Selwyn Iolen

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Selwyn Iolen
Ffugenw Selwyn Iolen Edit this on Wikidata
Ganwyd 1928 Edit this on Wikidata
Bethel Edit this on Wikidata
Bu farw 10 Awst 2011 Edit this on Wikidata
Cenedl Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth bardd, athro Edit this on Wikidata

Bardd, athro ac eisteddfodwr brwd oedd Selwyn Griffith (enw barddol: y Prifardd Selwyn Iolen; 1928 - 10 Awst 2011). Ef oedd yr Archdderwydd rhwng 2004 a 2008.

Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn fab i chwarelwr, fe'i ganed ac fe'i maged ym Methel, Gwynedd. Mynychodd hen Ysgol y Sir, Caernarfon a bu'n byw yn yr ardal drwy gydol ei fywyd. Bu'n gweithio i Gyngor Dosbarth Gwyrfai am ddeunaw mlynedd cyn mynd i'r Coleg Normal i wneud cwrs ymarfer dysgu. Bu'n athro yn Ysgol Cadnant Conwy, Ysgol Penybryn Bethesda, Ysgol Llanberis, ac Ysgol Dolbadarn, cyn mynd yn Bennaeth Ysgol Gynradd Rhiwlas.[1]

Ei enw tu allan i'r Orsedd oedd Selwyn Griffith. Mae'n debyg ei fod yn pethyn o bell i'r Prifardd W. J. Gruffydd, hefyd o Fethel, Bardd y Goron yn Eisteddfod Llundain 1909.[2]

O dan yr enw Selwyn Griffith y cyhoeddodd ei res o lyfrau, llyfrau barddoniaeth i blant yn bennaf. Defnyddiwyd ei gerddi yn helaeth fel darnau adrodd mewn eisteddfodau dros gyfnod o ddegawdau. Bu'n glerc Cyngor Cymuned Llanddeiniolen am 46 o flynyddoedd ac roedd yn ysgrifennu colofn fisol i bapur bro Eco'r Wyddfa ers ei gychwyn.

Prifardd ac Eisteddfodwr[golygu | golygu cod y dudalen]

Fe'i derbyniwyd i'r Orsedd ym 1973. Enillodd Goron Eisteddfod Dyffryn Conwy ym 1989, gyda dilyniant o gerddi ar y testun Arwyr. Y tri beirniad oedd Bedwyr Lewis Jones, Nesta Wyn Jones a John Gruffydd Jones. Enillodd hefyd dros ddeugain o gadeiriau a choronau mewn eisteddfodau bach ac eisteddfodau taleithiol ledled Cymru.[3]

Bu'n feirniad adrodd a llenyddiaeth mewn eisteddfodau am ddegawddau, ac roedd yn adnabyddus fel eisteddfodwr brwd ac fel cefnogwr eisteddfodau bach, fel un o'r gynulleidfa pan nad oedd yn cymryd rhan fwy gweithgar.

Archdderwydd[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu'n Archdderwydd rhwng 2004 a 2008, cyfnod digon diddorol i'r Eisteddfod am wahanol resymau. Tua'r adeg hon y dechreuwyd gwerthu cwrw ar y Maes, cam dadleuol tu hwnt ar y pryd. Wrth i Selwyn Iolen gymryd yr awenau y peidiodd yr Orsedd â defnyddio cerrig go iawn fel Cerrig yr Orsedd ac y dechreuwyd defnyddio rhai plastig, mesur dadleuol arall a oedd yn gam tuag at dorri costau'r Eisteddfod. [4]

Achosodd ychydig o gynnwrf ei hun pan gafodd ei ethol yn Archdderwydd, gan iddo wrthod gwneud cyfweliadau drwy gyfrwng y Saesneg ar y Maes. Roedd o'r farn bod y Rheol Gymraeg yn gwahardd hynny a'i bod yn hanfodol bod yr Eisteddfod yn parhau yn ŵyl uniaith Gymraeg.[5]

Bu straeon yn y newyddion hefyd pan dderbyniwyd Richard Brunstrom ('Y Prif Gopyn') i'r Orsedd. Fel Prif Gwnstabl Heddlu'r Gogledd, roedd yntau wedi gwneud enw iddo'i hun fel un â pholisi llym o ran dirwyo gor-yrwyr. Bu sôn yn y wasg adeg derbyn y Prif Gopyn i'r Orsedd bod yr Archdderwydd ei hun wedi ei ddal yn gor-yrru wrth ruthro adre i wylio diwedd gêm bêl-droed.[6]

Er i Dic yr Hendre gymryd yr awenau fel Archdderwydd yn 2008, gwasanaethodd Selwyn Iolen fel Archdderwydd yn Eisteddfod y Bala 2009, oherwydd gwaeledd Dic yr Hendre. Anfonodd gyfarchion teimladwy at yr Archdderwydd yn ei waeledd o lwyfan y Brifwyl yn ystod Defod y Cadeirio. Ef hefyd arweiniodd y ddefod i urddo Jim Parc Nest yn Archdderwydd yn ystod Defod Cyhoeddi Eisteddfod Wrecsam yn 2010.

Bywyd personol[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd yn briod â Myra, ac roedd ganddynt un mab, Euron. Roedd Selwyn Iolen yn gefnogwr pêl-droed brwd. Chwaraeai fel gôl-geidwad yn ei ieuenctid, ac yn ddiweddarach, byddai'n sicrhau ei fod yn ei ddillad gorau i wylio gêm derfynol cwpan FA Lloegr.

Ag yntau'n Ddirprwy Archdderwydd erbyn hynny, methodd â bod yn Eisteddfod Wrecsam 2011 oherwydd gwaeledd; anfonwyd cyfarchion ato o Ddefod y Cadeirio gan yr Archdderwydd Jim Parc Nest, a addawodd alw heibio i'w weld yn ei gartref, Crud-yr-Awen ym Mhenisarwaun fore trannoeth. Bu farw Selwyn Iolen yn ei gartref ar 10 Awst 2011, yn 83 oed.[7]

Gweithiau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • 2007: O Barc y Wern i Barc y Faenol (Gwasg y Bwthyn)
  • 2000: Nesa i Adrodd...
  • 1995: A Dyma'r Ola'
  • 1995: Mae Gen i Gân (gyda Leah Owen)
  • 1992: Dewch i Adrodd Eto
  • 1992: Dewch i Adrodd
  • 1990: Pawb yn Barod?
  • 1986: Llwyfan y Plant
  • 1979: C'nafron a Cherddi Eraill

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]