Esgyryn

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Pentref bychan iawn yn ardal y Creuddyn, Bwrdeistref sirol Conwy, yw Esgyryn (amrywiad: Esgyrn - cyfeiriad grid SH804787). Fe'i lleolir ar gyrion gogleddol Cyffordd Llandudno.

Bu cymuned fechan yn Esgyryn ers canrifoedd. I'r gogledd-orllewin ceir allt goediog a'r tir yn perthyn i ystad Bodysgallen. I'r gogledd-ddwyrain o'r pentref ceir pentref bychan Pydew (Bryn Pydew).

Nodwedd amlycaf Esgyryn heddiw yw'r obelisg trawiadol a godwyd gan unigolyn.

Yr olygfa o'r Obelisg yn cynnwys Llansanffraid, Afon Conwy, Cyffordd Llandudno i gyfeiriad y mynyddoedd a Phenmaenmawr
Yr olygfa o'r Obelisg yn cynnwys Llansanffraid, Afon Conwy, Cyffordd Llandudno i gyfeiriad y mynyddoedd a Phenmaenmawr

Yr Obelisg ar Allt Ffrith[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeirnog Map -SH80507 78924 N 53° 17.622 W 003° 47.654

Yr Obelisg ar Allt Ffrith, Bryn Esgyryn
Yr Obelisg- llun a dynnwyd ar yr A470

Mae'r obelisg i'w weld wrth deithio oddi ar yr A55 o'r Gath Ddu i gyfeiriad Llandudno (ar yr A470); saif ar Allt Ffrith, Bryn Esgyryn, ger Cyffordd Llandudno. Fe'i codwyd yn 1993 gan Richard Broyd, perchennog Bodysgallen ar y pryd, er gwaethaf llawer o wrthwynebiad lleol ac yn groes i ddeddfau cynllunio. Mae'n 64 troedfedd o uchder ac ar ffurf tebyg i Nodwydd Cleopatra. Dynodwyd y tir o gwmpas yr obelisg yn fan o ddiddordeb gwyddonol arbennig ac mae'n rhyfeddol bod cymaint o wahanol flodau gwyllt a phlanhigion yn ffynnu yno er gwaethaf yr holl wningod sydd o gwmpas.

Blodau a phlanhigion[golygu | golygu cod y dudalen]

Misoedd Mai a Mehefin yw'r adeg gorau i weld y carpedi lliwgar o flodau.

Y Fardre[golygu | golygu cod y dudalen]

Y Fardre yn y pellter

Ar y gorwel mae Sir Fôn ac Ynys Seiriol. O edrych i'r gorllewin fe welwch yn y pellter ddau fryncyn - Y Fardre, oedd o bwys yn hanes Cymru. Hefyd gwelir rhan o Ddeganwy. Yn ôl traddodiad,yma y sefydlodd Cunedda wedi iddo ddod o'r Hen Ogledd i adfer trefn yng Ngogledd Cymru yn dilyn ymadawiad y Rhufeiniaid. Yma hefyd roedd Llys Maelgwn Gwynedd yr honnir iddo gynnal eisteddfod go anghyffredin pan fu'n rhaid i'r beirdd a'r cerddorion orfod nofio ar draws Afon Conwy cyn cystadlu. Roedd y telynau wedi eu difetha yn y dŵr. Yn ôl traddodiad bu farw Maelgwn o'r Fad Felen ar ôl ceisio cael lloches yn Eglwys Llanrhos. Aeth ei gywreinrwydd yn drech nag ef- aeth i sbecian drwy dwll y clo a chafodd ei daro!

Adeiladwyd castell yno gan y barwn Normanaidd Robert o Ruddlan yn 1070. Ar un o draethau Deganwy y lladdwyd y Robert hwn gan filwyr Gruffydd ap Cynan. Dros ganrif yn ddiweddarach cododd Llywelyn Fawr gastell ar yr un safle, ond fe'i chwalwyd ganddo yn fuan wedyn rhag ennyn llid brenin Lloegr. Yn 1210 ail-adeiladwyd y castell gan Iarll Caer ond yn 1213 cipiwyd gan Llywelyn. Wedi ei farwolaeth ef daeth i ddwylo Saeson eto, ond yn 1241 fe'i meddianwyd a'i chwalu gan y Cymry, dim ond i'r Saeson unwaith eto ei ail-adeiladu. Hwn oedd y castell olaf yn Neganwy gan iddo gael ei dinistrio gan Llywelyn ein Llyw Olaf yn 1263.

Adeilad y Cynulliad[golygu | golygu cod y dudalen]

Adeilad y Cynulliad - Sarn Fynach

Adeilad y Llywodraeth yng Nghyffordd Llandudno sydd yma- ‘Sarn Fynach’yw'r enw arno. Pan agorwyd yn Mai, 2010, ar gost o ugain miliwn o bunnoedd, fe’i cyfrifid yn adeilad arbennig o ‘wyrdd’. Bellach, mae nifer o swyddfeydd y Cynulliad wedi cael eu hail-leoli yno.

Fferm Hendre Wen[golygu | golygu cod y dudalen]

Fferm Hendre Wen, Lôn Pabo, Cyffordd Llandudno

Mae nifer o ffeithiau diddorol am y fferm yma. Yn hanes 'Damwain Bryn Pydew' yn Hydref 1944, yn y cae ar y dde i'r maes carafanau y disgynnodd dau o'r criw, Millar a Wagstaff, gyda pharasiwt a chael eu hachub gan Richard a Lilian Owen. Yn ddiweddar,daeth i feddiant y perchenogion presennol fap yn dangos enwau'r caeau yn 1919 a'r cyfan yn Gymraeg.

Paentiwyd darlun o'r ffermdy gwreiddiol, Yr Hendre, yn gelfydd, gan Rowena Wyn Jones a ennillodd glod mewn arddangosfa ym Mharis. Hi hefyd fu'n gyfrifol am y lluniau yng nghyfres wreiddiol llyfrau darllen Sali Mali.

Y Melinau Gwynt[golygu | golygu cod y dudalen]

Melinau gwynt 'Gwynt y Môr' a 'Rhyl Flats'

Yr olygfa dros Bryn Pydew i gyfeiriad y môr gyda Chlwb Golff Llandrillo yn Rhos yn glir. Yn y cefndir mae melinau gwynt 'Gwynt y Môr' a 'Rhyl Flats'. Rhwng y ddwy safle mae dros gant wyth deg o felinau. Ar y diwrnod y tynnwyd y llun, 13eg o Fehefin, 2017, roedd y cyfan yn berffaith llonydd.

Plasdy Gloddaeth a Theulu Mostyn[golygu | golygu cod y dudalen]

Plasdy Gloddaeth sydd bellach yn ysgol fonedd, Coleg St. David

Teulu Mostyn yw'r teulu pwysicaf yn hanes Llandudno ac mae Stad Mostyn yn berchen llawer o dir yno o hyd. Etifeddodd y teulu stad y Gloddaeth trwy briodas yn y 1450au gan adeiladu'r plasdy a welir yn y llun, -ysgol breifat, Coleg St. David sydd yno bellach- yn yr unfed ganrif ar bymtheg. Ddwy ganrif yn ddiweddarach, yn sgil peiodas arall, cafodd Syr Roger Mostyn afael ar stad Bodysgallen. Ar dir y stad honno y codwyd yr obelisg.

Castell Conwy a'r Pontydd[golygu | golygu cod y dudalen]

Castell Conwy a'r Dair Pont

Adeiladwyd y castell a muriau'r dref rhwng mis Mawrth 1283 a mis Hydref 1287. Ar un adeg roedd 1500 o bobl o bob rhan o Loegr wrth y gwaith yng Nghonwy. O fewn ychydig flynyddoedd bu gwrthryfel Madog ap Llywelyn. Treuliodd Edward y Cyntaf Nadolig anghysurus iawn yng Nghastell Conwy yn brin o gyflenwadau yn 1294 ac oherwydd llifogydd ni allai groesi Afon Conwy i ddiogelwch y dwyrain. Cipiwyd y castell yn ystod gwrthryfel Glyndwr adeg Pasg 1401 drwy Gwilym a Rhys ap Tudur.

Rhwng 1821 a 1826 y codwyd y bont grog gan Thomas Telford ar gost o £50,000. Yn 1846 ychwanegwyd y bont rheilffordd o waith Robert Stephenson. Codwyd y bont ddiweddaraf yn 1958 a agorwyd yn swyddogol gan Henry Brooke..