Drum
| Math | mynydd, copa |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Conwy |
| Gwlad | |
| Uwch y môr | 770 metr |
| Cyfesurynnau | 53.2068°N 3.936°W |
| Cod OS | SH7084669588 |
| Manylion | |
| Amlygrwydd | 48.4 metr |
| Rhiant gopa | Carnedd Llywelyn |
| Cadwyn fynydd | Eryri |
![]() | |
Y Drum yw'r mynydd sydd bellaf i'r gogledd-ddwyrain ar brif grib y Carneddau yn Eryri. Saif 2 km i'r gogledd-ddwyrain o Foel-fras yn Sir Conwy. Ymhellach i'r gogledd mae Tal y Fan, sy'n cael ei wahanu oddi wrth y brif grib gan Fwlch y Ddeufaen.
Mae Afon Tafolog yn tarddu ar ei lechweddau dwyreiniol, ac yn ymuno ag Afon Roe sy'n llifo trwy bentref Rowen cyn ymuno ag Afon Conwy. I'r de-orllewin mae Llyn Anafon. Gellir ei ddringo yn weddol hawdd ar hyd ffordd drol ar hyd y llechweddau gogleddol sydd bron yn cyrraedd y copa; mae hon yn fforchio oddi ar y trac rhwng Bwlch y Ddeufaen ac Abergwyngregyn.
Ceir carnedd sylweddol o faint, Carnedd Pen-y-dorth Goch[1], ar y copa. Rhyw 1 km i'r gogledd o'r copa mae carnedd arall, Carnedd y Ddelw, lle dywedir i groes neu ddelw aur gael ei darganfod yn 1812.

Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Jones, Iwan Arfon (1998). Enwau Eryri = Place-names in Snowdonia (arg. Arg. 1). Talybont, Ceredigion: Y Lolfa. ISBN 0-86243-374-6. OCLC 38591003.
