth gan Ifor Williams, Llanfaglan.