Tal-y-bont, Conwy

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Tai yng nghanol Tal-y-bont.

Pentref yn ardal sir Conwy yw Tal-y-Bont. Mae'n gorwedd yng ngogledd-orllewin Dyffryn Conwy, ar lan orllewinol afon Conwy, ar y ffordd B5106 chwe milltir i'r de o Gonwy ei hun, a chwe milltir i'r gogledd o Lanrwst. Mae gyferbyn a phentref Dolgarrog a ger pentref Llanbedr-y-Cennin. Mae'n debygol mai'r bont dros Afon Dulyn a gyfeirir ati yn yr enw, sy'n un o lednentydd yr afon Conwy.

Eryri a'r Carneddau[golygu]

Mae Tal-y-Bont yn fan cychwyn y ffordd i Llyn Eigiau a mynyddoedd deheuol y Carneddau. Gellir cyrraedd gogledd y Carneddau a Ffordd Rufeinig Caer-Segontiwm gan ddilyn y ffordd o Dal-y-Bont trwy Llanbedr-y-Cennin - sydd yn marcio ymyl dwyreiniol Parc Cenedlaethol Eryri - a throi i'r chwith wrth dafarn Ye Olde Bull Inn, yn Llanbedr. Gall cerddwyr gyrraedd ochr gogleddol Carneddau a mynyddoedd megis y Drum a Foel Fras, cyn cario mlaen i'r de ddwyrain i gyrraedd Carnedd Llewelyn.

Cyfleusterau[golygu]

Ysgol Tal-y-bont.

Mae capel ac ysgol gynradd, gwesty The Lodge, tafarn Y Bedol, siop cigydd T. Parry-Jones and Daughters, siop leol a neuadd goffa gyda cyfleusterau adloniadol sy'n cynnwys cwrt tenis. Roedd gorsaf petrol a garej unwaith, sef "Rose's Garage" a oedden yn eiddo Mr. Rose ac yn ddiweddrach ei fab Keith Rose, ond mae hwn eisioes wedi cau i lawr.

Henebion yn y cylch[golygu]

Lleolir pentref bychan Caerhun hanner milltir i'r gogledd o Dal-y-Bont, mae Caer Rufeinig Kanovium (tua 60 OC) i'w chanfod yma.

I'r gorllewin o'r pentref mae bryn o'r enw Pen-y-Gaer, lle ceir bryngaer o Oes yr Efydd ar ei gopa. Mae'r bryn yn sefyll mewn lleoliad awdurdodol uwchben y pentref, gyda golygfeydd i lawr y dyffryn i'r gogledd i Gonwy a Llandudno, ac i'r de i Llanrwst. Gellir cyrraedd Pen-y-Gaer gan ddilyn y ffordd sy'n mynd fyny drwy Llanbedr-y-Cennin, a throi i'r chwith wrth dafarn yr Olde Bull Inn a throi i'r chwith eto mewn rhai milltiroedd pan mae'r bryn yn ymddangos uwchben ar y chwith.

Dolenni allanol[golygu]