Glannau Dyfrdwy
Gwedd
| Math | tref bost, cytref |
|---|---|
| Enwyd ar ôl | Afon Dyfrdwy |
| Poblogaeth | 53,568 |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Sir y Fflint |
| Gwlad | |
| Cyfesurynnau | 53.2°N 3°W |
![]() | |
Ardal arfordirol yng ngogledd-ddwyrain Cymru, ar lan Afon Dyfrdwy ac o gwmpas ei haber yw Glannau Dyfrdwy (Saesneg Deeside). Yn ddaearyddol mae'n cynnwys arfordir gorllewinol penrhyn Cilgwri yng Ngogledd-orllewin Lloegr.
Mae'r ardal yn gytref ddiwydiannol o drefi a phentrefi yn Sir y Fflint ger y ffin rhwng Cymru a Lloegr, ac yn gorwedd ar ddwy ochr y darn camlasedig o Afon Dyfrdwy sy'n llifo o Gaer i mewn i Aber Dyfrdwy. Mae'r aneddiadau hynny'n cynnwys Cei Connah, Shotton, Queensferry, Aston, Garden City, Sealand, Brychdyn, Bretton, Penarlâg, Ewlo, Mancot, Pentre, Saltney a Sandycroft.

