Gwynin

Oddi ar Wicipedia
Gwynin
GanwydGogledd Cymru Edit this on Wikidata
Man preswylDwygyfylchi, Llandegwning, Bangor-is-y-coed Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethmynach Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl31 Rhagfyr Edit this on Wikidata

Sant Cymreig oedd Gwynin (bl. 6g?). Ychydig a wyddys amdano.

Traddodiadau[golygu | golygu cod]

Yn ôl traddodiad roedd yn un o feibion Helig ap Glannog, arglwydd chwedlonol Tyno Helig. Roedd yn frawd i Sant Boda. Dywedir iddo fynd yn fynach ym Mangor Is Coed ac wedyn i Ynys Enlli.

Eglwysi[golygu | golygu cod]

Cysylltir Gwynin â dau blwyf yng Nghymru, sef Dwygyfylchi yng nghymuned Penmaenmawr, Sir Conwy, a Llandegwning (Llandygwynin) yn Llŷn, Gwynedd.

Eglwys Gwynin Sant yw eglwys plwyf Dwygyfylchi. Fe'i lleolir ym mhentref Dwygyfylchi ei hun. Nid yw'r eglwys bresennol yn hen iawn ond bu eglwys yma yn yr Oesoedd Canol a oedd ym meddiant Abaty Aberconwy. Cafodd yr hen eglwys ei ailadeiladu o'r newydd bron yn 1760, a dim ond darn o ffenestr o'r 16g sy'n aros ohoni; ailadeiladwyd rhan helaeth yr adeilad hwnnw yn ei dro yn y 19g. Mae Syr John Wynn o Wydir yn cyfeirio ati ac yn dweud bod Gwynan a'i frawd Boda, meibion Helig ap Glannog, wedi eu claddu yno.[1]

Gŵyl mabsant: 31 Rhagfyr.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. H. Hughes a H. L. North, The Old Churches of Snowdonia (Bangor, 1924; arg. newydd, Capel Curig, 1984).