Sealand, Sir y Fflint

Oddi ar Wicipedia
Sealand
Mathcymuned, pentrefan Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir y Fflint
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.212°N 2.97°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000207 Edit this on Wikidata
Cod OSSJ352688 Edit this on Wikidata
Cod postCH5 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auJack Sargeant (Llafur)
AS/auMark Tami (Llafur)
Map

Pentref a chymuned yn Sir y Fflint, Cymru, yw Sealand ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Nid ymddengys fod enw Cymraeg iddo; daw'r enw oherwydd ei fod ar dir a enillwyd oddi wrth y môr. Saif ger glan ogleddol Afon Dyfrdwy, ar y briffordd A548 i'r dwyrain o Queensferry ac i'r gogledd-orllewin o ddinas Caer.

Mae'r gymuned hefyd yn cynnwys Sealand Garden City, a sefydlwyd yn 1910 ar gyfer gweithwyr yng Ngwaith Dur John Summers. Wedi i'r gwaith dur gau yn 1979, sefydlwyd Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy. Yn y gymuned yma hefyd mae Maes Awyr Sealand, sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer gleiderau. Roedd poblogaeth y gynuned yn 2001 yn 2,746.

Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3][4]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Sealand, Sir y Fflint (pob oed) (2,996)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Sealand, Sir y Fflint) (212)
  
7.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Sealand, Sir y Fflint) (1011)
  
33.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed (Sealand, Sir y Fflint) (427)
  
33.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  2. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  3. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]