Llanfaelrhys

Oddi ar Wicipedia
Llanfaelrhys
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirAberdaron Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.809°N 4.656°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH210268 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auMabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)
AS/auLiz Saville Roberts (Plaid Cymru)
Map

Pentref gwledig a phlwyf yng nghymuned Aberdaron, Gwynedd, yw Llanfaelrhys[1] ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Fe'i lleolir ger arfordir de-orllewinol penrhyn Llŷn, rhwng pentrefi Aberdaron i'r gorllewin a Rhiw i'r dwyrain.

Yn ôl traddodiad, sefydlwyd eglwys Llanfaelrhys gan Sant Maelrhys (neu Maelrys, Maelerw), cefnder Sant Hywyn, sefydlydd eglwys Aberdaron ; dywedir fod Maelrhys yn un o seintiau Ynys Enlli. Roedd yr eglwys yn un o gapeli Aberdaron yn yr Oesoedd Canol a'r plwyf yn rhan o gwmwd Cymydmaen.

Mae'r ardal yn ne'r plwyf, uwchben bae Porth Ysgo, yn perthyn i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Yma ceir clogwynni mawr sy'n disgyn yn syrth i'r traeth creigiog islaw.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. British Place Names; adalwyd 11 Medi 2023
Eginyn erthygl sydd uchod am Wynedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato