Llyn Anafon
![]() | |
Math | llyn ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Y Carneddau ![]() |
Sir | Gwynedd ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 53.209704°N 3.951411°W ![]() |
![]() | |
Llyn yng Ngwynedd yw Llyn Anafon. Saif y llyn, sydd ag arwynebedd o 13 acer a dyfnder o tua 10 troedfedd yn y man dyfnaf, yn y Carneddau, i'r de-ddwyrain o Abergwyngregyn a 1,630 troedfedd uwch lefel y môr. O'i gwmpas mae copaon Drum, Foel Fras a Llwytmor.
Defnyddir y llyn fel cronfa i gyflenwi dŵr i bentrefi Penmaenmawr a Llanfairfechan. Mae Afon Anafon yn llifo o'r llyn i ymuno ag Afon Aber. Gellir pysgota brithyll yma.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]
- Geraint Roberts, The Lakes of Eryri (Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch, 1995)