A496

Oddi ar Wicipedia
A496
Mathffordd dosbarth A Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.9°N 4.1°W Edit this on Wikidata
Hyd32.8 milltir Edit this on Wikidata
Map

Priffordd yn ne Gwynedd, gogledd-orllewin Cymru, yw'r A496. Mae'n cysylltu Blaenau Ffestiniog, yn y gogledd, a Llanelltud (ger Dolgellau) yn y de.

Mae'r ffordd yn dilyn cwrs sy'n cyfateb yn fras i siâp D fawr o'r chwith, gan redeg i gyfeiriad y gorllewin o Lanelltud i Abermaw ar hyd glan ogleddol Afon Mawddach ac yna'n troi i'r gogledd ar hyd arfordir Ardudwy i fyny trwy Harlech i Faentrwog ac yn ei blaen wedyn i fyny cwm Ffestiniog i Flaenau.

Lleoedd ar ei chwrs[golygu | golygu cod]

Wedi eu rhestru o'r de i'r gogledd.