Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caernarfon 1862
Jump to navigation
Jump to search
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caernarfon 1862 yng Nghaernarfon ar 26-29 Awst 1862. Cyhoeddwyd yr Eisteddfod yng Nghaernarfon ar 26 Mawrth 1862 gan y bardd Gwilym.[1]
Cynigiwyd Y Gadair am gerdd gynghanedd ar y testun "Y Flwyddyn". Derbyniwyd naw cyfansoddiad a thraddodwyd y feirniadaeth gan Caledfryn ar ran ei gyd-feirniaid Nicander a Gwalchmai, gan ddatgan fod 'Yr Eryr' yn deilwng o'r gadair. Datgelwyd mai'r bardd buddugol oedd Hwfa Môn a fe'i derbyniwyd i sain utgyrn. Fe'i haddurnwyd gan Mrs Williams, Castell Deudraeth a fe'i arweiniwyd i'r gadair gan Caledfryn, Alaw Goch a Chlwydfardd. Yna canwyd "Sesiwn yng Nghymru" gan J. Williams, Bodafon gyda'r gynulleidfa yn ymuno yn y gytgan.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ "MAESYFRWYDR - Seren Cymru". William Morgan Evans. 1862-09-12. Cyrchwyd 2016-08-11.