Rhydlydan
Math |
pentref ![]() |
---|---|
| |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Conwy ![]() |
Gwlad |
![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Darren Millar (Ceidwadwyr) |
AS/au | David Jones (Ceidwadwr) |
Pentref bychan gwledig yn ne-ddwyrain bwrdeistref sirol Conwy (ond yn rhan o'r hen Sir Ddinbych cyn hynny) yw Rhydlydan. Fe'i lleolir yn ymyl i lôn yr A5, 2 filltir i'r dwyrain o Bentrefoelas a 4 milltir i'r gorllewin o Gerrigydrudion, tua 220m uwch lefel y môr. Mae'n rhan o gymuned Pentrefoelas.
Saif y pentref gwasgaredig ger bont ar afon Merddwr, sy'n ymuno yn afon Conwy fymryn yn is i lawr y cwm. Mae'n debyg iddo gael ei enw am fod groesfan lydan yma dros y tir corsiog a'r afon cyn i'r bont gael ei chodi.
Hanner milltir i'r gorllewin o Rydlydan ceir plasdy Plas Iolyn, a fu'n gartref i'r enwog Elis Prys (Y Doctor Coch) (?1512-1594?). Roedd y Dr Prys yn noddwr hael i feirdd gogledd Cymru. Adnewyddiodd Blas Iolyn tua'r flwyddyn 1560. Ymhlith y beirdd a ganodd glod lletygarwch Plas Iolyn y mae Tudur Aled, Siôn Tudur a Lewys Môn.
Tu ôl i'r hen blasdy, i'r de, ceir Garn Prys (534m).
Abergele · Bae Cinmel · Bae Colwyn · Bae Penrhyn · Betws-y-Coed · Betws yn Rhos · Bryn-y-maen · Bylchau · Caerhun · Capel Curig · Capel Garmon · Cefn Berain · Cefn-brith · Cerrigydrudion · Conwy · Craig-y-don · Cwm Penmachno · Cyffordd Llandudno · Dawn · Deganwy · Dolgarrog · Dolwen · Dolwyddelan · Dwygyfylchi · Eglwysbach · Esgyryn · Gellioedd · Glanwydden · Glasfryn · Groes · Gwytherin · Gyffin · Hen Golwyn · Henryd · Llanbedr-y-cennin · Llandrillo-yn-Rhos · Llandudno · Llanddoged · Llanddulas · Llanefydd · Llaneilian-yn-Rhos · Llanfairfechan · Llanfair Talhaearn · Llanfihangel Glyn Myfyr · Llangernyw · Llangwm · Llanrwst · Llanrhos · Llanrhychwyn · Llan Sain Siôr · Llansanffraid Glan Conwy · Llansannan · Llysfaen · Maenan · Y Maerdy · Melin-y-coed · Mochdre · Nebo · Pandy Tudur · Penmachno · Penmaenmawr · Pensarn · Pentrefelin · Pentrefoelas · Pentre-llyn-cymmer · Pentre Tafarn-y-fedw · Pydew · Rowen · Rhydlydan · Rhyd y Foel · Tal-y-bont · Tal-y-cafn · Trefriw · Tyn-y-groes · Tywyn · Ysbyty Ifan