Neidio i'r cynnwys

Luciano Pavarotti

Oddi ar Wicipedia
Luciano Pavarotti
Ganwyd12 Hydref 1935 Edit this on Wikidata
Modena Edit this on Wikidata
Bu farw6 Medi 2007 Edit this on Wikidata
Modena Edit this on Wikidata
Label recordioDecca Records Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethyr Eidal, Teyrnas yr Eidal Edit this on Wikidata
Galwedigaethcanwr opera, actor ffilm Edit this on Wikidata
Arddullopera Edit this on Wikidata
Math o laislyric tenor Edit this on Wikidata
TadFernando Pavarotti Edit this on Wikidata
PriodAdua Veroni, Nicoletta Mantovani Edit this on Wikidata
Gwobr/auOfficier de la Légion d'honneur, Gwobr Grammy Legend, MusiCares Person of the Year, Gwobr Ffoaduriaid Nansen, Anrhydedd y Kennedy Center, Commander of the Order of Cultural Merit, Marchog Uwch-Groes Urdd Teilyngdod Gweriniaeth yr Eidal, Uwch swyddog Urdd Teilyngdod Gweriniaeth yr Eidal, Cadlywydd Urdd Teilyngdod Weriniaeth yr Eidal, Dinesydd Anrhydeddus Sarajevo, Classic Brit Awards Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.lucianopavarotti.com/ Edit this on Wikidata
llofnod

Canwr opera Eidalaidd oedd Luciano Pavarotti (12 Hydref 19356 Medi 2007).

Ganed Luciano Pavarotti ar gyrion Modena yng ngogledd yr Eidal. Roedd y teulu yn dlawd, ond roedd ei dad yn ganwr dawnus ac yn berchen recordiau o ganu tenoriaid megis Beniamino Gigli, Giovanni Martinelli, Tito Schipa a Enrico Caruso. Bu'n canu yng nghôr yr eglwys leol, ac yn 1954 dechreuodd gymeryd gwersi cerddorol. Yn 1955 roedd yn aelod o gôr lleol o Modena a ddaeth i gystadlu yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen. Enillodd y côr, a rhoddodd hyn ysgogiad iddo droi yn ganwr proffesiynol. Rhoddodd ei berfformiad opera cyntaf ar 29 Ebrill 1961 fel Rodolfo yn La bohème, yn Reggio Emilia.

Aeth ymlaen i ddod yn un o ganwyr mwyaf adnabyddus y byd. Daeth yn enwog ymhell tu hwnt i fyd opera, yn enwedig wedi Cwpan y Byd Pêl-droed 1990 a gynhaliwyd yn yr Eidal. Pavarotti yn canu aria Giacomo Puccini, "Nessun Dorma" o'r opera Turandot oedd thema'r gystadleuaeth, a chynhaliodd gyngerdd "Y Tri Tenor" yn Rhufain gyda Plácido Domingo a José Carreras.