Llangelynnin, Conwy

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Hen eglwys Sant Celynnin, Conwy
Llangelynnin Conwy Chwefr 2015.tif
Eglwys Llangelynnin Conwy 101.jpg
Gofal! Mae'r erthygl hon am blwyf ac eglwys ger tref Conwy. Ceir eglwys arall ger Tywyn, Meirionnydd, o'r un enw; gweler yma.

Cyn-blwyf ym Mwrdeisdref Sirol Conwy yw Llangelynnin, hefyd weithiau Llangelynnin (53°14′45″N 3°52′23″W / 53.2458°N 3.8730°W / 53.2458; -3.8730 (Llangelynnin Church)) sydd wedi'i leoli tua tair milltir i'r de o Gonwy, ger pentref bychan Henryd. Ceir ychydig o ffermydd a thai gwasgaredig yn y cyffiniau, ond yr adeilad mwyaf nodedig yw hen eglwys Celynnin (neu 'Sant Celynin' ar yr arwyddion) a saif yng nghysgod bryn o'r enw Tal y Fan (610m), ac sydd wedi'i chofrestru fel adeilad hynod o bwysig ers 13 Hydref 1966: Gadd I ar gofrest Cadw (Rhif ID Cadw: ID: 3193).[1]

Saif yr eglwys mewn safle anghysbell, 947 troedfedd uwch lefel y môr, uwchben Dyffryn Conwy, ychydig i'r de-orllewin o bentref Henryd. Cysegrir hi i Sant Celynnin, oedd yn byw yn y 6ed ganrif. Credir y gall corff yr eglwys ddyddio o'r 12fed ganrif, ac mae rhannau healaeth ohoni o'r 14eg ganrif. Adeiladwyd rhan ychwanegol, "Capel y Meibion", yn y 15fed ganrif.

Penglog ac esgyrn ar y mur ger y pulpud.

Mae'n adeilad hynod o syml, ac yn debyg iawn i eglwys arall ym Mwrdeisdref Sirol Conwy: Eglwys Llanrhychwyn - er nad yw cyn hyned - gyda rhannau ohoni'n dyddio'n ôl i'r 12fed ganrif.

Yr ardal o'i chwmpas[golygu | golygu cod y dudalen]

Defnyddid yr hen eglwys yn gyson hyd 1840, pan adeiladwyd eglwys newydd yn is i lawr, gerllaw y Groes Inn ar y ffordd B5106. Mae'r eglwys newydd wedi cau bellach, ond mae ambell i wasanaeth yn cael ei gynnal yn yr hen egllwys yn yr haf. Yn y fynwent mae ffynnon, a elwir yn Ffynnon Gelynnin a cheir gweddillion stabl gerllaw. Mae yma nifer o olion o gyfnod cynharach, Celtaidd yn yr ardal hefyd, a hen draciau yn arwain i gyfeiriad Bwlch y Ddeufaen. Ceir olion cylch o gytiau'n perthyn i'r Oes Haearn gerllaw. Ceir olion bryngaer ar gopa Cerrig-y-ddinas, sydd hefyd gerllaw. Mae'r fynwent yn un gron, sy'n golygu ei bod yma - ar ryw ffurf - cyn Crist.

St. Celynin[golygu | golygu cod y dudalen]

Sant o'r 6ed ganrif oedd Celynnin, ac yn ôl y traddodiad roedd yn un o feibion y Tywysog Helig ap Glanawg, a breswyliai yn Llys Helig (olion a ffurfiwyd o graig!)[2] ger Penmaenmawr. Mae'n bosib fod Celynnin yn perthyn i Rhun, mab Maelgwn Gwynedd, Tywysog Gwynedd, a drigai yn y 6ed ganrif, ac roedd ganddo frawd o'r enw Rhychwyn.

Yr eglwys ei hun[golygu | golygu cod y dudalen]

Ychydig iawn o newidiadau a fu yn yr hen eglwys yn y ddau gan mlynedd diwethaf, sy'n golygu fod llawer o nodweddion pwysig wedi'u cadw.

Y rhan hynaf o'r eglwys yw ei chanol, sy'n dyddio'n ôl i'r 12fed ganrif. Mae'n debyg i'r gangell gael ei hychwanegu yn y 14eg ganrif. Mae trawstiau pren y to (15fed ganrif) yn dderw tywyll a thros y blynyddoedd fe drwsiwyd rhannau o'r to gyda phren yw, sydd o bosib wedi'u tyfu yn y fynwent, gan fod olion coed yw i'w cael yno. Lluniwyd y trothwy a chromfachau'r drws yn y 14eg ganrif er bod y drws ei hun ychydig yn iau.

Yn y 15fed ganrif y codwyd y cyntedd, ac mae ynddo ffenestr fechan anghyffredin iawn, yn y wal dwyreiniol.

Gyferbyn a Chapel y Meibion, ceid capel arall, sef "Capel Eirianws", a enwyd ar ôl fferm gyfagos; mae'n ddigon posib mai perchennog y fferm a dalodd am ei adeiladu. Dymchwelwyd Capel Eirianws yn y 19eg ganrif, ond gwelir olion ohono o'r tu allan.


Y tu allan[golygu | golygu cod y dudalen]

Y tu fewn[golygu | golygu cod y dudalen]

Y ffynnon[golygu | golygu cod y dudalen]

Mewn cornel fechan o wal y fynwent swatia ffynnon wedi'i gwarchod gan wal betrual, amddiffynnol; ffynnon a elwir yn "Ffynnon Gelynnin". Oddi fewn ceir pwll o ddŵr, sydd hefyd yn siâp petrual. Credir ei bod yn medru gwella plant sâl. Byddai'r rhieni'n gosod eitemau megis dillad y plentyn yn y dŵr ac os byddai'r dilledyn yn arnofio, yna byddai'r plentyn yn gwella, ac yn byw.

Ar un cyfnod roedd to'n gorchuddio'r ffynnon, ac fel arfer gosodid meinciau hefyd. Mae'n ddigon posib mai'r ffynnon oedd yma gynaf - cyn yr eglwys - ac mai dyma pam y sefydlwyd yr eglwys yn y lleoliad hwn.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • H. Harold Hughes & Herbert L. North The old churches of Snowdonia (Bangor, Jarvis & Foster, 1924)