Y Fedal a Thlws y Ddrama
| Enghraifft o: | Un o brif wobrau Eisteddfod Genedlaethol Cymru |
|---|---|
| Dyddiad cynharaf | 1940 |
| Iaith | Cymraeg |
| Cysylltir gyda | Eisteddfod Genedlaethol Cymru |
| Rhagflaenwyd gan | Tlws y Ddrama |
| Dynodwyr | |
Un o brif wobrau a chystadleuaeth yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru yw Y Fedal Ddrama neu Tlws y Ddrama neu Medal y Dramodydd. Cyflwynwyd Y Fedal Ddrama am y tro cyntaf yn 2005, Tlws y Ddrama ym 1940 a Medal y Dramodydd yn 2025.[1] Cyflwynwyd gwobrau ariannol hefyd, pan nad oedd Tlws neu Medal ar gael. Mae gofynion y gystadleuaeth wedi amrywio'n fawr, o ran hyd ac arddull, er mai am Ddrama Lwyfan Hir y gwobrwyd gan amlaf. Bu cryn ddadlau ac anghytuno am y gystadleuaeth dros y blynyddoedd, ac atalwyd y Wobr yn fwy aml na Phrif Wobrau eraill yr Eisteddfod Genedlaethol. Enillwyd y gystadleuaeth gan nifer o ddramodwyr ac awduron blaenaf Cymru gan gynnwys John Gwilym Jones, John Ellis Williams, Huw Lloyd Edwards, Urien Wiliam, Eigra Lewis Roberts, William R. Lewis, Meic Povey, William Owen Roberts, T James Jones, Manon Steffan Ros a Dyfed Edwards.
Cefndir
[golygu | golygu cod]
Er bod gwobrau am gyfansoddi dramâu wedi'u cyflwyno am y tro cyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Aberystwyth 1916, ni chafwyd Tlws y Ddrama tan yr Eisteddfod Genedlaethol ym 1940, sef yr Eisteddfod Radio gyntaf.[1] Honna Alan Llwyd, yn ei gyfraniadau Canrif o Brifwyl ar wefan BBC Cymru, mai ym 1961 y cyflwynwyd Tlws y Ddrama am y tro cyntaf.[2] Awgryma John Ellis Williams, yn ei hunangofiant Inc yn fy Ngwaed, mai ym 1921 y cyflwynwyd y gystadleuaeth am y tro cyntaf: "'Roedd yr Eisteddfod Genedlaethol, a roes brawf ofnus arni yn 1915, wedi ei derbyn yn gyflawn aelod yn 1921".[3] Ond ym 1940 y gwelir cynnig "Tlws gwerth £10" i George Davies, Treorci am ddrama hir.[1]
Rhwng 1940 a 1993, cyflwynwyd Tlws y Ddrama i enillydd y Ddrama Hir orau.[4][5][6][7][1] Rhwng 1993 a 2004, dileuwyd y Tlws, a rhoddwyd Gwobr Ariannol am y Ddrama Hir orau, cyn cyflwyno Y Fedal Ddrama newydd yn 2005.[8][9][10][11][12][13][14][15][16]
Cyfansoddi Drama Hir yw nôd arferol y gystadleuaeth, ond yn yr Eisteddfod yn 2005, ac am nifer o flynyddoedd wedi hynny, dyfarnwyd y Fedal am y ddrama orau o'r ddwy gystadleuaeth - y Ddrama Hir a'r Ddrama Fer. Newidiwyd y drefn yn 2011, gan gynnig y Fedal dim ond am y Ddrama Hir fuddugol. Gwobrwywyd y ddrama oedd yn dangos yr addewid mwyaf gyda'r potensial i'w datblygu ymhellach o gael gweithio gyda chwmni proffesiynol. Erbyn hyn, mae'r enillydd yn derbyn y Fedal (er cof am Urien Wiliam) a swm o arian.
Ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam yn 2025, newidiwyd enw'r Fedal i Medal y Dramodydd, yn dilyn newidiadau yng ngofynion y gystadleuaeth.[17] Gwobrwyir y Fedal ynghyd â chomisiwn o £3,000 am y syniad neu'r ddrama fwyaf addawol, yng ngolwg consortiwm o aelodau cwmnïau theatr o Gymru.[17] Bu beirniadu chwyrn yn y Wasg dros y newidiadau yma, gyda rhai yn galw'r newid yn annheg.[18]
Atal y Wobr
[golygu | golygu cod]Yn yr hanner can mlynedd rhwng 1960 a 2010, atalwyd y Wobr (boed hynny yn Dlws, yn Wobr Ariannol neu'r Fedal) tuag ugain o weithiau, a ni chafwyd cystadleuwyr yn 1976. Penderfynodd sawl beirniad i roi cyfraniad ariannol i rai dramodwyr, er mwyn eu hannog i ddatblygu'r ddawn. Roedd yr atal yn amlwg iawn ar gychwyn y 2000au, ac yn un o'r prif resymau dros gynyddu'r Wobr Ariannol, ac yn y pendraw, gyflwyno'r Fedal Ddrama yn 2005. Rhoddwyd sylw a pharch pellach i'r dramodwyr buddugol drwy gynnal y Seremoni ar y Prif Lwyfan yn y Pafiliwn. Bu hynny'n lled lwyddianus a gwelwyd llawer mwy o ddramodwyr yn cael eu gwobrwyo yn y blynyddoedd a'u dilynodd.
1920au
Atal y Wobr o leiaf tair gwaith [1921,1923 a 1929].[3]
1930au
Atal y Wobr o leiaf chwe gwaith.[3]
1940au - Tlws y Ddrama
Atal y Wobr o leiaf dwywaith [1942 a 1945][1]
1950au
Atal y Wobr o leiaf bum gwaith [1950, 1951, 1953, 1954 a 1956].[19][20][21][22][23]
1960au
Atal y Wobr chwe gwaith [1960, 1962, 1964, 1965, 1966 a 1968] a dyfarnu rhan yn unig o'r Wobr Ariannol ar sawl achlysur.[24][25][26][27][28]
1970au
Atal y Wobr bedair gwaith, [1970, 1971, 1977 a 1978] a neb yn cystadlu ym 1976.[29][30][31][32][33]
1980au
Atal y Wobr tair gwaith [1985, 1987, 1989].[34][35][36]
1990au
Atal y Wobr o leiaf tair gwaith, [1990, 1993, 1997] ond y beirniaid ym 1997 yn dewis rhoi rhan o'r arian i'r dramodydd ddatblygu ei waith.[5][7]
2000au
Atal y Wobr bum gwaith [2000, 2001, 2003, 2004 a 2006] [12][13][15][16][37]
2010au
Atal y Wobr un waith [2010].[38]
2020au
Atal y gystadleuaeth un waith [2024].[39]
Helynt Eisteddfod Llanrwst 1989
[golygu | golygu cod]
Er nad oedd teilyngdod yng nghystadleuaeth Tlws Y Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Dyffryn Conwy 1989, teimlai dau o'r tri beirniad - John Ogwen, Bob Roberts ac Wyn Bowen Harries, bod dwy ddrama allan o'r deg yn codi uwch law y gweddill "siomedig iawn".[40] Teimlai John Ogwen mai dim ond un ddrama oedd yn addawol.[40]
Rhan o'r wobr y flwyddyn honno oedd i lwyfannu'r ddrama fuddugol gan gwmni theatr Hwyl a Fflag. Ond methwyd â chytuno ar yr enillydd.
Roedd Bob Roberts a Wyn Bowen Harries yn ffafrio'r ddrama Janine (gan Cefin Roberts): "Nid ydym, fel beirniaid, yn gytûn o gwbl ar rinweddau a ffaeleddau'r ddrama hon", dywedant yn eu beirniadaeth, er i Wyn Bowen Harries "...ystyried bod potensial theatrig sylweddol" ym mhrif gymeriad y ddrama.[40] Nid oedd John Ogwen, ar y llaw arall, yn teimlo bod y ddrama'n "un o'r ddwy orau yn y gystadleuaeth". Credai John mai drama arall, sef Berwi Wy oedd yr "unig sydd yn haeddu ei hystyried ymhellach"[40] Daeth y ddrama Berwi Wy [gan Dewi Wyn Williams] i'r llwyfan, maes o law, fel y ddrama Leni.
Roedd y tafoli terfynnol yn ddrama ynddo'i hun:
"Mae dau ohonom, sef John Ogwen a Bob Roberts, o'r farn nad oes yr un o'r dramâu a dderbyniwyd yn haeddu eu hanrhydeddu gyda Thlws y Ddrama. Dyfarniad terfynol John Ogwen yw nad yw'r un o'r dramâu yn haeddu'r wobr. Mae Bob Roberts yn credu, er gwaethaf y diffygion [...], fod awdur Berwi Wy yn haeddu canpunt or wobr ariannol fel cydnabyddiaeth o'r addewid sydd yn ei sgript. Mae Wyn Bowen Harries, ar y llaw arall, yn teimlo bod yna fwy o addewid yn Janine nag yn Berwi Wy a'i bod yn fwy addas i'w chyflwyno fel drama newydd yn rhaglen Ddrama'r Eisteddfod eleni. Mae ef, felly, yn argymell ei gwobrwyo. Gan mai Cwmni Hwyl a Fflag, o dan gyfarwyddyd Wyn Bowen Harries, sydd â'r cyfrifoldeb o lwyfannu'r ddrama fuddugol yn y gystadleuaeth hon, ac oherwydd ystyriaethau technegol ac ymarferol, cytunwyd bod ei sefyllfa ef fel Cyfarwyddwr yn cyfiawnhau rhoi'r llais terfynol iddo ef gan mai ganddo ef a'i gwmni y mae'r cyfrifoldeb o droi'r sgript yn darn o theatr. Ei ddewis ef yw cyflwyno'r ddrama Janine." [40]
"Mae'n biti fod mwy o ddrama wedi digwydd ynghylch y gystadleuaeth nag oedd ynddi", meddai John Ogwen, wrth Golwg [Medi 1989].[41] "Mae'r holl beth yn sawru o annhegwch", ychwanegodd. Yn ôl John Ogwen, roedd hi'n gamgymeriad cael darpar-gyfarwyddwr y ddrama hefyd yn feirniad. "Dwi'n deall ei deimladau'n iawn", meddai. "Fyddai'r un cyfarwyddwr yn leicio cael drama wedi ei orfodi arno".[41] Wrth adolygu'r cynhyrchiad gan Hwyl a Fflag ym 1989, fe ddywed Alun Ffred yn ei adolygiad crafog yn Golwg [Medi 1989]: [42]
"Petai Janine ar brawf mewn llys barn, go brin y byddwn i'n cael bod yn un or rheithgor. Gan 'mod i'n Gymro Cymraeg ac yn trigo yng Nghymru yn ystod haf 89 byddai'r amddiffyniad yn siwr o ddal mod i - a miloedd eraill - yn rhagfarnllyd o gofio'r fath stŵr cecrus a chyhoeddus fu yn Eisteddfod Llanwst ar gownt y ddrama. Mae'n werth cofio serch hynny nad y ddrama ei hun oedd achos y gynnen". [42]
Fe gafodd y ddrama Berwi Wy o waith Dewi Wyn Williams, ei llwyfannu yn ddiweddarach yr un flwyddyn. Cwmni Theatr Gwynedd oedd yn gyfrifol am ei chynhyrchu o dan yr enw newydd, Leni.
Helynt Eisteddfod Rhondda Cynon Taf 2024
[golygu | golygu cod]Nid oedd Seremoni ar gyfer y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf yn 2024. Ar brynhawn Iau yr Ŵyl [8 Awst], funudau yn unig cyn y Seremoni, cyhoeddodd yr Eisteddfod fod y gystadleuaeth wedi ei hatal am y flwyddyn honno. Daeth y penderfyniad ar ôl y broses o feirniadu'r gystadleuaeth. Roedd sïon ar hyd a lled y Maes yn damcaniaethu am y rheswm a chafwyd beirniadaeth gan lawer am nad oedd eglurhad pellach gan yr Eisteddfod.[17][43] Ni chafodd y feirniadaeth ei chyhoeddi yn y Cyfansoddiadau a'r Beirniadaethau, a ni ddatgelwyd faint oedd wedi cystadlu. Ychydig ddyddiau yn ddiweddarach, cyhoeddodd yr actor Wyn Bowen Harries ei fod wedi cystadlu am y Fedal, ac wedi derbyn beirniadaeth ffafriol iawn am ei ddrama DNA. Mynegodd ei siom dros benderfyniad yr Eisteddfod i ddileu'r seremoni a'r gystadleuaeth, heb roi rheswm digonol.[44] Arweiniodd yr helynt at ymgyrch o hyd at naw mis am eglurhad ac ymateb teg, gan Lys yr Eisteddfod a'r Bwrdd Rheoli, ond parhau i anwybyddu'r galw a wnaethant. Anfonwyd dau lythyr agored at y Llys gyda bron i 600 o enwau arnynt, yn gofyn am eglurhad llawn dros y dileu. Ymysg yr enwau roedd cyn-Archdderwyddon, cyn-Lywydd y Llys, cyn-enillwyr Y Fedal Ddrama, Prifeirdd, enillwyr Gwobr Goffa Daniel Owen, academyddion ac actorion.[45][46]
Ym mis Mehefin 2025, nododd Simon Chandler yn ei nofel Hiraeth Neifion : "Fel sawl awdur arall, cefais ysgytiad enbyd gan ddirgelwch y Fedal Ddrama yn 2024 a'r holl ddyfalu a ddaeth yn ei sgil. Yn fy achos penodol i, roedd hynny oherwydd i mi fod yn ymwybodol fod yn y nofel hon sawl cymeriad Du, yn ogystal â chymeriad (eponymaidd) Iddewig. Yn wir, does dim modd gwadu bod hiliaeth yn thema graidd i'r nofel. A fyddwn i wedi mentro'r perygl o'i hysgrifennu ar ôl yr hyn a ddigwyddodd ar y Maes ym Mhontypridd? Na fyddwn, siwr o fod. Ond roeddwn i wedi ysgrifennu'r rhan fwyaf ohoni'n barod, ac mae hanfod y plot yn dyddio'n ôl i ddechrau'r ganrif. Er i mi ystyried y peth o ddifrif am sbel, doeddwn i ddim yn barod i'w thaflu i'r bin sbwriel ar ôl i mi arllwys cymaint i mewn iddi."[47]
Yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Cymru Wrecsam 2025, nododd Ashok Ahir, Llywydd presennol Llys yr Eisteddfod ei fod yn "hapus" gyda'r modd y deliodd gyda'r helynt yn 2024.[48]
Enillwyr
[golygu | golygu cod]Gwobr Ariannol
[golygu | golygu cod]| Blwyddyn | Enillydd | Enw'r Ddrama | Math o Ddrama | Nifer yn Cystadlu | Gwobr | Beirniad | Nodiadau |
|---|---|---|---|---|---|---|---|
| 1911 | R. G. Berry (cyd-fuddugol) | Asgre Lân [49] | drama hir | ||||
| 1916 | Atal y Wobr | drama hir | 7 | £25 | W. Llewelyn Williams.[1] | ||
| 1918 | D. J. Davies, (Pontrhydygroes) | Maes y Meillion | drama hir | 11 | £20 | R. A. Griffith (Elphin).[1] | |
| 1920 | neb yn cystadlu | drama hir | 0 | £25 | W. Llewelyn Williams a W. Jenkyn Thomas, Llundain.[1] | ||
| 1921 | Atal y Wobr | drama hir | 4 | £15 | Beriah Gwynfe Evans, W. J. Gruffydd a Llew Tegid.[1] | ||
| 1922 | Rhys Evans, (Cwm Gors) | Llanbrynmair | drama hir | 25 | £25 | D. T. Davies a R. G. Berry.[1] | |
| 1923 | Atal y Wobr | 22 | £105* | Beriah Gwynfe Evans, W. J. Gruffydd ac E. Vincent Evans.[1] | *dyma sydd wedi'i nodi gan O. Llew Owain, ond credaf mai £15 sy'n fwy credadwy. | ||
| 1924 | J. Eddie Parry | La Zone | 17 | £25 | Beriah Gwynfe Evans.[1] | ||
| 1925 | 18 | ||||||
| 1926 | John Ellis Williams | Y Ffon Dafl | 32 | £50 a Modrwy | W.J. Gruffydd, R.G. Berry ac Ernest Hughes[3] | ||
| 1927 | dim sôn am gystadlaethau drama yn y Cyfansoddiadau. | ||||||
| 1931 | Cynan | Hywel Harris | 27[50] | £25[51] | D. T. Davies | ||
| 1939 | John Gwilym Jones | Diofal Yw Dim | 11 | £30 | W. J. Gruffydd a Saunders Lewis.[52] |
Tlws y Ddrama
[golygu | golygu cod]| Blwyddyn | Enillydd | Enw'r Ddrama | Math o Ddrama | Nifer yn Cystadlu | Gwobr | Beirniad | Nodiadau |
|---|---|---|---|---|---|---|---|
| 1940 | George Davies (Treorci) | Diffodd yr Haul | 17 | Tlws gwerth £10 a hawlfraint | D. T. Davies.[1] | ||
| 1941 | D. W. Morgan (Penbedw) | Addunedau | 12 | Tlws Drama'r Eisteddfod | D. Matthew Williams.[1] | "Safon ar y cyfan yn deilwng o'r Eisteddfod Genedlaethol"[53] Addasiad o nofel a gyflwynwyd "rai blynyddoedd yn ôl" oedd y ddrama fuddugol, ac wedi'i sicrhau gan yr Eisteddfod mai yr un awdur oedd yn gyfrifol am y nofel â'r ddrama fuddugol, fe'i gwobrwywyd.[53] | |
| 1942 | Atal y Wobr | drama hir yn ymwneud ag unrhyw newid economaidd ym mywyd ardal yng Nghymru[1] | 4 | Tlws | D. T. Davies | ||
| 1943 | John Ellis Williams | Wedi'r Drin | 9 | Tlws | J Kitchener Davies.[54] | ||
| 1944 | W. Vaughan Jones | Brwyn Ar Gomin | 13 | Tlws a'r Hawlfraint | D. T Davies.[55] | ||
| 1945 | Atal y Wobr | 13 | Tlws a £5 a'r Hawlfraint | D. Matthew Williams | "Nid oes dim newydd o ran pwnc na thechneg yn y tair-drama-ar-ddeg a ddaeth i law".[56] | ||
| 1946 | |||||||
| 1947 | Edward Rees | Plas Madog | Drama hir wreiddiol | 8 | Tlws a £10 a'r Hawlfraint | D. T. Davies a J. D. Powell.[57] | "daeth 8 drama i law er nad oes campwaith yn eu plith" |
| 1948 | |||||||
| 1949 | F. G. Fisher (Llangefni) | Catrin | 15 | Tlws a £20 | "Nid oedd un orchestol yn eu mysg, ac yr oedd ym mhob un ddigon o wendidau i beri imi ystyried yn ddwys a ddylwn atal y wobr."[58] | ||
| 1950 | Atal y Wobr | 7 | Tlws a £25 a'r Hawlfraint | D. T Davies.[20] | |||
| 1951 | Atal y Wobr | 5 | Tlws a £25 a'r Hawlfraint | J Kitchener Davies a D. Haydn Davies.[19] | |||
| 1952 | Gwynne D. Evans | Brwydrau Cudd | |||||
| 1953 | Atal y Wobr | 15 | Tlws a £200 a'r Hawlfraint | D. T. Davies, Saunders Lewis a John Ellis Williams | "Trefnwyd i'r tri ohonom gyd-gyfarfod i drafod y ddwy ddrama, ac yn unfryd unfarn daethpwyd i'r penderfyniad canlynol: fod y wobr anarferol o fawr a gynigir eleni yn gofyn am waith anarferol o dda ; fod deunydd drama fawr yn Y Ferch a'r Dewin ond y dylid ei hail-ysgrifennu ; nad yw Glo Caled er haeddu ohoni y wobr arferol a gynigir yn yr Eisteddfod, yn waith digon anghyffredin i haeddu'r wobr yn y gystadleuaeth arbennig hon; ac mai'r peth tecaf, gan hynny, oedd rhoddi hanner canpunt yr un i'r ddau gystadleuydd, gydag argymhelliad cryf ar i Bwyllgor Yr Eisteddfod drefnu perfformiad o Glo Caled yn ystod wythnos yr ŵyl, ond y dylid rhoddi amser i awdur Y Ferch a'r Dewin ail-lunio ei ddrama ef cyn ei pherfformio'n gyhoeddus." [£50 i F. G. Fisher - Y Ferch a'r Dewin a £50 i Gwynne D. Evans - Glo Caled][21] | ||
| 1954 | Atal y Wobr | 17 | Tlws a £50 a'r Hawlfraint | John Gwilym Jones a D. Matthew Williams.[22] | |||
| 1955 | Gwynne D. Evans | Corn Beca | 12 | Tlws a £50 a'r Hawlfraint | Elwyn Thomas a John Gwilym Jones.[59] | ||
| 1956 | Atal y Wobr | 9 | Tlws a £50 a'r Hawlfraint | Mary Lewis a D. T. Davies.[23] | |||
| 1957 | Gwynne D. Evans (rhoddwyd £25 o'r wobr ariannol i Jack Rees, Aberaeron) | Y Glo i'r Marwor | 7 | Tlws a £50 a'r Hawlfraint | John Gwilym Jones | ||
| 1958 | Huw Lloyd Edwards - | Cyfyng Gyngor | 10 | Tlws a £50 a'r Hawlfraint | Mary Lewis | (difyr yw nodi bod y ddrama Cariad Creulon R. Bryn Williams wedi dod yn ail - "Buaswn o ddifrif yn ystyried Cariad Creulon fel drama i'w gwobrwyo, onibai i un arall ymddangos")[60] | |
| 1959 | |||||||
| 1960 | Atal y Wobr | 9 | £50 a'r Hawlfraint | Emlyn James | (rhoddwyd £20 yr un i "Nora" [Y Ddelfryd] gan Jack Rees, Penygaer a "Dafydd" [Dau Fyd] gan David Roberts, Aberystwyth "fel symbyliad iddynt ddiwygio'u hymdrechion").[61] | ||
| 1961 | Gwilym Thomas Hughes | Plant y Niwl | 6 | Tlws a £50 a'r Hawlfraint | John Gwilym Jones.[62] | ||
| 1962 | Atal y Wobr | 12 | Tlws a £100 a'r Hawlfraint a pherfformiad o'r ddrama fuddugol yn ystod wythnos yr Eisteddfod | John Gwilym Jones. [24][63] | |||
| 1963 | Gwilym Thomas Hughes | Yr Aflonyddwr | 11 | Tlws a £100 a'r Hawlfraint | John Gwilym Jones.[64] | ||
| 1964 | Atal y Tlws ond hanner y wobr ariannol (£50) i Gwilym Thomas Hughes[25] am y ddrama Yr Adeiladydd "sy'n ddigon ar y blaen i haeddu cydnabyddiaeth sylweddol"[65] | 8 | Tlws a £100 a'r Hawlfraint | Huw Lloyd Edwards a D. Matthew Williams | |||
| 1965 | Atal y Wobr | 3 | £100 | Emyr Humphreys[26][66] | |||
| 1966 | Atal y Tlws (ond rhoi £50 (hanner y Wobr ariannol) i Ken Etheridge am ei ddrama Y Creadur Gwirion fel anogaeth) | 7 | John Ellis Williams ac Emlyn James. [27][67] | ||||
| 1967 | Bob Roberts[68] | ||||||
| 1968 | Atal y Wobr
(Ond am ei addewid digamsyniol awgrymwn £75 or wobr i "Sieffre" [Ken Etheridge, (Rhydaman)] [28][69] |
5 | Tlws a £100 a'r Hawlfraint | Huw Lloyd Edwards ac Elwyn Jones | "Mae fy nghyd-feirniad a minnau'n unfryd unfarn na allwn ystyried yr un o'r dramâu hyn yn deilwng o'r Tlws na'r wobr yn llawn." [28][69] | ||
| 1969 | John R. Evans
Ac wedi hir betruso, teimlaf nad yw'n ddigon ar y blaen i gipio'r wobr yn llawn. 'Rwyf am argymell, felly, wobr fel a ganlyn: £50 i "Y Tyst", a £25 yr un i "Gwybetwr" - Tra Bo Tri [Tom Parri-Jones] a "Ffransis" - Cawl Cennin [Urien Wiliam] [70][71] |
Y Briodas Arian | 6 | Tlws a £50 | Huw Lloyd Edwards | "Nid yw gofod yn caniatáu imi gyfeirio at rai brychau eraill sy'n tynnu oddi wrth y ddrama rymus a gafaelgar hon." | |
| 1970 | Atal y Wobr (Neb yn deilwng o'r Tlws - Rhannwyd y wobr o £100 yn gyfartal rhwng Gwilym Thomas Hughes, Urien Wiliam, Jennet Eirlys Thomas a T. James Jones.[29] | £100 | |||||
| 1971 | Atal y Wobr | cynigiwyd y am ddrama fer neu ddrama hir orau - atalwyd y ddwy gystadleuaeth | 6 (drama hir) a 3 (drama fer) | Tlws a £150 | John Gwilym Jones ac Emyr Humphreys[72] | ||
| 1972 | Urien Wiliam (a £50 i Bernard Evans - Drama Twiss) | Dafydd Y Llyw Olaf | 6 | Tlws a £120 | John Griffiths.[73] | ||
| 1973 | Urien Wiliam | Y Pypedau | |||||
| 1974 | Eigra Lewis Roberts[74] | Byd O Amser | 5 | Tlws a £150 | Gwenlyn Parry, Emily Davies a John Gwilym Jones | "Braidd yn siomedig oedd y gystadleuaeth hon eleni".[75] | |
| 1975 | William R. Lewis (Tlws a £75 (rhan o'r Wobr))
Rhoddwyd £50 o'r £150 i Michael Povey a'r £25 yn weddill i Bernard Evans.[76] |
Geraint Llywelyn | Tlws a £150 | ||||
| 1976 | Neb yn cystadlu [31] | ||||||
| 1977 | Atal y Wobr [32] | 3 | Tlws a £200 | John Gwilym Jones, Gwenlyn Parry ac Urien Wiliam | "...y mae ein hymateb iddyn nhw'n siomedig a dweud y lleiaf - nid yn unig am fod y nifer mor fychan ond am fod y safon mor anhygoel o isel."[77] | ||
| 1978 | Atal y Wobr | 6 | Tlws a £200 | J. R. Evans, John Gwilym Jones a Wilbert Lloyd Roberts | "Yn ôl pob golwg, mae dramâu dogfennol gyda golygfeydd lluosog yn y ffasiwn. Dyma'r ail [...] [os nad] y drydedd..." [33][78] | ||
| 1979 | J. Selwyn Lloyd yn fuddugol am y ddrama hir orau, a derbyniodd y Tlws a £110, a rhoddwyd £90 o'r wobr i T. Glynne Davies am Tro Byd | Mae'r Dall yn Gweld yn Well | cynigiwyd y Tlws am y ddrama orau o dair cystadleuaeth, ynghyd â'r wobr ariannol berthnasol i'r cystadlaethau unigol | 4 wedi cystadlu am y gomedi neu ffars, 8 wedi cystadlu am y ddrama hir a 26 wedi cystadlu am y ddrama fer | Tlws a £200 | J.O. Roberts, Morien Phillips a Gwenlyn Parry.[79][80] | |
| 1980 | William Owen Roberts yn fuddugol am y ddrama hir orau | Y Winllan Haearn | cynigiwyd y Tlws am y ddrama orau o dair cystadleuaeth, ynghyd â'r wobr ariannol berthnasol i'r cystadlaethau unigol | neb wedi cystadlu am y gomedi neu ffars, 9 wedi cystadlu am y ddrama hir a 16 wedi cystadlu am y ddrama fer | Tlws a £200 | Brinley Jenkins, Emlyn James a Gwynne D Evans [81] [82] | |
| 1981 | John R. Evans | Brawd am Byth | 6 | Tlws a £200 | John Gwilym Jones | "I gychwyn, ni fedr neb ysgrifennu nofel na barddoniaeth na drama heb fod yn ymenyddiol fyw i ystyron geiriau ac yn synhwyrus fyw i rin eu hawgrymiadau a'u cysylltiadau. [...] Ar wahân i un neu dwy o'r chwe drama yn y gystadleuaeth hon prin iawn yw'r arwyddion o ofal am eiriau." [83][84] | |
| 1982 | Nan Lewis | Y Gelyn Pennaf | 7 | Tlws a £250 | Norah Isaac, R.Gerallt Jones ac Wilbert Lloyd Roberts.[85][86] | ||
| 1983 | William Owen | Tewach Dŵr | 8 | Tlws a £200 a'r hawlfraint | Dr John Gwilym Jones a Gwenlyn Parry.[87] [88] | ||
| 1984 | Gwynne Wheldon Evans | Be' Ydi Be'? | 6 | Tlws a £300 | Norah Isaac, William R. Lewis a John Ogwen. [89][90] | ||
| 1985 | Atal y Wobr | 2 | Tlws a £300 | Siôn Eirian a Dafydd Huw Williams. | "Gyda'r twf diweddar yn y farchnad deledu, a'r sieciau sylweddol a delir gan y cyfrwng hwnnw, mae'n debyg bod nifer o egin-ddramodwyr yn ogystal â'r rhai mwyaf profiadol yn cyfeirio'u hymdrechion tuag at y cwmniau teledu erbyn hyn yn hytrach na defnyddio cystadlaethau'r Eisteddfod i fwrw prentisiaeth ac arddangos dawn. Gresyn hynny, gan fod cystadleuaeth sy'n gofyn am ddisgyblaeth sgrifennu-llwyfan yn rheitiach ffordd o feithrin crefft na phedlera sgriptiau o ddrws i ddrws yng Nghaerdydd neu yng Nghaernarfon." [91][34] | ||
| 1986 | John Gruffydd Jones | Pan Ddaw'r Clown | 10 | Tlws a £300 | Lisabeth Miles, D Emyr Edwards a R.Gerallt Jones.[92] [93] | ||
| 1987 | Atal y Wobr | 8 | Tlws a £400 | William R. Lewis, Michael Povey a Rhydderch T Jones. | "...wrth ddechrau cloriannu gweithiau'r wyth a fentrodd gystadlu, deuai'n fwyfwy amlwg inni nad oedd gan y rhan fwyaf ohonynt ddim math o syniad ynglŷn ag anghenion drama Iwyfan. Pe bai Cystadleuaeth y Goron neu'r Gadair yn denu cynnyrch mor ddi-glem yn gyson ar hyd y blynyddoedd, fel sy'n digwydd yn y gystadleu-aeth hon, byddai awdurdodau'r Eisteddfod wedi dwys ystyried y sefyllfa ers tro byd." [94][35] | ||
| 1988 | Dafydd Arthur Jones | Gardd o Gysgodion | 'Trioleg ar y thema Amser' | 8 | Tlws a £400 | Christine Pritchard, William R Lewis a Gwenlyn Parry.[95][96] | |
| 1989 | Atal y Wobr | Gofyn am Ddrama fyddai'n cael ei pherfformio yn yr Eisteddfod gan Theatr Hwyl a Fflag | 10 | Tlws a £400 | Bob Roberts, John Ogwen ac Wyn Bowen Harries.[36][97] | (Gweler helynt Eisteddfod Llanrwst 1989 uchod) | |
| 1990 | Atal y Wobr | 7 | Tlws a £400 | Tim Baker, John A Owen a Manon Rhys.[5] | |||
| 1991 | Gwion Lynch | Dim Ond Heno | Gofyn am Ddrama Hir fyddai'n cael ei pherfformio yn yr Eisteddfod gan Gwmni Theatr Gwynedd | 6 | Tlws a £400.[98] | William R Lewis, J.O Roberts a Michael Povey. [4] | |
| 1992 | Pam Palmer | Yn Ein Dwylo | 14 | Tlws a £500 [99] | Mei Jones, Eigra Lewis Roberts a Jeremy Turner. [6] | ||
| 1993 | Atal y Wobr | 7 | Tlws a £500 | William R Lewis, Ewart Alexander a Graham Laker.[7] |
Gwobr Ariannol
[golygu | golygu cod]| Blwyddyn | Enillydd | Enw'r Ddrama | Math o Ddrama | Nifer yn Cystadlu | Gwobr | Beirniad | Nodiadau |
|---|---|---|---|---|---|---|---|
| 1994 | Aled Jones Williams | Y Dyn Ll’nau Bogs | 10 | £500 | Lindsay Evans, Gareth Miles ac Edward Thomas. | "Hawdd credu mai lleiafrif o'r cystadleuwyr hyn sydd wedi ymweld â'r theatr yn gyson, yn darllen dramâu ac wedi rhoi ystyriaeth i grefft adeiladu drama a sgrifennu iaith Ilwyfan."[100] | |
| 1995 | Miriam Llywelyn | Jeli Bebis | 8 | £500[101] | Huw Roberts, Carys Ll Edwards a Graham Laker | Ail - Aled Jones Williams - Pêl Goch (£300); Trydydd - Sian Summers - Pen Ffordd (£200) [8] | |
| 1996 | Dafydd Llewelyn Jones | Spam Man | 6 | £500 | Sharon Morgan, Elan Closs Stephens a Dewi Wyn Williams.[9] | Atal yr ail a'r drydedd wobr | |
| 1997 | Atal y Wobr
(ond y beirniaid yn dewis rhoi £300 i Endaf Jones am ei ddrama O Gariad Wen gan ei annog i ail-edrych yn fanwl ar y ddrama) |
2 | £500 | William R. Lewis, Bethan Jones a Dyfan Roberts.[102] | |||
| 1998 | Richard T. Jones
(£200 o'r Wobr ariannol) |
Y Gadwyn Hon | Gofyn am Gadwyn o Ddramodigau | 2 | £500 | Valmai Jones, Gareth Miles a Manon Rhys.[10] | |
| 1999 | T. James Jones
(£500 o'r wobr) |
Y Dyn Eira | 4 | £750 | Manon Eames a William Owen.[11] | Ail - Paul Griffiths - Tango'n Tynged (£250) | |
| 2000 | Atal y Wobr | 1 | £1,200 | Siwan Jones, William R Lewis a Sharon Morgan. [12] | |||
| 2001 | Atal y Wobr | 4 | £1,200 a nawdd o £3,000 | Tim Baker ac Alun Ffred. [13] | |||
| 2002 | Cefin Roberts | Talu'r Pris Yn Llawn | 6 | £1,200 a nawdd o £3,000 | Bethan Jones a Sian Summers.[14] | ||
| 2003 | Atal y Wobr | 4 | £1,200 a nawdd o £3,000 | Gwynne Wheldon Evans a Sioned Wiliam.[15] | |||
| 2004 | Atal y Wobr | 10 | £1,200 a nawdd o £3,000 | Jeremy Turner a Dewi Wyn Williams.[16] |
Y Fedal Ddrama
[golygu | golygu cod]| Blwyddyn | Enillydd | Enw'r Ddrama | Math o Ddrama | Nifer yn Cystadlu | Gwobr | Beirniad | Nodiadau |
|---|---|---|---|---|---|---|---|
| 2005 | Manon Steffan Ros | Mae Sera'n Wag* | *Rhoddwyd y Fedal am y tro cyntaf i'r ddrama 'orau o'r ddwy gystadleuaeth - y Ddrama Hir a'r Ddrama Fer. |
|
Medal a £500 | T. James Jones a Geraint Lewis | Gwynedd Huws Jones (ddim yn haeddianol o'r Wobr Ariannol o £1,200 ond derbyniodd y nawdd o £3,000) oedd enillydd y Ddrama Hir efo'i ddrama Blanc'ed, allan o'r 13 oedd wedi cystadlu. Manon Steffan Ros oedd enillydd y Ddrama Fer efo'i drama Mae Sera'n Wag, o'r 19 oedd wedi cystadlu. Dyfarnwyd y Fedal i Manon Steffan Ros.[103] |
| 2006 | Atal y Wobr | 10 | Medal a £1,200/£500 | Meic Povey a Branwen Cennard.[37] | |||
| 2007 | Nic Ros | Tylwyth | 10 | Medal a £1,200 | Betsan Llwyd a Siôn Eirian [104] | ||
| 2008 | Dyfed Edwards | Cors Oer* | *Rhoddwyd y Fedal i'r ddrama 'orau o'r ddwy gystadleuaeth - y Ddrama Hir a'r Ddrama Fer. |
|
Medal a £1,200 | Bethan Jones a Rhys Powys | Dyfed Edwards (£1,200) oedd enillydd y Ddrama Hir efo'i ddrama Cors Oer, allan o'r 9 oedd wedi cystadlu. Dyfed Edwards oedd enillydd y Ddrama Fer hefyd, efo'i ddrama Apocalyps, o'r 8 oedd wedi cystadlu. Dyfarnwyd y Fedal i Dyfed Edwards.[105] |
| 2009 | Dyfed Edwards | Tân Mewn Drain* | *Rhoddwyd y Fedal i'r ddrama 'orau o'r ddwy gystadleuaeth - y Ddrama Hir a'r Ddrama Fer. |
|
Medal a £1,200 | Gwion Lynch a Dyfan Roberts | Dyfed Edwards (£1,200) oedd enillydd y Ddrama Hir efo'i ddrama Tân Mewn Drain, allan o'r 7 oedd wedi cystadlu. Huw Charles (£500) oedd enillydd y Ddrama Fer, efo'i ddrama Meindia Dy Fusnes, o'r 10 oedd wedi cystadlu. Dyfarnwyd y Fedal i Dyfed Edwards.[106] |
| 2010 | Atal y Wobr | 6 | Medal a £1,200 | Cefin Roberts a Mari Emlyn [38] | |||
| 2011 | Rhian Mererid Staples* | Cynnau Tân | *Rhoddwyd y Fedal i'r ddrama 'orau o'r ddwy gystadleuaeth - y Ddrama Hir a'r Ddrama Fer. |
|
Medal a £500 | Arwel Gruffydd a Sharon Morgan | Rhodri Trefor (£1,200) oedd enillydd y Ddrama Hir efo'i ddrama Ofn, allan o'r 7 oedd wedi cystadlu. Rhian Mererid Staples oedd enillydd y Ddrama Fer efo'i drama Cynnau Tân, o'r 10 oedd wedi cystadlu. Dyfarnwyd y Fedal i Rhian Mererid Staples[107] |
| 2012 | William Bedwyr Rees | Trai | 9 | Medal a £500 | Ian Rowlands a Sera Moore Williams.[108] | ||
| 2013 | Glesni Hâf Jones | Dŵr Mawr Dyfn | 13 | Medal a £500 | Mared Swain a Geraint Lewis.[109] | ||
| 2014 | Dewi Wyn Williams | La Primera Cena | 13 | Medal a £750 | Roger Williams a Sara Lloyd.[110] | ||
| 2015 | Wyn Mason | Rhith Gân | 15 | Medal a £750 | Betsan Llwyd, Ian Rowlands ac Iola Ynyr[111] | ||
| 2016 | Hefin Robinson | Estron | 12 | Medal a £750 | Catrin Jones Hughes, Aled Jones Williams a Ffion Haf[112] | ||
| 2017 | Heiddwen Tomos | Milwr yn y Meddwl | 17 | Medal a £750 | Tony Llewelyn, Sian Summers a Sara Lloyd.[113] | ||
| 2018 | Rhydian Gwyn Lewis | Maes Gwyddno | 19 | Medal a £750 | Sarah Bickerton, Betsan Llwyd ac Alun Saunders.[114] | ||
| 2019 | Gareth Evans-Jones | Adar Papur | 11 | Medal a £750 | Gethin Evans, Bethan Marlow a Branwen Cennard.[115] | ||
| 2020 | Dim Eisteddfod oherwydd Covid 19 | ||||||
| 2021 | Gareth Evans-Jones | Cadi Ffan a Jan | 5 | Medal Eisteddfod AmGen | Gwennan Mair [116][117] | ||
| 2022 | Gruffydd Siôn Ywain | Nyth | 15 | Medal a £750 [118] | Janet Aethwy, Sharon Morgan a Sera Moore Williams | ||
| 2023 | Cai Llewelyn Evans | Eiliad o Ddewiniaeth | Medal a £750[119] | Steffan Donnelly, Elgan Rhys a Seiriol Davies. | |||
| 2024 | Ataliwyd y Gystadleuaeth [39] | Medal a £750 | Mared Swain, Richard Lynch a Geinor Styles |
Medal y Dramodydd
[golygu | golygu cod]| Blwyddyn | Enillydd | Enw'r Ddrama | Math o Ddrama | Nifer yn Cystadlu | Gwobr | Beirniad | Nodiadau |
|---|---|---|---|---|---|---|---|
| 2025 | Greta Siôn | Presennol | 20 | Medal a £3,000 | 10 o feirniaid er mai ond 8 a fu'n bresennol yn ystod y Seremoni ar y llwyfan : Betsan Llwyd (Theatr Bara Caws), Daniel Lloyd (Theatr Clwyd), Steffan Donnelly (Theatr Cymru), Ffion Wyn Bowen (Arad Goch), Gethin Evans (Fran Wên), Lowri Morgan (Theatr y Sherman). Y ddau feirniaid annibynnol oedd Mared Jarman (llawrydd) a Melanie Owen (llawrydd). Bu Mari Emlyn yn cynrychioli Betsan Llwyd a Rhian Blythe yn cynrychioli Steffan Donnelly yn y cyfarfod cyntaf.[120][121] |
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.00 1.01 1.02 1.03 1.04 1.05 1.06 1.07 1.08 1.09 1.10 1.11 1.12 1.13 1.14 Owain, O. Llew (1948). Hanes y Ddrama yng Nghymru 1850-1943. Cyngor yr Eisteddfod.
- ↑ "BBC Cymru Arlein - Canrif o Brifwyl - 1921". www.bbc.co.uk. Cyrchwyd 2025-08-01.
- ↑ 3.0 3.1 3.2 3.3 Williams, John Ellis (1963). Inc yn fy Ngwaed. Llyfrau'r Dryw.
- ↑ 4.0 4.1 Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Bro Delyn. 1991. tt. ix. ISBN 0 86383 820 0.
- ↑ 5.0 5.1 5.2 Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Cwm Rhymni. 1990. tt. x. ISBN 0 86383 653 4.
- ↑ 6.0 6.1 Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Ceredigion. 1992.
- ↑ 7.0 7.1 7.2 Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Llanelwedd. 1993. tt. x. ISBN 0 9519926 1 9.
- ↑ 8.0 8.1 Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Bro Colwyn. 1995. tt. viii. ISBN 0 9519926 3 5.
- ↑ 9.0 9.1 Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Bro Dinefwr. 1996. tt. xii. ISBN 0 9519926 4 3.
- ↑ 10.0 10.1 Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Bro Ogwr. 1998. tt. viii. ISBN 0 9519926 6 X.
- ↑ 11.0 11.1 Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Môn. 1999. tt. xii. ISBN 0 9519926 7 8.
- ↑ 12.0 12.1 12.2 Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Llanelli. 2000. tt. viii. ISBN 0 9538554 0 6.
- ↑ 13.0 13.1 13.2 Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Sir Ddinbych. 2001. tt. x. ISBN 0 9538554 8 1.
- ↑ 14.0 14.1 Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Sir Benfro. 2002. tt. x. ISBN 0 9540569 9 X.
- ↑ 15.0 15.1 15.2 Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Maldwyn. 2003. tt. x.
- ↑ 16.0 16.1 16.2 Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Casnewydd. 2004. tt. xi. ISBN 9 781843 234357.
- ↑ 17.0 17.1 17.2 Griffiths, Paul (16 Awst 2024). "Adolygiadau Theatr Paul Griffiths". Cyrchwyd 16 Awst 2024.
- ↑ "Newid rheola'r Fedal Ddrama – Paul Griffiths yn gandryll". Golwg360. 2024-09-04. Cyrchwyd 2025-07-27.
- ↑ 19.0 19.1 Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Llanrwst. 1951.
- ↑ 20.0 20.1 Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Caerffili. 1950.
- ↑ 21.0 21.1 Cyfansoaddiadau a Beirniadaethau Y Rhyl. 1953.
- ↑ 22.0 22.1 Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Ystradgynlais. 1954.
- ↑ 23.0 23.1 Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Aberdâr. 1956.
- ↑ 24.0 24.1 BBC Cymru Arlein - Canrif o Brifwyl - 1962. BBC Cymru. Adalwyd ar 29 Ionawr 2020.
- ↑ 25.0 25.1 BBC Cymru Arlein - Canrif o Brifwyl - 1964. BBC Cymru. Adalwyd ar 29 Ionawr 2020.
- ↑ 26.0 26.1 BBC Cymru Arlein - Canrif o Brifwyl - 1965. BBC Cymru. Adalwyd ar 29 Ionawr 2020.
- ↑ 27.0 27.1 BBC Cymru Arlein - Canrif o Brifwyl - 1966. BBC Cymru. Adalwyd ar 29 Ionawr 2020.
- ↑ 28.0 28.1 28.2 BBC Cymru Arlein - Canrif o Brifwyl - 1968. BBC Cymru. Adalwyd ar 29 Ionawr 2020.
- ↑ 29.0 29.1 BBC Cymru Arlein - Canrif o Brifwyl - 1970. BBC Cymru. Adalwyd ar 29 Ionawr 2020.
- ↑ BBC Cymru Arlein - Canrif o Brifwyl - 1971. BBC Cymru. Adalwyd ar 29 Ionawr 2020.
- ↑ 31.0 31.1 BBC Cymru Arlein - Canrif o Brifwyl - 1976. BBC Cymru. Adalwyd ar 29 Ionawr 2020.
- ↑ 32.0 32.1 BBC Cymru Arlein - Canrif o Brifwyl - 1977. BBC Cymru. Adalwyd ar 29 Ionawr 2020.
- ↑ 33.0 33.1 BBC Cymru Arlein - Canrif o Brifwyl - 1978. BBC Cymru. Adalwyd ar 29 Ionawr 2020.
- ↑ 34.0 34.1 BBC Cymru Arlein - Canrif o Brifwyl - 1985. BBC Cymru. Adalwyd ar 29 Ionawr 2020.
- ↑ 35.0 35.1 BBC Cymru Arlein - Canrif o Brifwyl - 1987. BBC Cymru. Adalwyd ar 29 Ionawr 2020.
- ↑ 36.0 36.1 BBC Cymru Arlein - Canrif o Brifwyl - 1989. BBC Cymru. Adalwyd ar 29 Ionawr 2020.
- ↑ 37.0 37.1 Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Abertawe. 2006. ISBN 1 84323 765 2.
- ↑ 38.0 38.1 Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Blaenau Gwent. 2010. tt. xii. ISBN 978 0 9530950 4 9.
- ↑ 39.0 39.1 "Canslo'r Fedal Ddrama yn Eisteddfod Rhondda Cynon Taf". BBC Cymru Fyw. 2024-08-08. Cyrchwyd 2024-08-08.
- ↑ 40.0 40.1 40.2 40.3 40.4 Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Eisteddfod Genedlaethol Dyffryn Conwy. Llys yr Eisteddfod. 1989.
- ↑ 41.0 41.1 "Helynt Tlws Y Ddrama". Golwg 1. 7 Medi 1989.
- ↑ 42.0 42.1 Jones, Alun Ffred (21 Medi 1989). "Nid Croesi Cae... Alun Ffred a'r ddrama fu ynghanol ffrae". Golwg Cyfrol 2 Rhif 3.
- ↑ "Canslo'r Fedal Ddrama: Galw am eglurhad gan yr Eisteddfod". BBC Cymru Fyw. 2024-08-09. Cyrchwyd 2024-08-18.
- ↑ "Y diweddaraf ar ddydd Gwener yr Eisteddfod". BBC Cymru Fyw. Cyrchwyd 2024-08-18.
- ↑ "Ffrae'r Fedal Ddrama: Pobol Cymru wedi "colli hyder" yn rheolwyr yr Eisteddfod". Golwg360. 2025-01-09. Cyrchwyd 2025-07-27.
- ↑ "Saga'r Fedal Ddrama dal i rygnu – 560 yn arwyddo ail lythyr". Golwg360. 2025-01-13. Cyrchwyd 2025-07-27.
- ↑ Chandler, Simon (2025). Hiraeth Neifion. Gwasg Carreg Gwalch. ISBN 978-1845279646.
- ↑ "Llywydd y Llys Ashok Ahir 'ddim wedi cuddio' rhag heriau yn y rôl". BBC Cymru Fyw. 2025-08-07. Cyrchwyd 2025-08-08.
- ↑ Ethall, Huw (1985). R.G. Berry. Tŷ John Penry.
- ↑ Williams, Gerwyn (2022). Cynan - Drama bywyd Albert Evans-Jones. Y Lolfa.
- ↑ "Eisteddfod winners". Caernarfon & Denbigh Herald. 7 Awst 1931.
- ↑ Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Dinbych. 1939. t. 214.
- ↑ 53.0 53.1 Cyfansoddiadau a Beirniadaethau. Eisteddfod Genedlaethol Hen Golwyn. 1941.
- ↑ Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Bangor. 1943.
- ↑ Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Llandybïe. 1944.
- ↑ Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Rhos Llannerchrhugog. 1945.
- ↑ Cyfansoddiadau a Beirniadaethau. Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bae Colwyn. 1947.
- ↑ Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Dolgellau. 1949.
- ↑ Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Pwllheli. 1955.
- ↑ Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Glynebwy. 1958.
- ↑ Cyfansoddiadau a Beirnidaethau. Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd. 1960.
- ↑ Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Dyffryn Maelor. 1961.
- ↑ Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Llanelli a'r Cylch. 1962.
- ↑ Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Llandudno a'r Cylch. 1963.
- ↑ Cyfansoddiadau a Beirniadaethau. Eisteddfod Genedlaethol Cymru Abertawe. 1964.
- ↑ Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Maldwyn. 1965.
- ↑ Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Aberafan. 1966.
- ↑ BBC Cymru Arlein - Canrif o Brifwyl - 1967. BBC Cymru. Adalwyd ar 29 Ionawr 2020.
- ↑ 69.0 69.1 Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Y Barri a'r Fro. 1968.
- ↑ BBC Cymru Arlein - Canrif o Brifwyl - 1969. BBC Cymru. Adalwyd ar 29 Ionawr 2020.
- ↑ Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Y Fflint. 1969.
- ↑ Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Bangor a'r Cylch. 1971.
- ↑ Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Sir Benfro. 1972.
- ↑ BBC Cymru Arlein - Canrif o Brifwyl - 1974. BBC Cymru. Adalwyd ar 29 Ionawr 2020.
- ↑ Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Bro Myrddin. 1974.
- ↑ BBC Cymru Arlein - Canrif o Brifwyl - 1975. BBC Cymru. Adalwyd ar 29 Ionawr 2020.
- ↑ Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Wrecsam. 1977. ISBN 0 85088 437 3.
- ↑ Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Caerdydd. 1978.
- ↑ BBC Cymru Arlein - Canrif o Brifwyl - 1979. BBC Cymru. Adalwyd ar 29 Ionawr 2020.
- ↑ Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Caernarfon a'r Cylch. 1979.
- ↑ Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Dyffryn Lliw. 1980.
- ↑ BBC Cymru Arlein - Canrif o Brifwyl - 1980. BBC Cymru. Adalwyd ar 29 Ionawr 2020.
- ↑ Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Maldwyn a'r Cyffiniau. 1981.
- ↑ BBC Cymru Arlein - Canrif o Brifwyl - 1981. BBC Cymru. Adalwyd ar 29 Ionawr 2020.
- ↑ BBC Cymru Arlein - Canrif o Brifwyl - 1982. BBC Cymru. Adalwyd ar 29 Ionawr 2020.
- ↑ Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Abertawe. 1982. ISBN 0 85088 757 7.
- ↑ BBC Cymru Arlein - Canrif o Brifwyl - 1983. BBC Cymru. Adalwyd ar 29 Ionawr 2020.
- ↑ Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Ynys Môn. 1983. ISBN 0 86383 010 2.
- ↑ BBC Cymru Arlein - Canrif o Brifwyl - 1984. BBC Cymru. Adalwyd ar 29 Ionawr 2020.
- ↑ Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Llanbedr Pont Steffan. 1984. ISBN 0 86383 170 2.
- ↑ Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Y Rhyl a'r Cyffiniau. 1985.
- ↑ Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Abergwaun a'r Fro. 1986.
- ↑ BBC Cymru Arlein - Canrif o Brifwyl - 1986. BBC Cymru. Adalwyd ar 29 Ionawr 2020.
- ↑ Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Bro Madog. 1987.
- ↑ "Academic dies on mountain walk". BBC News. 31 Ionawr 2006. Cyrchwyd 5 Awst 2016.
- ↑ Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Casnewydd. 1988.
- ↑ Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Dyffryn Conwy. 1989. ISBN 0 86383 588 0.
- ↑ BBC Cymru Arlein - Canrif o Brifwyl - 1991. BBC Cymru. Adalwyd ar 29 Ionawr 2020.
- ↑ BBC Cymru Arlein - Canrif o Brifwyl - 1992. BBC Cymru. Adalwyd ar 29 Ionawr 2020.
- ↑ Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Nedd a'r Cyffiniau. 1994.
- ↑ "Miriam Llewelyn - Playwright". www.doollee.com. Cyrchwyd 2024-08-18.
- ↑ Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Meirion. 1997. ISBN 0 9519926 5 1.
- ↑ Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Eryri. 2005. ISBN 1 84323 586 2.
- ↑ Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Sir Y Fflint. 2007. ISBN 9781843238942.
- ↑ Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Caerdydd. 2008. ISBN 978 0 9553901 0 4.
- ↑ Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Meirion. 2009. ISBN 978 0 9553901 1 1.
- ↑ Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Wrecsam. 2011. tt. xii. ISBN 9 780953 095056.
- ↑ Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Bro Morgannwg. 2012. tt. xii. ISBN 9 780953 095063.
- ↑ Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Sir Ddinbych. 2013. tt. xii. ISBN 978 0 9530950 8 7.
- ↑ Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Sir Gâr. 2014. tt. xii. ISBN 978 0 9576935 3 1.
- ↑ Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Maldwyn. 2015. tt. xiv. ISBN 978 0 9576935 6 2.
- ↑ Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Sir Fynwy. 2016. tt. xiii. ISBN 978 0 9954987 0 9.
- ↑ Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Ynys Môn. 2017. tt. xv. ISBN 978 0 9954987 2 3.
- ↑ Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Caerdydd. 2018. tt. xv. ISBN 978 0 9954987 5 4.
- ↑ Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Sir Conwy. 2019. tt. xiv. ISBN 978 1 913257 00 2.
- ↑ Gareth Evans-Jones yn ennill y Fedal Ddrama. Eisteddfod Genedlaethol (2 Awst 2021).
- ↑ Cyfansoddiadau a Beirniadaethau AmGen. 2021. tt. xi. ISBN 978 1 9132570 1 9.
- ↑ Eisteddfod 2022: Gruffydd Siôn Ywain yn ennill y Fedal Ddrama , BBC Cymru Fyw, 4 Awst 2022.
- ↑ "Cai Llewelyn Evans yw enillydd Medal Ddrama Eisteddfod 2023". BBC Cymru Fyw. 2023-08-10. Cyrchwyd 2023-08-10.
- ↑ "Greta Siôn yn ennill Medal y Dramodydd yn y Brifwyl". newyddion.s4c.cymru. 2025-08-07. Cyrchwyd 2025-08-07.
- ↑ "Medal y Dramodydd | Eisteddfod". eisteddfod.cymru. Cyrchwyd 2025-08-08.