Henryd
![]() | |
Math |
pentref, cymuned ![]() |
---|---|
| |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Conwy ![]() |
Gwlad |
![]() |
Cyfesurynnau |
53.253°N 3.853°W ![]() |
Cod SYG |
W04000118 ![]() |
Cod OS |
SH769747 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Janet Finch-Saunders (Ceidwadwyr) |
AS/au | Robin Millar (Ceidwadwyr) |
![]() | |
Pentref bach a chymuned yn Sir Conwy yng ngogledd Cymru yw Henryd.
Mae'r pentref gwledig tawel yn gorwedd yn rhan isaf Dyffryn Conwy ar lan orllewinol Afon Conwy, tua milltir o'r afon honno a thua phedair milltir o dref Conwy. Rhed Afon Henryd trwy'r trwy'r pentref; mae'r pentref yn cymryd ei enw o'r 'hen ryd' ar yr afon honno.
Saif y rhan hynaf o'r pentref o gwmpas yr hen gapel, a godwyd yn 1822, ar groesffordd lle cwrdd y lôn fach o Gonwy â lôn dawel arall sy'n dringo i'r ffriddau uchel ar lethrau dwyreiniol Tal-y-Fan (yr olaf o'r Carneddau). Dwy filltir i'r de-orllewin mae hen eglwys Llangelynnin. Tua milltir o Henryd mae Melin Wenddar.
Yn rhan newydd y pentref, i'r gogledd o'r groesffordd, ceir ysgol gynradd a nifer o dai newydd. Mae Cymreictod y pentref wedi dirywio cryn dipyn dros y blynyddoedd gan fod yr A55 mor agos.
Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod y dudalen]
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3]
Cludiant[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae gwasanaeth bws afreolaidd yn cysylltu Henryd â Chonwy. Yr orsaf trenau agosaf yw'r honno a geir yn y dref honno.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
- ↑ Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]
Abergele · Bae Cinmel · Bae Colwyn · Bae Penrhyn · Betws-y-Coed · Betws yn Rhos · Bryn-y-maen · Bylchau · Caerhun · Capel Curig · Capel Garmon · Cefn Berain · Cefn-brith · Cerrigydrudion · Conwy · Craig-y-don · Cwm Penmachno · Cyffordd Llandudno · Dawn · Deganwy · Dolgarrog · Dolwen · Dolwyddelan · Dwygyfylchi · Eglwysbach · Esgyryn · Gellioedd · Glanwydden · Glasfryn · Groes · Gwytherin · Gyffin · Hen Golwyn · Henryd · Llanbedr-y-cennin · Llandrillo-yn-Rhos · Llandudno · Llanddoged · Llanddulas · Llanefydd · Llaneilian-yn-Rhos · Llanfairfechan · Llanfair Talhaearn · Llanfihangel Glyn Myfyr · Llangernyw · Llangwm · Llanrwst · Llanrhos · Llanrhychwyn · Llan Sain Siôr · Llansanffraid Glan Conwy · Llansannan · Llysfaen · Maenan · Y Maerdy · Melin-y-coed · Mochdre · Nebo · Pandy Tudur · Penmachno · Penmaenmawr · Pensarn · Pentrefelin · Pentrefoelas · Pentre-llyn-cymmer · Pentre Tafarn-y-fedw · Pydew · Rowen · Rhydlydan · Rhyd y Foel · Tal-y-bont · Tal-y-cafn · Trefriw · Tyn-y-groes · Tywyn · Ysbyty Ifan