Bethel, Gwynedd

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Bethel
Capel Bethel, Bethel (geograph 2329036).jpg
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.1645°N 4.2099°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH522653 Edit this on Wikidata
Cod postLL55 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auSiân Gwenllian (Plaid Cymru)
AS/auHywel Williams (Plaid Cymru)
Am enghreifftiau eraill o'r enw, gweler Bethel.

Pentref yng nghymuned Llanddeiniolen, Gwynedd, Cymru, ydy Bethel[1][2] ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Saif ar ffordd y B4366 rhwng Caernarfon a Llandygái, 4 cilometr o Gaernarfon a 7 cilometr o Fangor.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Siân Gwenllian (Plaid Cymru)[3] ac yn Senedd y DU gan Hywel Williams (Plaid Cymru).[4]

Tyfodd y pentref yn sgil datblygiad chwareli Llanberis, yn enwedig Chwarel Dinorwig, gan fod Bethel wrth ochr y rheilffordd oedd yn cario llechi o Chwarel Dinorwig i'r Felinheli. I'r de o'r pentref mae bryngaer Dinas Dinorwig.

Gerllaw Bethel ei hun mae Saron a Penrhos. Yn y pentref ceir garej gwerthu ceir, tri chapel a chaffi 'Perthyn', a agorodd ei ddrysau ym mis Hydref 2020. Mae yna hefyd glwb pêl-droed.

Ysgol Gynradd Bethel[golygu | golygu cod y dudalen]

Ysgol Gynradd Sirol (Babanod/Iau) yw Ysgol Gynradd Bethel ac mae'n ysgol ddyddiol, ddwyieithog, gyd-addysgol.[5] Yn 2019, roedd 150 o ddisgyblion rhwng 3 ac 11 oed yn mynychu'r ysgol.[6] Cymraeg yw iaith yr ysgol o ddydd i ddydd a Chymraeg yw'r iaith a ddefnyddir i gyfathrebu â'r disgyblion ac yng ngweinyddiaeth yr ysgol. Yn dilyn arolygiad Estyn yn 2019, derbyniodd yr ysgol y sgôr uchaf posib gan yr arolygwyr.[7] Beirniadwyd yr ysgol ar bum maes; Safonau, Lles ac Ymagweddau tuag at Ddysgu, Profiadau Dysgu ac Addysgu, Gofal, Cymorth, Arweiniad, ac Arweinyddiaeth a Rheolaeth. Derbyniwyd sgôr ardderchog ym mhob maes.[8]

Cyfrifiad Cenedlaethol 2011 a'r Gymraeg[golygu | golygu cod y dudalen]

Arolwg sy'n digwydd bob 10 mlynedd yw'r cyfrifiad ac mae'n rhoi darlun i ni o'r holl bobl a chartrefi yng Nghymru a Lloegr.[9] Yn ôl canlyniadau cyfrifiad 2011, roedd 1,342 o bobl, dros 3 oed, yn byw ym Methel.[10] O'r nifer hwn, roedd 85.8% o boblogaeth y pentref yn gallu siarad Cymraeg, a 77.1% o boblogaeth y pentref yn gallu siarad, darllen, ac ysgrifennu yn y Gymraeg.[10] Caiff y canran uchel hwn o siaradwyr Cymraeg ei adlewyrchu yn adroddiad Estyn o Ysgol Bethel yn 2019, sydd yn nodi bod bron pob un o’r disgyblion yn "ymfalchïo yn yr iaith Gymraeg ac yn ei defnyddio'n naturiol wrth siarad â'i gilydd."[8]

Pobl o Fethel[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 20 Ionawr 2022
  3. Gwefan Senedd Cymru
  4. Gwefan Senedd y DU
  5. Ysgol Bethel. d.d. "Ysgol Gynradd Bethel Primary School". ysgolbethel.org. Cyrchwyd 4 Mawrth 2022.
  6. "A report on Ysgol Gynradd Bethel" (PDF). Estyn. Mai 2019. Cyrchwyd: 4 Mawrth 2022
  7. Williams, G. & Care, A. 2019. The 'excellent' Gwynedd school praised for its natural Welsh ethos [Ar-lein]. Bae Colwyn: Daily Post. Ar gael: https://www.dailypost.co.uk/news/north-wales-news/excellent-gwynedd-school-praised-natural-16645381 [Cyrchwyd: 4 Mawrth 2022]
  8. 8.0 8.1 Estyn. 2019. Ysgol Gynradd Bethel. Caerdydd: Estyn. [Ar-lein] Ar gael: https://www.estyn.gov.wales/system/files/2021-08/Inspection%20report%20Ysgol%20Gynradd%20Bethel%202019.pdf [Cyrchwyd: 4 Mawrth 2022]
  9. "Ynglŷn â'r cyfrifiad". Cyfrifiad 2021. Cyrchwyd 2022-03-04.
  10. 10.0 10.1 "Proffiliau iaith ardaloedd a Phoblogaeth". www.gwynedd.llyw.cymru. Cyrchwyd 2022-03-04.