John Gruffydd Jones

Oddi ar Wicipedia
John Gruffydd Jones
Ganwyd1932 Edit this on Wikidata
Bu farw11 Mawrth 2023 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethysgrifennwr, cemegydd diwydiannol Edit this on Wikidata

Llenor a chemegydd o Gymro oedd John Gruffydd Jones (193211 Mawrth 2023).

Roedd yn wreiddiol o Nanhoron ym Mhen Llŷn, a bu'n byw ym Manceinion am 17 mlynedd cyn ymgartrefu yn Abergele gyda'i wraig Eirlys yn 1967. Roedd ysgrifennu yn ddiléit ganddo, a bu'n awdur prysur.[1]

O ganol yr 1970au enillodd Jones rai o brif gystadlaethau llenyddol yr Eisteddfod Genedlaethol. Mor ddiweddar â 2018 fe enillodd wobr lenyddol yn y Brifwyl, ond cyn hynny, enillodd Y Fedal Ryddiaith yn 1981, Y Fedal Ddrama yn 1986 a'r Goron yn 1987.

Wedi ymddeol bu'n olygydd ar Y Goleuad, cylchgrawn wythnosol y Methodistiaid Calfinaidd, am ddeng mlynedd rhwng 2000 a 2010. Aeth ati hefyd i ennill gradd MA Ysgrifennu Creadigol dan gyfarwyddyd Yr Athro Angharad Price yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Cymru, yn 2012.

Bu farw yn 90 oed ar ôl gwaeledd byr. Mae'n gadael merch a mab, Delyth Marian a Dafydd Llewelyn, yn ogystal â thair o wyresau.[2]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "www.gwales.com - 9781907424366, Dawns Ganol Dydd". www.gwales.com. Cyrchwyd 2020-01-16.
  2. Y llenor John Gruffydd Jones wedi marw yn 90 oed , BBC Cymru Fyw, 13 Mawrth 2023.