Llandegwning

Oddi ar Wicipedia
Llandegwning
Llandegwning Church - geograph.org.uk - 209303.jpg
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.84°N 4.57°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH265299 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auMabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)
AS/auLiz Saville Roberts (Plaid Cymru)
Map

Pentref bychan a phlwyf eglwysig yn Llŷn, Gwynedd yw Llandegwning ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Ceir ffurf arall ar yr enw, sef Llandygwynin, sy'n fwy hanesyddol gywir efallai (gweler isod), ond 'Llandegwning' a geir ar lafar ac ar y map yn gyffredinol.

Lleolir y pentref fymryn i'r de o Fotwnnog rhwng Abersoch ac Aberdaron ym Mhen Llŷn. I'r de ceir traeth llydan Porth Neigwl.

Cynrychiolir yr ardal hon yn y Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru) a'r Aelod Seneddol yn San Steffan, Llundain yw Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[1][2]

Yr eglwys[golygu | golygu cod]

Cysylltir y plwyf, sy'n hynafol, â Gwynin Sant, un o feibion Helig ap Glannog, arglwydd chwedlonol Tyno Helig. Dyna sy'n cyfrif am y sillafiad Llandygwynin. Dywedir ei fod wedi treulio cyfnod ym mynachlog Bangor Is Coed cyn ffoi oddi yno i Ynys Enlli. Mae'n nawddsant plwyf Dwygyfylchi hefyd. Nid yw eglwys bresennol y plwyf yn hen. Cafodd yr eglwys wreiddiol ei hailadeiladu yn gyfangwbl bron yn 1840, ond mae'r clochdy yn lled hen.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]


WalesGwynedd.png Eginyn erthygl sydd uchod am Wynedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
  1. Gwefan y Cynulliad;[dolen marw] adalwyd 24 Chwefror 2014
  2. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014