Abermor-ddu

Oddi ar Wicipedia
Abermor-ddu
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirYr Hôb Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.1042°N 3.0339°W Edit this on Wikidata
Cod OSSJ307568 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auJack Sargeant (Llafur)
AS/auMark Tami (Llafur)
Map

Pentref bychan yng nghymuned Llanfynydd, Sir y Fflint, Cymru, yw Abermor-ddu[1] neu Abermorddu[2] ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Saif ar briffordd yr A541 yn agos i'r ffin â Swydd Gaer, Gogledd-orllewin Lloegr, a tua 6 milltir o Wrecsam.

Daw'r enw o "aber y moel du", gydag "aber" yn golygu "pistyll" yn yr ystyr hwn.

Gwasanaethir yr ardal gan Ysgol Uwchradd Castell Alun. Mae'r pentrefi cyfagos yn cynnwys Caergwrle, Yr Hob a Cefn-y-bedd.

Yn agos i’r ystad tai newydd yn y pentref mae olion siambr gladdu o’r Oes Efydd[3]. Mae stryd o’r enw "Llys Cromlech" yn yr ystad i gofio am gynhanes y safle.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Jack Sargeant (Llafur)[4] ac yn Senedd y DU gan Mark Tami (Llafur).[5]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 14 Ionawr 2022
  3. "Abermor-ddu Burial Chamber".
  4. Gwefan Senedd Cymru
  5. Gwefan Senedd y DU
Eginyn erthygl sydd uchod am Sir y Fflint. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato