Llyn Eigiau

Oddi ar Wicipedia
Llyn Eigiau
Mathcronfa ddŵr Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirConwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.1822°N 3.8647°W Edit this on Wikidata
Rheolir ganRWE Generation UK PLC Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddEryri Edit this on Wikidata
Map
Llyn Eigiau o gopa Clogwynyreryr
Argae Llyn Eigiau, gyda'r bwlch yn ei mur i'w weld yn eglur

Llyn yw Llyn Eigiau ar ochr ddeheuol y Carneddau yn Eryri, gogledd Cymru (cyfeiriad grid SH718648). Mae'n gorwedd yn rhan isaf Cwm Eigiau rhwng Clogwyn yr Eira i'r gogledd (ysgwydd sy'n ymwthio o Foel Fras) a Chraig Ffynnon (rhan o Ben Llithrig-y-wrach) i'r de. Ar ei lan ogleddol mae clogwynni du a bygythiol Craig Eigiau yn codi bron i fil o droedfeddi i Glogwyn yr Eira.

Mae'n bosibl fod enw'r llyn yn dod o 'eigiau', ffurf luosog ar yr enw 'haig' neu 'haig' ("haig o bysgod; shoal of fish") ac yn cyfeirio at y pysgod ynddo. Posiblrwydd arall yw tarddiad o ail ystyr 'aig', sef "mintai (o ryfelwyr)".[1] Ceir y ffurf Llynyga ar rai hen fapiau.

Credir bod nifer fach o dorgoch Arctig yn byw yn y llyn (fel y maent yn Llyn Cowlyd gerllaw) ar ôl iddynt gael eu trosglwyddo yno o Lyn Peris; yn sicr mae'n un o'r ychydig lynnoedd yng Nghymru sydd â phoblogaeth o frithyllod brown naturiol.

Mae astudiaethau o weddillion yr argae wedi dangos bod ei seiliau'n annigonol iawn ac yn cynnwys darnau mawr o goncrît heb ei gymysgu.

Heddiw, mae wyneb y llyn tua 120 acer, gyda dyfnder o tua 32 troedfedd. Ond ar ôl i'r argae gael ei chodi buasai'n ddwywaith hynny.

Daw dŵr i lawr o'r mynydd i Lyn Eigiau drwy dwnel dan y mynydd islaw Llyn Dulyn, gyda thwnel arall yn cludo'r dŵr o Lyn Eigiau i Lyn Cowlyd.

Prif ffynhonnell dŵr Llyn Eigiau yw Afon Eigiau, afon fechan sy'n llifo i lawr trwy Gwm Eigiau. O'r llyn ei hun mae Afon Porth-llwyd yn llifo allan ac yn rhedeg i Gronfa Coedty cyn basio dan Bont Newydd yn Nolgarrog. Yna mae'n llifo i Afon Conwy.

Ceir lle parcio tua hanner milltir i'r dwyrain o'r hen argae, y gellir ei gyrraedd ar hyd y lôn gul sy'n dringo o Dal-y-bont, yn Nyffryn Conwy.

Trychineb[golygu | golygu cod]

Yn 1911 codwyd argae ¾ milltir o hyd a 35 troedfedd o uchder dros ben dwyreiniol y llyn i gyflenwi dŵr i bwerdy trydan Dolgarrog, i lawr yn Nyffryn Conwy, a oedd yn ei dro yn cyflenwi trydan i'r gwaith alcam gerllaw. Cafodd deunydd ar gyfer yr argae eu cludo ar hyd y dramffordd Eigiau newydd, a redai o Ddolgarrog ar hyd hen drac Tramffordd Chwarel Cedryn. Tynnod y contractiwr gwreiddiol allan o'r gwaith, gan honni bod corneli'n cael eu torri, ac ar 2 Tachwedd, 1925, ar ôl i 26 modfedd o law ddisgyn mewn pum diwrnod, torrodd yr argae. Gorlifodd y dŵr yn wyllt i lawr i Gronfa Coedty, gan achosi i honno dorri hefyd, a ffrydiodd miliynau o alwyni o ddŵr i lawr yn ddirybudd ar bentref Dolgarrog, gan ladd 17 o bobl. Codwyd pwerdy newydd yn Nolgarrog yn 1925.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Geiriadur Prifysgol Cymru d.g. 'aig' a 'haig'.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Jonah Jones, The Lakes of North Wales (Whittet Books, 1987)
  • Geraint Roberts, The Lakes of Eryri (Gwasg Carreg Gwalch, 1985)

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]