Richard Parry (Gwalchmai)

Oddi ar Wicipedia
Richard Parry
FfugenwGwalchmai Edit this on Wikidata
Ganwyd19 Ionawr 1803 Edit this on Wikidata
Llannerch-y-medd Edit this on Wikidata
Bu farw7 Chwefror 1897 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata
Gwalchmai yn gwisgo ei sash a'i fedalau eisteddfodol

Roedd Richard Parry (Gwalchmai) (19 Ionawr 18037 Chwefror 1897) yn fardd, llenor ac yn Weinidog Cymreig[1]

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod]

Ganwyd Gwalchmai yn Llanerchymedd ym 1803 yn fab i Richard Parry, gweithiwr trin lledr a Margaret (née Williams) ei wraig. Roedd Gwalchmai yn ymhyfrydu yn ei ach ac yn honni ei fod yn disgyn o Gweirydd ap Rhys Goch ar ochr ei dad a Hwfa ap Cynddelw ar ochr ei fam; y ddau ohonynt yn sylfaenwyr Pymtheg Llwyth Gwynedd.[2]

Derbyniodd addysg sylfaenol mewn ysgol Eglwysig cyn cael ei brentisio i ddysgu crefft y cyfrwywr. Dechreuodd bregethu i'r Methodistiaid Calfinaidd ym 1828[3]; ym 1829 sefydlwyd William Williams (Caledfryn) yn weinidog yr Annibynwyr yn Llanerchymedd a daeth y ddau yn gyfeillion ac ymunodd Gwalchmai a'r Annibynwyr.

Priododd Dorothy Jones ym 1844, bu iddynt un ferch, fu Mrs Parry farw ym 1886.[4] Priododd y ferch â gweinidog lleol; roedd eu mab William Milton Aubrey (Anarawd) (1861-1889) yn fardd a hynafiaethydd.

Gweinidogaeth[golygu | golygu cod]

Capel (A) Henryd

Ordeiniwyd Gwalchmai i weinidogaeth yr Annibynwyr ym Mryngwran ym 1832[5], symudodd ym 1838 i fod yn weinidog capeli Annibynnol Conwy a Henryd lle fu'n gweinidogaethu am ddeng mlynedd cyn symud i Lanymddyfri am gyfnod, cyn symud yn ôl i'r gogledd fel gweinidog Bethania Ffestiniog. Ym 1854 symudodd i Landudno i sefydlu achosion newydd Cymraeg a Saesneg, arhosodd yn Llandudno am weddill ei oes gan ymddeol ym 1883.

Bardd a Llenor[golygu | golygu cod]

Cafodd Gwalchmai ei urddo'n aelod o'r orsedd yn Aberffraw ym 1827 wedi hynny bu'n hynod lwyddiannus yn y byd eisteddfodol gan ennill saith neu wyth o gadeiriau, dwy fedal aur ac un ar bymtheg o rai arian am orchestion megis Coroniad y Frenhines Victoria a daeth i'r brig yn eisteddfod Merthyr Tudful 1839, Mordwyaeth yn eisteddfod Lerpwl 1851 a'r Dychweliad o Fabilon yn eisteddfod Llannerchymedd 1859[6]. Er gwaethaf ei lwyddiannau mawr prin fod dim o'i gwaith yn cael ei gyfrif fel canu o werth arhosol [7]

Cyhoeddodd nifer fawr o lyfrau yn y Gymraeg a'r Saesneg

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Cofiant y diweddar David Jones, Llansantffraid. 1850
  • Adgofion am John Elias. (Thomas Gee, Dinbych, 1859)
  • Enwogion Môn. 1877
  • (golygydd) Geirionydd (Rhuthun, dim dyddiad = 1862). Golygiad o waith Ieuan Glan Geirionydd, gyda bywgraffiad a nodiadau.
  • Yr Adroddiadur Barddonol. 1877
  • History of Ancient Eisteddfodau
  • History and Natural History of Llandudno
  • Ymneillduaeth ym Môn
  • Anianyddiaeth sefyllfa ddyfodol (Cyfieithiad o Philosophy of Future State gan Thomas Dick)

Marwolaeth a choffa[golygu | golygu cod]

Bu farw yn Llandudno yn 94 oed a chladdwyd ei weddillion ym Mynwent Penrhos,[8]

Cyhoeddwyd cofiant iddo ym 1899 Cofiant a gweithiau y Parchedig Richard Parry (Gwalchmai) Dan olygiaeth R. Peris Williams. Mae yna blac coch er cof amdano wedi ei osod ar wal Christ Church Llandudno sydd yn ei gofio fel "Awdur arweinlyfr cynnar i Landudno a Hyrwyddwr gwasanaethau crefyddol Saesneg yn y dref ar gyfer ymwelwyr"[9]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. PARRY, RICHARD ( Gwalchmai) yn Y Bywgraffiadur arlein [1] adalwyd 2 Chwefror 2015
  2. 'Gwalchmai yn ei fedd', Seren Cymru, 19 Chwefror 1897 [2] adalwyd 2 Chwefror 2015
  3. Parry, Richard yn Eminent Welshmen t 404 [3] adalwyd 2 Chwefror 2015
  4. Marwolaeth Mrs Pary, Y Celt, 15 Hydref 1886 [4] ] adalwyd 2 Chwefror 2015]
  5. Marwolaeth Gwalchmai Y Gwyliedydd 10 Chwefror 1897 [5] adalwyd 2 Chwefror 2015
  6. Death of Gwalchmai Weekly News and Visitors' Chronicle For Colwyn Bay 19 Chwefror 1897 [6] adalwyd 2 Chwefror 2015]
  7. Gwalchmai is Dead Evening Express 9 Chwefror 1897 [7] adalwyd 2 Chwefror 2015]
  8. Burial of Gwalchmai, Evening Express 11 Chwefror 1897 [8] adalwyd 2 Chwefror 2015
  9. MarkersWaymark - Reverend Richard Parry "Gwalchmai" - Christ Church, Llandudno, Conwy, Wales [9] adalwyd 2 Chwefror 2015