Eisteddfod Genedlaethol Cymru Wrecsam 2025
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru Wrecsam 2025 yn Wrecsam rhwng 2 a 9 Awst 2025. Y tro diwethaf i'r Eisteddfod ymweld a'r ardal oedd 2011. Ers hynny gwnaed Wrecsam yn ddinas a daeth cryn sylw i'r ardal yn rhyngwladol drwy lwyddiant y tîm pêl-droed a'r rhaglen ddogfen Welcome to Wrexham.
Yng Ngorffennaf 2022, cytunodd cynghorwyr Wrecsam i wahodd Eisteddfod Genedlaethol 2025 i'r sir.[1] Ar 1 Awst 2023 cyhoeddwyd y bydd Wrecsam yn gartref i’r Eisteddfod Genedlaethol yn 2025. Cyhoeddwyd y brifwyl yn ffurfiol ar 27 Ebrill 2024 pan wnaeth 300 o grwpiau ac unigolion orymdeithio o Gampws Iâl, Coleg Cambria i'r seremoni yn neuadd y ddinas yn Wrecsam.
Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith yw Llinos Roberts, gwraig y diweddar Aled Roberts. Ers 2013 mae'n bennaeth cyfathrebu corfforaethol a'r Gymraeg yng Ngholeg Cambria.[2] Llywydd yr ŵyl yw'r actor Mark Lewis Jones o bentref Rhosllannerchrugog ger Wrecsam.[3] Y newyddiadurwraig Maxine Hughes fydd Arweinydd Cymru a’r Byd. Yn wreiddiol o Gonwy, mae'n byw yn Washington DC.[4]
Cyngherddau
[golygu | golygu cod]Cychwynnodd yr Eisteddfod yn y Pafiliwn ar y nos Sadwrn cynta gyda sioe gerdd newydd Y Stand (gyda ail berfformiad nos Lun). Ysgrifennwyd y sioe gan Manon Steffan Ros, gyda chaneuon gan Osian Huw Williams. Mae'n sôn am bêl-droed, am ennill a cholli, yn dilyn cyfnod anodd i glwb pêl-droed Wrecsam ar ddechrau'r ganrif. Cadi Glwys sy'n chwarae rhan rhan y ferch ifanc, Grace sy’n breuddwydio am chwarae pêl-droed a mae Cadi’n arddangos ei sgiliau pêl-droed ar y llwyfan. Mae Cadi yn wyres i’r gôl-geidwad Dai Davies, a chwaraeodd i Wrecsam a Chymru yn y 1970au.[5]
Ar y nos Fercher yn y Pafiliwn roedd perfformiad gan grŵp theatr gerdd 'Welsh of the West End' gyda detholiad o’u hoff ganeuon o fyd sioeau cerdd Cymru.
Theatr
[golygu | golygu cod]Yn niffyg presenoldeb Theatr y Maes, llwyfannodd Theatr Bara Caws y ddrama Oes rhywun wedi gweld y Pernod King? ym mhabell Gwyddoniaeth a Thechnoleg.
Llwyfan y Maes
[golygu | golygu cod]
Roedd perfformiadau a chyflwyniadau o bob math ar Lwyfan y Maes drwy'r dydd. O'r prynhawn hyd iddi nosi roedd cyfle i fwynhau artistiaid poblogaidd. Ar y nos Sadwrn cafwyd perfformiadau gan Ciwb, Martha Elen, Tew Tew Tennau, Elin Fflur, gyda Diffiniad i gloi.
Ar y nos Sul gwelwyd Alis Glyn cyn perfformiad olaf erioed Dafydd Iwan gyda'i fand, wedi ei ddilyn gan Band Pres Llareggub, Daniel Lloyd a Mr Pinc a Fleur de Lys.
Ar y nos Lun chwaraeodd Taran, Gai Toms a Celt. Yna cafwyd dathliad o fywyd Dewi Pws gyda nifer o artistiaid yn chwarae rhai o'u ganeuon enwocaf. Roedd y perfformwyr yn cynnwys Band Tŷ Potas gyda Pedair, Elidyr Glyn, Gwilym Bowen Rhys, Linda Griffiths, Rhys Gwynfor, Meibion Carnguwch, Cleif Harpwood, Hefin Elis a mwy.[6]
Nos Fawrth cafwyd perfformiadau gan Lafant, Dadleoli, Y Cledrau a Pys Melyn. Nos Fercher y prif berfformwyr oedd Tara Bandito, Candelas a Meinir Gwilym. Nos Iau gwelwyd WRKHOUSE, Griff Lynch, 9Bach ac Adwaith. Nos Wener y perfformwyr oedd Dafydd Owain, Talulah, Yws Gwynedd ac Anweledig yn cloi'r noson, ei perfformiad cyntaf ers rhai blynyddoedd.
Ar y nos Sadwrn olaf, gwelwyd perfformiadau gan Rhys Gwynfor, Cyn Cwsg, Buddug, Mellt gyda Bwncath yn cloriannu'r noson. Dilynwyd hynny gan berfformiad theatrig 'Wythnos yn Wrecsam Fu', digwyddiad dramatig a lliwgar oedd yn cymryd ysbrydoliaeth o’r nofel ‘Wythnos yng Nghymru Fydd’.
Nos Lun yn y Tŷ Gwerin perfformiodd Bob Delyn a’r Ebillion i gynulleidfa sylweddol.[7]
Y Maes
[golygu | golygu cod]

Cynhaliwyd yr ŵyl ddiwethaf yn yr ardal yn 2011, ar dir amaethyddol i’r gorllewin o ganol y ddinas. Roedd trafodaethau rhwng yr Eisteddfod a’r Cyngor ynglŷn â’i hunion leoliad yn 2025[8], gyda llawer yn yr ardal yn disgwyl i dir ar ystâd Erddig ar ochr orllewinol y ddinas gael ei ddewis fel safle. Ar 24 Hydref 2024, cyhoeddwyd y byddai'r Eisteddfod yn cael ei chynnal ar safle yn ardal Is-y-coed ar ochr ddwyreiniol y ddinas. Bydd y Maes, y maes carafanau, y meysydd parcio a Maes B gyfochrog a'i gilydd ar dir amaethyddol.[9] Lleoliad: 53°03′17″N 2°54′38″W / 53.054715°N 2.910478°W
Roedd cynllun arbennig ar gyfer teuluoedd incwm isel sy'n byw yn lleol, gyda pecyn yn cynnwys mynediad i'r maes am ddim i'r teulu cyfan, ynghyd â thaleb bwyd i blant. Cafwyd grant ariannol o £200,000 gan Llywodraeth Cymru i gefnogi'r cynllun.[10]
Prif gystadlaethau
[golygu | golygu cod]Y Gadair
[golygu | golygu cod]Enillydd y Gadair oedd Tudur Hallam (ffugenw "Y gylfinir"). Traddodwyd y feirniadaeth gan Peredur Lynch, ar ran ei gyd-feirniaid Menna Elfyn a Llŷr Gwyn Lewis. Roedd 15 ymgeisydd eleni, y nifer uchaf ers 1989, a 6 yn cwbl deilwng o'r Gadair. Y dasg oedd llunio awdl ar fwy nag un o'r mesurau traddodiadol, heb fod yn fwy na 250 o linellau, ar y testun Dinas.
Ysgrifennodd Tudur gerddi hynod bersonol yn ymwneud â'i brofiad o gael diagnosis canser. Yn ei feirniadaeth dywedodd Peredur Lynch "Wrth i mi ddarllen yr agoriad hwyliog hwn i'r awdl am y tro cyntaf, cystal cyfaddef fod fy ymateb greddfol rywbeth yn debyg i hyn: 'Difyr iawn, ond mae angen mwy na chywydd ysgyfala fel hwn i ennill Cadair y Genedlaethol'. Ac yna, wele droi at yr ail ganiad, ac mewn amrantiad derbyniais ddwrn egr ym mhwll fy stumog, sef y llinell 'Chwe mis? Deg mis? 'Chydig mwy?' Heb unrhyw baratoad, fe'n gwysiwyd fel darllenwyr gan y bardd o ganol cae pêl-droed i Ysbyty Glangwili lle mae'n derbyn diagnosis o gancr yr asgwrn a chancr ymledol (fe ymddengys) yn yr iau."
Yn ei beirniadaeth dywed Menna Elfyn "Canodd prifeirdd eraill am farwolaeth aelodau o deulu neu drasiedi angheuol cydnabod neu ffrindiau iddynt ond dyma'r tro cyntaf i mi ddod ar draws rhywun yn ysgrifennu am ei gyflwr ei hun a'i feidroldeb, yn gignoeth a heb arlliw o hunandosturi." Dywedodd Llŷr Gwyn Lewis "Canodd gân na fyddai neb byth yn gorfod dymuno'i chanu: ond o'i chanu, fe'i canodd â grym croyw, cofiadwy, dirdynnol, gan dynnu ar ei holl gyneddfau fel bardd."[11]
Noddwyd y Gadair gan Undeb Amaethwyr Cymru a a’r wobr ariannol o £750 gan Goleg Cambria. Gafyn Owen a'i bartner busnes Sean Nelson a wnaeth y Gadair - glo, pêl-droed, traphont ddŵr a bragdai sy'n cyfleu 'ddoe, heddiw ac yfory' Wrecsam yw'r ysbrydoliaeth. Daw'r pren o Erddig ger Wrecsam.[12]
Y Goron
[golygu | golygu cod]
Enillydd y Goron oedd Owain Rhys o'r Tyllgoed, Caerdydd (ffugenw "Llif 2") sy'n fab i Manon Rhys. Traddodwyd y feirniadaeth gan Ifor ap Glyn ar ran ei gyd-feirniaid Gwyneth Lewis a Sion Aled. Cystadlodd 28 eleni a'r dasg oedd cyflwyno pryddest neu gasgliad o gerddi heb fod mewn cynghanedd gyflawn, heb fod dros 250 o linellau ar y testun Adfeilion.
Yn ei feirniadaeth, dywedodd Ifor ap Glyn fod y casgliad yn trafod byw gyda rhywun sy'n dioddef gyda dementia, sef mam y bardd. "Mae'n ymdriniaeth dawel a sensitif â'r hyn sydd yn rhaid ei wneud i helpu'r fam barhau i fyw'n urddasol wrth i'w chof hi ddadfeilio," meddai.[13]
Noddwyd y Goron gan Elin Haf Davies a rhoddir £750 gan Prydwen Elfed-Owens (er cof am ei rhieni a blynyddoedd hapus ei phlentyndod ym Mwlchgwyn ac yn ysgol Gwynfryn). Dyluniwyd y Goron am yr ail flwyddyn yn olynol gan Neil Rayment ac Elan Rhys Rowlands. Ysbrydolwyd y Goron eleni gan y ffosiliau hynafol a ddarganfuwyd yng Nghoedwig Brymbo – sy’n dyddio’n ôl dros 300 miliwn o flynyddoedd i’r cyfnod Carbonifferaidd.[14]
Gwobr Goffa Daniel Owen
[golygu | golygu cod]Yr enillydd oedd Peredur Glyn Cwyfan Webb-Davies o Borthaethwy. Traddodwyd y feirniadaeth gan Mari Emlyn, ar ran ei chyd-feirniaid Haf Llewelyn ac Alun Davies. Tasg y gystadleuaeth oedd creu nofel heb ei chyhoeddi gyda llinyn storïol cryf, heb fod yn llai na 50,000 o eiriau. Y wobr yw Medal Goffa Daniel Owen a £5,000 o Gronfa Goffa I D Hooson.
Daeth 14 cynnig ar y gystadleuaeth eleni a dywedodd Mari Emlyn "Gwyddwn fy mod mewn dwylo diogel o'r cychwyn yng nghwmni'r llenor penigamp hwn er nad dyma'r math o nofel sydd fel arfer at fy nant.". Roedd y tri beirniaid yn gytun fod Anfarwol gan Ozymandias yn enillydd cwbl haeddiannol o'r wobr eleni.[15]
Y Fedal Ryddiaith
[golygu | golygu cod]Enillydd y Fedal oedd Bryn Jones, athro a darlithydd o Fangor gyda'i nofel dan y ffugenw "Trilliw Bach". Roedd 16 ymgeisydd a dywedodd y beirniaid bod y safon wedi bod yn galonogol. Dywedodd Aled Lewis Evans bod y gwaith buddugol yn "gyfrol o lên micro eang ei chynfas, a chelfydd ei chynildeb".
Y dasg oedd cyfansoddi cyfrol o ryddiaith greadigol heb fod dros 40,000 o eiriau ar y thema "Ffin/Ffiniau". Yn ogystal â derbyn y Fedal Ryddiaith roedd gwobr ariannol o £750, yn rhoddedig gan Gymdeithas Gymraeg Rhiwbeina.
Thraddodwyd y feirniadaeth gan Aled Lewis Evans, ar ran ei gyd-feirniaid Bethan Mair ac Elin Llwyd Morgan.[16]
Medal y Dramodydd
[golygu | golygu cod]
Enillydd Medal y Dramodydd oedd Greta Siôn o Gaerdydd am ei drama Presennol (ffugenw "Caer Enlli"). Roedd 20 ymgais eleni. Y dasg oedd cyflwyno braslun o hyd at 2,500 o eiriau sy'n cynnwys amlinelliad stori - dechrau, canol, diwedd - lleoliad ac amser, proffil cymeriadau, arddull y darn yn ogystal ag enghraifft o dair golygfa wedi eu deialogi, neu ddrafft o ddrama gyflawn o hyd at 30-45 munud.
Roedd y panel o feirniaid eleni yn cynrychioli aelodau'r consortiwm sef Betsan Llwyd, Daniel Lloyd, Ffion Wyn Bowen, Gethin Evans, Lowri Morgan a Steffan Donnelly. Cafodd Mared Jarman a Melanie Owen eu penodi i'r panel beirniaid fel ymarferwyr llawrydd, a bu Mari Emlyn a Rhian Blythe mewn un sesiwn drafod fel dirprwyon ar ran eu sefydliadau. Traddodwyd y feirniadaeth gan Steffan Donnelly, Betsan Llwyd, Melanie Owen a Daniel Lloy.
Cyflwynwyd y Fedal er cof am Eiryth ac Urien Wiliam, rhoddedig gan eu plant, Hywel, Sioned a Steffan yn ogystal â gwobr o £3000.[17]
Canlyniadau cystadlaethau
[golygu | golygu cod]Bandiau Pres
[golygu | golygu cod]101. Bandiau pres Pencampwriaeth | Dosbarth 1 1. Band Lewis Merthyr 2. Seindorf Beaumaris 3. Band Pres Dinas Wrecsam
102. Bandiau pres Dosbarth 2 a 3 1. Band Brenhinol Tref Bwcle 2. Seindorf Arian Deiniolen 3. Band Markham a'r Cylch
103. Bandiau pres Dosbarth 4 1. Seindorf Arian Llanrug 2. Seindorf Arian Yr Oakeley 3. Band Porthaethwy
104. Bandiau pres ieuenctid 1. Seindorf Ieuenctid Beaumaris 2. Band Hyfforddi Cerdd Cydweithredol Wrecsam
Cerdd Dant
[golygu | golygu cod]151. Côr cerdd dant 1. Côr Merched Llangwm 2. Côr Tôn-Teg 3. Côr yr Heli
152. Parti cerdd dant 1. Parti'r Cwm 2. Parti Pen Barras 3. Hogie Dyffryn Clwyd
153. Parti cerdd dant o dan 25 oed 1. Glanaethwy 2. Aelwyd Yr Ynys 3. Genod Trillyn
154. Triawd neu bedwarawd Cerdd Dant 1. Ruth, Ceri a Siriol — Dyffryn Clwyd 2. Pedwarawd Garmon — Yr Wyddgrug 3. Lodesi Dyfi — Bro Ddyfi
155. Deuawd cerdd dant 16 oed a throsodd 1. Cadi a Lleucu 2. Owain John a Gareth Jones 3. Ruth a Siriol
156. Deuawd cerdd dant o dan 16 oed 1. Begw a Cadi 2. Mali a Llio 3. Awen ac Olive
157. Gwobr Aled Lloyd Davies 1. Owain John 2. Cai Fôn Davies 3. Lleucu Arfon
158. Unawd cerdd dant 16 ac o dan 21 oed 1. Elain Iorwerth 2. Branwen Medi Jones 3. Leusa Francis
159. Unawd cerdd dant 12 ac o dan 16 oed 1. Ela Mablen Griffiths-Jones 2. Non Alaw Prys 3. Gwenno Llwyd Beech
160. Unawd cerdd dant o dan 12 oed 1. Nanw Melangell Griffiths-Jones 2. Gwilym Aron Davies 3. Greta Ann Jones
Cerddoriaeth
[golygu | golygu cod]201. Côr agored 1. Côr Glanaethwy 2. Côr Taflais 3. Côr Ieuenctid Môn
202. Côr cymysg 1. Côr CF1 — Caerdydd 2. Côr Llanddarog — Llanddarog 3. Côrdydd — Caerdydd
203. Cor lleisiau tenor | bas 1. Côr Meibion Rhosllarnerchrugog 2. Côr BuAnn 3. Côr Meibion Llangwm
204. Côr lleisiau soprano | alto 1. Côr Glanaethwy 2. Tegalaw 3. Lleisiau'r Afon
205. Côr i rai 60 oed a throsodd 1. Côr Cynhaearn 2. Encôr 3. Cantorion Pentalar
206. Côr ieuenctid o dan 25 oed 1. Côr Ieuenctid Môn 2. Côr Glanaethwy
207. Cystadleuaeth gorawl Eisteddfodau Cymru 1. Côr Esceifiog 2. Côr Dre 3. Côr CantiLena
208. Côr newydd i'r Eisteddfod 1. Aelwyd Llangwm 2. Rhocesi 3. Côr Syr Ifan
221. Ensemble lleisiol 1. Merched Mela 2. Gwenan, Ynyr ac Elan 3. Branwen, Beca, Georgia a Hanna
231. Ysgoloriaeth W Towyn Roberts 1. Manon Ogwen Parry 2. John Rhys Liddington 3. Ffion Mair Thomas
232. Unawd soprano 25 oed a throsodd 1. Bethan Elin — Ynys Môn 2. Tesni Jones — Llanelwy 3. Alaw Tecwyn Siôn — Llanrwst
233. Unawd mezzo | contralto | gwrth-denor 25 oed a throsodd 1. Erin Fflur — Y Felinheli 2. Sioned Wyn Davies — Caernarfon 3. Kathryn Nash — Llanelwy
234. Unawd tenor 25 oed a throsodd 1. Efan Williams — Lledrod, Ceredigion 2. Elis Garmon Jones — Bala 3. Cai Fôn Davies — Bangor
235. Unawd bariton | bas 25 oed a throsodd 1. Ian Pritchard-Jones — Wrecsam 2. Robin Gruffudd Hughes — Pwllheli 3. Dyfan Parry Jones — Machynlleth
236. Gwobr goffa David Ellis 1. Erin Fflur
237. Canu emyn | cân o fawl 1. Gwynne Jones 2. Lowri Elen 3. Glynn Morris
238. Ar ei newydd wedd - dehongliad o gân draddodiadol Gymreig 1. Elan Catrin Parry 2. Cadi Glwys Davies 3. Catrin a Morgan
239. Unawd Gymraeg | Hen ganiadau 1. Ffion Mair Thomas 2. Aled Wyn Thomas 3. Heidi Mason
240. Unawd soprano 19 ac o dan 25 oed 1. Ffion Mair Thomas 2. Kathy Macaulay 3. Glesni Rhys Jones
241. Unawd mezzo | contralto | gwrth-denor 19 ac o dan 25 oed 1. Erin Wynne Thomas 2. Rhian-Carys Jones 3. Holly Watkin
242. Unawd tenor 19 ac o dan 25 oed 1. Guto Jenkins 2. Lewys Siencyn 3. Owen Barton Davies
243. Unawd bariton | bas 19 ac o dan 25 oed 1. Caleb Nicholas 2. John Rhys Liddington 3. Tomos Heddwyn Griffiths
244. Gwobr goffa Osborne Roberts – Y Rhuban Glas i gantorion Caleb Nicholas
245. Unawd allan o sioe gerdd 19 oed a throsodd 1. Nansi Rhys Adams 2. Gwion Tudur 3. Daniel O'Callaghan
247. Unawd allan o sioe gerdd o dan 19 oed 1. Cadi Elis Roberts 2. Efan Arthur Williams 3. Jini-Grug Dobson
248. Unawd 16 ac o dan 19 oed 1. Branwen Medi Jones 2. Liam Arfon Jones 3. Leisa Mair Lloyd-Edwards
249. Unawd 12 ac o dan 16 oed 1. Ela Mablen Griffiths-Jones 2. Non Alaw Prys 3. Llio Lloyd Salisbury
250. Unawd o dan 12 oed 1. Nel Edwards-Phillips 2. Arthur Siôn Evans 3. Leisa Gwen Roberts
262. Ensemble offerynnol 1. Maria a Gwenno 2. Aldo a Catrin
263. Rhuban Glas offerynnol 19 oed a throsodd 1. Owen Putter 2. Isaac Williams 3. Heledd Wynn Newton
264. Rhuban Glas offerynnol 16 ac o dan 19 oed 1. Raphael James 2. Eliza Bradbury 3. Lea Mererid
265. Rhuban Glas offerynnol o dan 16 oed 1. Edryd Ifan Collins 2. Tom Davies 3. Meilir Tudur Davies
Dawns
[golygu | golygu cod]301. Tlws coffa Lois Blake 1. Dawnswyr Nantgarw 2. Dawnswyr Talog 3. Dawnswyr Môn
302. Parti dawnsio gwerin o dan 25 oed 1. Dawnswyr Talog 2. Dawnswyr Golat
303. Dawns stepio i grŵp 1. Dawnswyr Talog 2. Dawnswyr Golat 3. Clocswyr Conwy
304. Tlws Cymdeithas Ddawns Werin Cymru 1. Cerddorion Dawnswyr Nantgarw
305. Deuawd, triawd neu bedwarawd stepio 1. Aaron, Abel, Caian a Dion 2. Esther, Erin a Luned 3. Triawd Madryn, Aelwyd Madryn
306. Dawns stepio unigol mewn arddull draddodiadol i fechgyn (306) 1. Dion Ioan Jones 2. Caian Evans 3. Morus Caradog Jones
307. Dawns stepio unigol mewn arddull draddodiadol i ferched 1. Erin Eluned Jones 2. Esther Defis 3. Luned Defis
308. Dawns stepio unigol o dan 12 oed 1. Mali Gwen Evans 2. Dewi Aled Rowlands 3. Meira Rowlands
351. Dawns i grŵp o 4 aelod neu mwy 1. Hudoliaeth 2. Heddlu CDL 3. Doliau Dychrynllyd
352. Dawns i bâr, triawd neu bedwarawd (352) 1. Phoebe, Caitlin, Amy a Emily 2. Mabli a Ethni 3. Carys Turner a Ellie Vaughan
353. Dawns unigol 12 oed a throsodd 1. Twm Môn 2. Olly Louis Fraser Jones 3. Mia Fflur
354. Dawns unigol o dan 12 oed 1. Elsa Gwyn Vaughan Pleming 2. Willow Smith 3. Elsi Mair Jones
355. Dawns gelf | greadigol | gyfoes | ballet i grŵp 1. Steele Studio Distinction Dawns 2. Grŵp Mabli
Gwerin
[golygu | golygu cod]401. Côr alaw werin 1. Côr yr Heli — Pwllheli 2. Lleisiau Clywedog — Wrecsam
402. Parti alaw werin 1. Eryrod Meirion 2. Hogia Llanbobman 3. Parti'r Cwm
403. Parti alaw werin o dan 25 oed 1. Glanaethwy 2. Aelwyd Yr Ynys 3. Parti Gwerin Ysgol Dyffryn Conwy
404. Gwobr goffa y Fonesig Ruth Herbert Lewis 1. Cai Fôn Davies 2. Iwan Teifion Davies 3. Beca Fflur Williams
405. Unawd alaw werin 16 ac o dan 21 oed 1. Branwen Medi Jones 2. Fflur Erin Edwards 3. Elain Iorwerth
406. Unawd alaw werin 12 ac o dan 16 oed 1. Ela Mablen Griffiths-Jones 2. Cari Lovelock 3. Tesni Rhys
407. Unawd alaw werin o dan 12 oed 1. Arthur Siôn Evans 2. Morus Charles 3. Nanw Melangell Griffiths-Jones
Llefaru
[golygu | golygu cod]601. Côr Llefaru 1. Côr Llefaru Sarn Helen — Llanbedr Pont Steffan 2. Gens y Gen — Caerdydd 3. Lleisiau Llannerch — Wrecsam
602. Parti llefaru 1. Criw Pen Llŷn — Pwllheli 2. Parti Man a Man — Llanbedr Pont Steffan 3. Yr Alltudion — Caerdydd
603. Gwobr goffa Llwyd o'r Bryn 1. Siôn Jenkins 2. Cai Fôn Davies 3. Daniel O'Callaghan
605. Gwobr goffa Gwyneth Morus Jones - Llefaru unigol 16 ac o dan 21 oed 1. Neli Rhys 2. Elin Williams 3. Mari Elin Prys
606. Llefaru unigol 12 ac o dan 16 oed 1. Cadi Elis Roberts 2. Gwenno Llwyd Beech 3. Nêst Emlyn Mars Lloyd
607. Llefaru unigol o dan 12 oed 1. Gruffydd Davies 2. Meira Rees Rowlands 3. Arthur Siôn Evans
608. Llefaru o'r Ysgrythur 1. Sian Meinir 2. Erin Llwyd 3. Claire Heeley
Theatr
[golygu | golygu cod]904. Cyflwyniad theatrig i grŵp 1. Grwp Nel, Cadi, Hanna a Mared 2. Glanaethwy 3. Betsan Lewis ac Ela Williams
905. Gwobr Richard Burton 1. Nansi Rhys Adams 2. Ifan Coyle 3. Iestyn Gwyn Jones
906. Monolog 16 ac o dan 19 oed 1. Mari Elin Prys 2. Ela Williams 3. Alis Tomos
907. Monolog 12 ac o dan 16 oed 1. Cian Glyn 2. Cadi Elis Roberts 3. Gwion Dafydd Bowen
Maes D
[golygu | golygu cod]802. Côr dysgwyr 1. Côr Dysgwyr y Cymoedd 2. Côr Coleg Cambria 3. Côr Daw
Anrhydeddau'r Orsedd
[golygu | golygu cod]Cafodd y canlynol eu hurddo i Orsedd y Beirdd ar Faes yr Eisteddfod, ar fore dydd Gwener, 8 Awst.[18]
Gwyrdd[golygu | golygu cod]
|
Glas[golygu | golygu cod]
|
|
Oriel
[golygu | golygu cod]-
Llwyfan y Maes
-
Pentref Bwyd
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Eisteddfod Genedlaethol Cymru – hanes yr Eisteddfod Genedlaethol
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru Wrecsam – achlysuron eraill pan gynhaliwyd yr Eisteddfod yn Wrecsam
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Wrecsam i wahodd Eisteddfod Genedlaethol 2025 , BBC Cymru Fyw, 12 Gorffennnaf 2022. Cyrchwyd ar 14 Awst 2023.
- ↑ "Llinos Roberts yw Cadeirydd Eisteddfod Wrecsam 2025". BBC Cymru Fyw. 2023-11-20. Cyrchwyd 2024-08-10.
- ↑ "Mark Lewis Jones fydd Llywydd Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam". BBC Cymru Fyw. 2025-06-10. Cyrchwyd 2025-06-10.
- ↑ "Yr Eisteddfod yn cyhoeddi arweinydd Cymru a'r Byd | Eisteddfod". Eisteddfod Genedlaethol Cymru. 2025-06-30. Cyrchwyd 2025-07-02.
- ↑ "Cadi Glwys: Seren 'Y Stand' | Eisteddfod". Eisteddfod Genedlaethol Cymru. 2025-07-21. Cyrchwyd 2025-07-26.
- ↑ "Dewi Pws: Yr Eisteddfod yn 'cofio a dathlu un o fawrion y genedl'". BBC Cymru Fyw. 2025-08-04. Cyrchwyd 2025-08-04.
- ↑ "Torfeydd mawr yn mwynhau sêr Cymru | Eisteddfod". Eisteddfod Genedlaethol Cymru. Cyrchwyd 2025-08-03.
- ↑ "Eisteddfod 2025 i'w chynnal yn Wrecsam". Eisteddfod Genedlaethol. 2023-08-01. Cyrchwyd 2023-08-14.
- ↑ "Cyhoeddi lleoliad maes Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2025". Newyddion S4C. 2024-10-24. Cyrchwyd 2024-10-24.
- ↑ "Pobl leol ar incwm isel i gael mynd i Eisteddfod Wrecsam am ddim". BBC Cymru Fyw. 2025-07-04. Cyrchwyd 2025-07-04.
- ↑ "Tudur Hallam yn ennill Cadair Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam". BBC Cymru Fyw. 2025-08-08. Cyrchwyd 2025-08-08.
- ↑ "Cyflwyno Coron a Chadair Eisteddfod Wrecsam | Eisteddfod". eisteddfod.cymru. Cyrchwyd 2025-08-08.
- ↑ "Owain Rhys yn ennill Coron Eisteddfod Wrecsam". BBC Cymru Fyw. 2025-08-04. Cyrchwyd 2025-08-04.
- ↑ "Creu Coron yr Eisteddfod am yr ail flwyddyn yn olynol yn 'fraint'". newyddion.s4c.cymru. 2025-08-04. Cyrchwyd 2025-08-04.
- ↑ "Peredur Glyn yn ennill Medal Gwobr Goffa Daniel Owen". BBC Cymru Fyw. 2025-08-05. Cyrchwyd 2025-08-05.
- ↑ "Bryn Jones yn ennill y Fedal Ryddiaith yn yr Eisteddfod". BBC Cymru Fyw. 2025-08-06. Cyrchwyd 2025-08-06.
- ↑ Cai Llewelyn Evans yw enillydd Medal Ddrama Eisteddfod 2023 , BBC Cymru Fyw, 10 Awst 2023.
- ↑ "Eisteddfod 2025: Cyhoeddi rhestr anrhydeddau'r Orsedd". BBC Cymru Fyw. 2025-06-01. Cyrchwyd 2025-06-01.
