Sychdyn
![]() Ysgol Gynradd Sychdyn | |
Math |
pentref ![]() |
---|---|
| |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Sir y Fflint ![]() |
Gwlad |
![]() |
Cyfesurynnau |
53.1892°N 3.1389°W ![]() |
Cod OS |
SJ240664 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Hannah Blythyn (Llafur) |
AS/au | Rob Roberts (Ceidwadwyr) |
![]() | |
Pentref bychan yn Sir y Fflint yw Sychdyn. Lleolir ar ffordd yr A5119, tua dwy filltir i'r gogledd o'r Wyddgrug.
Cynrychiolir yr ardal hon yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Hannah Blythyn (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Rob Roberts (Ceidwadwyr).[1][2]
Disgrifiad[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae Sychdyn wedi ei amgylchynu gan dir fferm a choedwigoedd. Mae'n gartref i nifer o cymudwyr sy'n gweithio gerllaw yng Ngaer, Lerpwl neu Wrecsam. Mae tafarn y 'Cross Keys', siop SPAR, swyddfa bost, capel, ysgol marchogaeth, ac ysgol gynradd yn y pentref.
Mae Neuadd Goffa Sychdyn, a adeiladawyd yn 1911, yn gartref i nifer o gymdeithasau gan gynnwys Clwb Ieuenctid a'r "Red Dragon Lans". Gellir llogi'r neuadd ar gyfer achlysuron arbennig. Mae gan Sychdyn hefyd lawnt fowlio, cae pêl-droed a maes ar gyfer pop tywydd a all ei fwcio ar gyfer cynnal gemau. Eir trwy'r Arch Coffa Rhyfel er mwyn cyrraedd y lawnt bowlio, sy'n coffau'r rheiny a gollodd eu bywydau yn ymladd yn y lluoedd arfog.
"Soughton Hall" yw'r plas gwledig mwyaf[angen ffynhonnell] i gael ei droi'n westy, a lleolir ar gyrion gogleddol y pentref. Mae gwesteion o nod yn cynnwys Luciano Pavarotti, Michael Jackson a Juan Carlos I, Brenin Sbaen. Safai "Lower Soughton Hall" tua milltir i'r de o "Soughton Hall", ac mae'n gartref i'r chwarawr pêl-droed, Michael Owen.
Cynhelir carnifal Sychdyn yn flynyddol er mwyn codi arian tuag at cynnal mae chwarae'r pentref. Croronir y Frenhines Rhosyn ar ôl gorymdaith drwy'r pentref.
Mae Clwb Pêl-droed Sychdyn yn chwarae yng Nghyngrair Gyntaf Clwyd.
Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]
Daw'r enw Sychdyn o'r enw Saesneg Canol Soughton, sy'n golygu "tref y de".
Cynhaliodd Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru, sesiwn o'i lys ar gylch yno ar 27 Awst 1275.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Gwefan y Cynulliad; adalwyd 24 Chwefror 2014
- ↑ Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
Abermorddu · Afon-wen · Babell · Bagillt · Bistre · Bretton · Brychdyn · Brynffordd · Bwcle · Caergwrle · Caerwys · Carmel · Cefn-y-bedd · Cei Connah · Cilcain · Coed-llai · Coed-talon · Cymau · Chwitffordd · Ewlo · Y Fflint · Ffrith · Ffynnongroyw · Glan-y-don · Gorsedd · Gronant · Gwaenysgor · Gwernymynydd · Gwernaffield-y-Waun · Gwesbyr · Helygain · Higher Kinnerton · Yr Hob · Licswm · Llanasa · Llaneurgain · Llanferres · Llanfynydd · Llannerch-y-môr · Maes-glas · Mancot · Mostyn · Mynydd Isa · Mynydd y Fflint · Nannerch · Nercwys · Neuadd Llaneurgain · Oakenholt · Pantasaph · Pant-y-mwyn · Penarlâg · Pentre Ffwrndan · Pentre Helygain · Pen-y-ffordd · Pontblyddyn · Pontybotgyn · Queensferry · Rhes-y-cae · Rhosesmor · Rhyd Talog · Rhyd-y-ceirw · Rhydymwyn · Saltney · Saltney Ferry · Sandycroft · Sealand · Shotton · Sychdyn · Talacre · Treffynnon · Trelawnyd · Trelogan · Treuddyn · Yr Wyddgrug · Ysgeifiog