Traeth Lafan

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Traeth Lafan o lan-môr Llanfairfechan gydag Afon Menai ac Ynys Môn yn y cefndir

Mae Traeth Lafan yn draeth llanwol eang ym Mae Conwy rhwng Bangor, Gwynedd a Llanfairfechan, Sir Conwy yng ngogledd Cymru.

Ardal o fanciau tywod a mwd rhynglanwol ydyw, ar ben dwyreiniol Afon Menai. Ei arwynebedd pan fo'r llanw allan yw 2642 hectar. Pan fo'r llanw allan mae nifer o ffrydiau bychain dŵr croyw yn rhedeg drosto i'r môr. Mae'n cynnwys banc tywod anferth ar ei ymyl ogledd-ddwyreiniol a elwir yn Fanc y Dytshmon (Dutchman's Bank). Yn ôl traddodiad roedd y traeth yn dir sych ar un adeg ac yn rhan o deyrnas chwedlonol Tyno Helig a foddiwyd un noson ystormus.

Am ganrifoedd roedd pobl yn gorfod croesi Traeth Lafan ar lanw isel i ddal cwch fferi a ddeuai drosodd i'w cyfarfod er mwyn croesi i Ynys Môn. Dyma'r ffordd y cludwyd corff Siwan (gwraig Llywelyn Fawr) i'w orffwysfa ym mynachlog Llan-faes yn 1237. Yma hefyd, yn ôl pob tebyg, yr ymladdwyd Brwydr Moel-y-don ar y 6ed o Dachwedd 1282, rhwng y Cymry a'r Saeson.

Mae glannau Traeth Lafan ynghyd â'r traeth ei hun yn Ardal Warchodedig Arbennig (AWA / SPA) am ei fod yn gartref i gynifer o adar. Mae'n safle arbennig o bwysig yn y gaeaf, pryd ceir nifer o adar dŵr yno, yn arbennig piod y môr (Haematopus ostralegus). Pan fo'r tywydd yn ddrwg yn y gaeaf daw nifer o biod y môr draw o Lannau Dyfrdwy i gysgodi. Mae hefyd niferodd o bwysigrwydd rhyng-genedlaethol o'r Pibydd Coesgoch (Tringa totanus) yn gaeafu yma. Rhwng Bangor a Llanfairfechan mae nifer o warchodfeydd sy'n cael eu cynnal gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, Cyngor Gwynedd a Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, yn bennaf ar gyfer adar: Aberogwen, Morfa Aber, Morfa Madryn a Glan-y-môr Elias.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]