Penmorfa

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Penmorfa
Math gwrthrych daearyddol, pentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Gwynedd Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 52.943089°N 4.162283°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/au Dafydd Elis-Thomas (Annibynnol)
AS/au Liz Saville Roberts (Plaid Cymru)

Pentref bychan yn Eifionydd, Gwynedd, yw Penmorfa ("Cymorth – Sain" ynganiad ) . Mae'n gorwedd tua milltir i'r gorllewin o Dremadog ar bwys yr A487.

Fe'i gelwir yn Benmorfa am ei fod yn gorwedd ar ben gorllewinol morfa Tremadog, sy'n rhan o'r Traeth Mawr; buasai'r tir hwn yn wlypach o lawer cyn i William Madocks godi morglawdd dros geg y Traeth Mawr.

Cofrestwryd Eglwys Sant Beuno, Penmorfa yn adeilad Gradd II* gan Cadw. Mae wedi cau ers rhai blynyddoedd.

Ar ochr arall yr Alltwen i'r gogledd o'r pentref ceir hen blasdy'r Gesail Gyfarch gyda phlasdy'r Clenennau yn ei wynebu dros y cwm. Ar wahân i'r A487, mae lonydd bychain dros y morfa yn cysylltu'r pentref â Pentrefelin a Cricieth i'r de-orllewin a Penamser a Phorthmadog i'r de-ddwyrain.

Cynrychiolir yr ardal hon yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Dafydd Elis-Thomas (Annibynnol) a'r Aelod Seneddol yw Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[1][2]

Enwogion[golygu | golygu cod y dudalen]

Croesi ac osgoi'r morfa[golygu | golygu cod y dudalen]

Hen arwydd “Penmorfa” ger gorsaf Tan y Bwlch yn cyfeirio teithwyr o gwmpas, ac nid dros y Traeth Mawr fel heddiw

Prin y gallwn ddirnad ôl y llythrennau ar y graig ond hen arwydd i Benmorfa ydi hwn wedi ei osod rhyw oes cyn codi morglawdd Maddocks ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Y pryd hwnnw roedd siroedd Meirionnydd a Chaernarfon wedi eu gwahanu i bob pwrpas gan ucheldir a chan morfa anferth aber y Glaslyn, sef y Traeth Mawr. Am le godidog fyddai’r aber hwnnw cyn ei ddifetha fel cynefin naturiol gan gob Maddocks, a’r ffordd newydd. Meddyliwch gorfod mynd ar hyd yr hen ffordd o Faentwrog i Benmorfa trwy Rhyd, Llanfrothen, Aberglaslyn, Prenteg. Mae'r arwydd o garreg i’w weld heddiw yn y wal ar ymyl y ffordd rhwng y fynedfa i orsaf Tan y Bwlch a Llyn Mair.[3]

Pwllgoleulas[golygu | golygu cod y dudalen]

Rhan isaf pentre Penmorfa yw Pwllgoleulas ar lannau’r hen Draeth Mawr. Gall yr enw gyfeirio at y cannwyll corff (‘’Will-o’-the-wisp’’). Dyma breswylydd o’r pentref Tom Jones yn 2012:

‘’Yn ddiweddar rhoddwyd enw pob ochor i bentref Pwllgoleuglas sydd rhwng Penmorfa a Thremadog. Pwllgloywlas fu ar lafar am flynyddoedd lawer gan pawb ac fe roedd cwestiynu pan ddaeth yr arwyddion allan a oedd camgymeriad, ond doedd dim, Pwllgoleulas oedd yr enw cywir. Mae'r pentref ar gyrion 'rhen draeth, cyn codi'r cob ym Mhorthmadog. Byddai'r llanw yn dod i fyny hyd at Penmorfa felly morfa gwlyb a fyddai yno pan a'i y llanw allan. Felly tybed mai pwll gwlyb oedd yma a bod nwyon yn codi ohonno a fflam las yn dod ohonno pan danniai'r nwyon a rhoi enw i Pwllglauglas? Pwy a wyr?[4]


  1. Gwefan y Cynulliad; adalwyd 24 Chwefror 2014
  2. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
  3. Bwletin Llên Natur rhifyn 21
  4. Y diweddar Tom Jones ym Mwletin 51, t. 2