Llan Sain Siôr

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Pentref yng nghymuned Abergele ym mwrdeistref sirol Conwy, gogledd Cymru, yw Llan Sain Siôr (Saesneg: St. George) Ceir sawl amrywiad ar yr enw Cymraeg, yn cynnwys: Llan Saint Sior, Llansainsior, neu Sain Siôr yn unig). Yn ôl y cofnodion hanesyddol, Cegydon oedd enw'r pentref yn y gorffennol.

Gorwedd ar bwys yr A55 rhwng Abergele i'r gorllewin a Llanelwy i'r dwyrain, tua dwy filltir o'r môr ar lethr tir.

Enwir y pentref a'r plwyf ar ôl yr eglwys Fictorianaidd leol a gysegrir i'r sant Siôr (un o'r ychydig eglwysi yng Nghymru wedi eu cysegru i nawddsant Lloegr). Ceir chwedl leol sy'n cysylltu'r pentref â'r chwedl adnabyddus amdano'n lladd draig. Eglwys un siambr yw Eglwys Sain Siôr, sydd wedi'i chofrestru fel adeilad Gradd II ers 8 Mai 1997 (rhif Cofrestr Cadw: 18669).[1] Ceir cofebion i deuluoedd lleol sy'n dyddio o ddechrau'r 17g tu mewn. Yn y pentref, yn ogystal ag eglwys y plwyf, ceir tafarn y Kinmel Arms ac ysgol gynradd. Gerllaw ceir ystâd Neuadd Cinmel a chwarel.

I'r gogledd-ddwyrain o'r pentref, rhyngddo a Rhuddlan, ceir Morfa Rhuddlan, safle brwydr enwog rhwng y Cymry a'r Eingl-Sacsoniaid yn yr Oesoedd Canol Cynnar. Ar y bryn ger y chwarel tu ôl i'r pentref ceir olion olaf bryngaer Dinorben, un o'r enghreifftiau gorau yng ngogledd Cymru, sydd bron iawn wedi diflannu erbyn hyn oherwydd y gwaith chwarel yno.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Britsh Listed Buildings; adalwyd 19 Medi 2014