Glan-y-wern

Oddi ar Wicipedia
Glan-y-wern
Mathgwrthrych daearyddol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.88518°N 4.08211°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auMabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)
AS/auLiz Saville Roberts (Plaid Cymru)
Map
Erthygl am y pentref yng Ngwynedd yw hon. Am y pentref yng Ngheredigion gweler Glan-y-wern.

Pentref bychan yn ne Gwynedd yw Glan-y-wern ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Mae'n gorwedd yn ardal Ardudwy ar bwys y briffordd A496 tua hanner ffordd rhwng Harlech i'r de a Maentwrog i'r gogledd.

Y pentrefi agosaf yw Talsarnau, llai na filltir i'r gorllewin, a Llanfihangel-y-traethau ('Ynys'), filltir i'r gogledd ar yr A496. Gwasaneithir Glan-y-wern a Llanfihangel gan orsaf reilffordd Tŷ Gwyn ar lein Rheilffordd Arfordir Cymru chwarter milltir i'r de-orllewin o'r pentref. Mae lôn hynafol yn dringo o Lan-y-wern trwy Lyn Cywarch ac Eisingrug i Gwm Eisingrug lle mae llwybr yn arwain heibio i'r llynnoedd wrth droed Moel Ysgyfarnogod a trosodd i gyfeiriad Trawsfynydd.

Mae Pont Glan-y-wern yn dwyn yr A496 dros afon Eisingrug yn y pentref. I'r de-orllewin o'r pentref ceir gwastadedd eang Morfa Harlech, sy'n Warchodfa Natur Cenedlaethol.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]