Llanfairfechan
![]() | |
Math |
anheddiad dynol, cymuned, dinas ![]() |
---|---|
| |
Gefeilldref/i |
Pleveleg ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Conwy ![]() |
Gwlad |
![]() |
Cyfesurynnau |
53.253°N 3.973°W ![]() |
Cod SYG |
W04000123 ![]() |
Cod OS |
SH683747 ![]() |
Cod post |
LL33 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Janet Finch-Saunders (Ceidwadwyr) |
AS/au | Robin Millar (Ceidwadwyr) |
![]() | |
Tref fach ar arfordir ogleddol Sir Conwy, sy'n gorwedd rhwng Penmaenmawr a Chonwy i'r dwyrain ac Abergwyngregyn a dinas Bangor i'r gorllewin, yw Llanfairfechan ("Llanfair" ar lafar yn lleol). Mae ffordd ddeuol yr A55 yn rhedeg yn agos i'r dref, rhyngddi a'r traeth, ac mae ganddi orsaf ar Reilffordd Arfordir Gogledd Cymru yn ogystal. Mae Caerdydd 204.2 km i ffwrdd o Llanfairfechan ac mae Llundain yn 326.2 km. Y ddinas agosaf ydy Bangor sy'n 11.4 km i ffwrdd.
Mae'r traeth yn gymharol eang ac yn ymestyn hyd Glan-môr Elias a gwarchodfa natur Madryn, ar lan Traeth Lafan, i gyfeiriad y dwyrain. Ceir pwll hwylio cychod, caffi, parc sglefrio a chyfleusterau eraill yno, ac mae'n boblogaidd gan bobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd. Tu ôl i'r dref mae'r tir yn codi i gyfeiriaid Tal-y-Fan, Bwlch-y-Ddeufaen a bryniau cyntaf y Carneddau. Llifa Afon Ddu ("Afon Llanfairfechan") i lawr drwy'r pentref o'i tharddle yn y Carneddau i'w haber.
Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Ceir nifer o safleoedd cynhanesyddol ar y bryniau uwchlaw'r pentref. Y pwysicaf ohonynt heddiw yw hen fryngaer Dinas, ond roedd amddiffynfa fawr Braich-y-Dinas, ar gopa'r Penmaen-mawr, ymhlith y fwyaf yng ngwledydd Prydain ac Iwerddon tan iddi gael ei dinistrio o'r diwedd trwy'r gwaith chwarel ar ddechrau'r 20g.
Fel yn achos Penmaenmawr, tyfodd y dref bresennol fel tref chwarel ithfaen a thref glan môr o ganol y 19g ymlaen. Ar un adeg bu canoedd o ddynion yn gweithio yn chwarel y Penmaen-mawr, ond erbyn heddiw mae'r gwaith chwarel wedi peidio i bob pwrpas ar yr ochr yma i'r mynydd.
Yr iaith Gymraeg[golygu | golygu cod y dudalen]
Yn ôl cyfrifiad 2001, mae 50.4% o boblogaeth y dref y medru'r Gymraeg. Mae hyn yn uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol o 20.8% ond yn gymharol isel mewn cymhariaeth â lleoedd fel Bethesda, cwta 8 milltir i'r de-orllewin tra'n uwch o gryn dipyn na'r lefel yng ngweddill trefi arfordirol sir Conwy. Ceir y canran uchaf o siaradwyr Cymraeg yn yr oedran 10-14, gyda 70% yn rhugl yn yr iaith.
Ysgolion[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae gan Llanfairfechan ddwy ysgol ddwyieithog, sef
- yr Ysgol Babanod (plant llai, hyd flwyddyn 2)
- Ysgol Pant-y-Rhedyn (ysgol gynradd, blwyddyn 3-6).
Gorwedd Ysgol Pant-y-rhedyn yn nhalgylch Ysgol Aberconwy ac Ysgol Y Creuddyn yn sir Conwy ac Ysgol Friars ym Mangor, Gwynedd.
Enwogion[golygu | golygu cod y dudalen]
- Rhys Cadwaladr, (fl. 1666-1699), bardd a ficer yn Llanfairfechan ar ddiwedd yr 17g.
Herbert Luck North (1871-1941), pensaer arloesol
Natur[golygu | golygu cod y dudalen]
Cafodd arolwg ei wneud yn Awst 2017 gan y Marine Conservation Society i mewn i lefelau sbwriel ar draeth Llanfairfechan.[1] Casgliwyd 760 eitem o sbwriel, gyda chyfartaledd o 7.60 eitem y metr o draeth.
Mae gan Llanfairfechan boblogaeth uchel iawn o goed, ac felly mae'n gartref hefyd i sawl math wahanol o adar.
Mewn diwylliant poblogaidd[golygu | golygu cod y dudalen]
Ymddangosodd y pentref yn y cyfresi teledu canlynol:
Ceid cyfeiriadau rheolaidd at y dref gan Wali Tomos yn y gyfres gomedi C'mon Midffild oherwydd y tebygrwydd rhwng rhan olaf yr enw ('-fechan') a'r gair "rhechan".
Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod y dudalen]
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[2][3][4]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ https://www.janetfinchsaunders.org.uk/sites/www.janetfinchsaunders.org.uk/files/2017-08/Llanfairfechan%20-%20Survey%2010%20Aug%202017.pdf
- ↑ "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
- ↑ Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]
- Braich-y-Dinas, hen fryngaer ddiflanedig
- Penmaen-mawr, y mynydd uwchben y pentref
- Traeth Lafan
- Wern Isaf, tŷ nodedig
- Ysgol Pant-y-Rhedyn
Abergele · Bae Cinmel · Bae Colwyn · Bae Penrhyn · Betws-y-Coed · Betws yn Rhos · Bryn-y-maen · Bylchau · Caerhun · Capel Curig · Capel Garmon · Cefn Berain · Cefn-brith · Cerrigydrudion · Conwy · Craig-y-don · Cwm Penmachno · Cyffordd Llandudno · Dawn · Deganwy · Dolgarrog · Dolwen · Dolwyddelan · Dwygyfylchi · Eglwysbach · Esgyryn · Gellioedd · Glanwydden · Glasfryn · Groes · Gwytherin · Gyffin · Hen Golwyn · Henryd · Llanbedr-y-cennin · Llandrillo-yn-Rhos · Llandudno · Llanddoged · Llanddulas · Llanefydd · Llaneilian-yn-Rhos · Llanfairfechan · Llanfair Talhaearn · Llanfihangel Glyn Myfyr · Llangernyw · Llangwm · Llanrwst · Llanrhos · Llanrhychwyn · Llan Sain Siôr · Llansanffraid Glan Conwy · Llansannan · Llysfaen · Maenan · Y Maerdy · Melin-y-coed · Mochdre · Nebo · Pandy Tudur · Penmachno · Penmaenmawr · Pensarn · Pentrefelin · Pentrefoelas · Pentre-llyn-cymmer · Pentre Tafarn-y-fedw · Pydew · Rowen · Rhydlydan · Rhyd y Foel · Tal-y-bont · Tal-y-cafn · Trefriw · Tyn-y-groes · Tywyn · Ysbyty Ifan